MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Gradd Tâl Athrawon + 1 Pwynt AAA
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 09 Mai, 2025 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Athro Dylunio a Thechnoleg neu Athro Gwyddoniaeth

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Gradd Tâl Athrawon + 1 Pwynt AAA

Athro Dylunio a Thechnoleg neu Athro Gwyddoniaeth
Swydd-ddisgrifiad
Prif Gyfrifoldebau:
1. Ethos Ysgol
Gradd Tâl Athrawon + 1 Pwynt AAA
Pennaeth a Chorff Llywodraethu
Athro Dosbarth Dylunio a Thechnoleg a/neu Wyddoniaeth
• Cynnal a rhoi gweledigaeth a nodau cytunedig yr ysgol ar waith;
• Hyrwyddo lles disgyblion bob amser; Hyrwyddo cyfle cyfartal o fewn amgylchedd dysgu sy'n gynhwysol; Sicrhau safon uchel o ofal corfforol ac emosiynol i bob disgybl; Gwella datblygiad moesol, ysbrydol, cymdeithasol a diwylliannol disgyblion yn y dosbarth ac yn ystod gwasanaethau ysgol; Hyrwyddo ymddygiad da, parch tuag at bawb a rheolau'r ysgol; Anelu at feithrin hunan-ddisgyblaeth ym mhob disgybl; disgwyl ymddygiad da a chwrteisi gan bob disgybl; Gweithredu holl bolisïau a gweithdrefnau ysgol gyfan; Hyrwyddo datblygiad y Gymraeg a dealltwriaeth disgyblion o Gymru, ei
threftadaeth a'i diwylliant; Adrodd i'r Pennaeth ar les, anghenion cymdeithasol a phersonol disgyblion
unigol.
2. Cynllunio
• Paratoi cynlluniau cwricwlwm tymor hir, tymor canolig a thymor byr, gan gadw i fyny â gofynion y Cwricwlwm Newydd.
• Cynhyrchu cynlluniau gwersi wythnosol a gwerthuso cynnydd disgyblion; Nodi anghenion disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (AAA, MAT a
SIY) o fewn cynlluniau gwersi wythnosol a gwahaniaethu tasgau /
gweithgareddau yn unol â hynny. Cysylltu'n rheolaidd â'r CADY ac ystyried
CAU pob disgybl.
3. Addysgu a Threfniant yr Ystafell Ddosbarth
• Cynllunio, paratoi a chyflwyno gwersi sy'n diwallu anghenion pob disgybl yn y dosbarth; Creu amgylchedd dosbarth cadarnhaol, trefnus ac ysgogol lle caiff disgyblion eu herio a disgwyliadau iddynt roi eu gorau; Cael disgwyliadau uchel o bob plentyn a chyfathrebu hyn iddynt; Ymgyfarwyddo disgyblion â threfniadau a chyfrifoldebau ystafell ddosbarth; Marcio gwaith yn rheolaidd a rhoi adborth adeiladol i ddisgyblion, ar lafar ac yn ysgrifenedig, fel y bo'n briodol; Sicrhau y caiff gwaith plant ei arddangos i safon uchel; Gwneud defnydd effeithiol o adnoddau ystafell ddosbarth a chadw'r ysgol a'r ystafelloedd dosbarth yn daclus ac yn drefnus; Diogelu iechyd a diogelwch plant pan fyddant yn y dosbarth, pan fyddant ar
safle'r ysgol ac yn ystod gweithgareddau y tu allan i'r ysgol; Cadw cofnodion dyddiol o bresenoldeb disgyblion.