MANYLION
  • Lleoliad: Merthyr Tydfil,
  • Oriau: Part time
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Cyflog: £13.26 - I: £13.26
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 08 Rhagfyr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Ystafell Fwyta/Goruchwyliwr Amser Cinio x2

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Cyflog: £13.26 - I: £13.26

Ysgol Gynradd Gymunedol Coed-y-Dderwen:Pennaeth Mrs S Townsin

Cynorthwyydd Ystafell Fwyta/Goruchwyliwr Amser Cinio x2

1- Cynorthwyydd Ystafell Fwyta/Goruchwyliwr Amser Cinio. Dyddiad cychwyn cyn gynted â phosibl.1 awr y dydd, 12.00pm i 1.00yp

£13.26 yr awr (pro rata)

Cyfrifoldebau Allweddol:

Mae'r dyletswyddau'n cynnwys goruchwylio disgyblion amser cinio yn neuadd/ystafelloedd dosbarth yr ysgol gyda'u cinio, ac yn y maes chwarae.

Cynorthwyo gyda glanhau a chlirio ardaloedd ar ôl cinio.

Mae penodi yn ddarostyngedig i Gytundebau Lleol a thelerau ac amodau.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Sarah Townsin ar 01685 351805 neu e-bostiwch head@coedydderwen.merthyr.sch.uk

Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a bennir fel hanfodol.

Os nad oes gennych fynediad i'r rhyngrwyd, gellir cael ffurflenni cais drwy ffonio 01685 725000 a dylid eu dychwelyd erbyn dydd Llun 8 Rhagfyr 2025 fan bellaf i Weinyddiaeth Adnoddau Dynol, Y Ganolfan Ddinesig, Stryd y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.

Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk

Mae gallu siarad Cymraeg yn ddymunol.

CYFEIRNOD SWYDD: DR019-1725

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo i amddiffyn a diogelu'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymuned. Cynhelir gwiriadau cyn-gyflogaeth trwyadl ar gyfer pob penodiad fel rhan o'n proses recriwtio a dethol.

Mae'n ofynnol i bob gweithiwr gydymffurfio â'u cyfrifoldebau unigol a sefydliadol o dan y Ddeddf Diogelu Data, y Polisi Diogelwch Gwybodaeth a pholisïau gweithredol ategol perthnasol. Ni ddylid datgelu na throsglwyddo unrhyw faterion o natur gyfrinachol i unrhyw bersonau anawdurdodedig neu drydydd parti o dan unrhyw amgylchiadau naill ai yn ystod neu ar ôl cyflogaeth ac eithrio yng nghwrs priodol eich cyflogaeth neu fel sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful neu'r ddau. Gall unrhyw dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.

Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain yn Gyflogwr o Ddewis, wedi ymrwymo i hyrwyddo ac integreiddio cyfle cyfartal ym mhob agwedd ar ein gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ymgeiswyr o bob grwp a chefndir i wneud cais ac ymuno â ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym wedi ymrwymo'n gryf i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle a sicrhau nad oes unrhyw wahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dethol ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas a phartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth a mynegiant rhywedd, a beichiogrwydd a mamolaeth.