MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Brynrefail, Llanrug,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £34,495 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Athro/Athrawes Dylunio a Thechnoleg (Hyfforddi fel Athro Uwchradd)

Cyngor Gwynedd

Cyflog: £34,495 y flwyddyn

Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG

YSGOLION UWCHRADD

YSGOL BRYNREFAIL, LLANRUG
(Gyfun 11 - 18 oed, 771 o ddisgyblion)

Yn eisiau: 1af o Fedi, 2025.

Athro/Athrawes Dylunio a Thechnoleg (Hyfforddi fel Athro Uwchradd)

Cytundeb dros dro am ddwy flynedd hyd at 31.08.2027 yn unig yw hwn

Mae'r ysgol yn awyddus i benodi Athro/Athrawes Dylunio a Thechnoleg (Hyfforddi fel Athro Uwchradd) - gweler y swydd ddisgrifiad am fwy o fanylion.

Mae'r cynllun hwn wedi'i gefnogi gan Y Brifysgol Agored.

Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon Di-Gymhwyster (£21,812 - £34,495) yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd yma. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Gwahoddir unrhyw un sydd a diddordeb neu angen mwy o wybdaeth i gysylltu i drafod yn anffurfiol gyda'r Pennaeth Mewn Gofal, Miss Zoe L Jones, pennaeth@brynrefail.ysgoliongwynedd.cymru, neu ffôn 01286 672381.

Gofynnwn i unigolion sydd â diddordeb ymgeisio am y swydd baratoi ac anfon CV a llythyr eglurhaol i'r cyfeiriad ebost sg@brynrefail.ysgoliongwynedd.cymru.

DYDDIAD CAU: Hanner Dydd, Dydd Mercher 26ain o Fawrth, 2025

(Bwriedir cynnal y cyfweliadau yn ystod yr wythnos yn dechrau 31/03/25)
.
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

Manylion Person

-

Swydd Ddisgrifiad

YSGOL BRYNREFAIL

Swydd ddisgrifiad

Swydd : ATHRO/ATHRAWES DYLUNIO A THECHNOLEG (HYFFORDDI FEL ATHRO/ATHRAWES UWCHRADD)

Rheolwr Cyswllt : Pennaeth yr Adran/nau Perthnasol

Swydd: Athro / Athrawes

Graddfa Cyflog Athrawon Di-Gymhwyster

Athro/Athrawes Dylunio a Thechnoleg (Hyfforddi fel Athro Uwchradd)

Dyma gyfle i hyfforddi fel athro uwchradd drwy'r Brifysgol Agored TAR WEDI EI ARIANNU'N LLAWN (rhaglen 2 flynedd)

Oriau: Llawn Amser

Cyflog: Statws Athro Digymhwyster Pwynt 1-6 (£21,812- £34,495 y flwyddyn)

Yn eisiau erbyn: Medi 2025 (cytundeb dros dro hyd at 31/08/2027)

Mae Ysgol Brynrefail yn Ysgol Uwchradd 11-18 oed ym mhentref Llanrug yng Ngwynedd. Ar hyn o bryd, mae 771 o ddysgwyr yn yr ysgol gan gynnwys 136 o fyfyrwyr Chweched Dosbarth. Mae'r disgyblion yn dilyn rhan fwyaf o'u pynciau yn bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg ac o ganlyniad mae bron pob disgybl yn rhugl ddwyieithog. Mae awyrgylch hapus a chartrefol yma, gyda pherthynas iach rhwng y disgyblion a'r staff.

Mae'r ysgol yn cynnig cyfle arbennig i unigolyn trwy raglen TAR (2 flynedd) a ariennir gan Lywodraeth Cymru, drwy bartneriaeth Y Brifysgol Agored. Rydym eisoes wedi cynnig lleoliadau i unigolion ar y cynllun yma. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn addysgu Dylunio a Thechnoleg i ddisgyblion Ysgol Brynrefail a bydd angen gwneud cais i'r Brifysgol Agored gydag ardystiad gan Ysgol Brynrefail.

Mae'r rhaglen wedi'i hanelu at raddedigion sydd unai'n gweithio ar hyn a bryd ac eisiau newid gyrfa, neu sydd â phrofiad blaenorol o weithio mewn amgylchedd gyda phlant a phobl ifanc. Gall hyn gynnwys cynorthwywyr addysgu a hyfforddwyr dysgu sy'n dymuno symud ymlaen yn eu gyrfa. Croesewir ceisiadau gan ymgeiswyr sydd yn eu blwyddyn olaf yn y Brifysgol hefyd.

Rydym yn edrych am unigolion sydd yn angerddol am gefnogi gweledigaeth yr ysgol a thrwy hynny, wneud gwahaniaeth mawr yn addysg ac ym mywydau ein disgyblion. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael cefnogaeth lawn gan yr ysgol a gan athrawon profiadol iawn wrth iddynt ddatblygu i fod yn addysgwyr llwyddiannus.

Mae'r llwybr TAR yn raglen 2 flynedd. Rhaid i ymgeiswyr fodloni'r gofynion mynediad TAR arferol ac mae rhagor o fanylion am hyn ar gael ar gais. Yn ogystal â hynny, bydd angen i chi ddangos y canlynol:
  • Dawn, gallu a gwydnwch i fodloni'r canlyniadau SAC gofynnol erbyn diwedd eich rhaglen TAR
  • Rhinweddau personol a deallusol i ddod yn ymarferydd rhagorol
  • Gallwch ddarllen yn effeithiol a chyfathrebu'n glir mewn Cymraeg/Saesneg llafar ac ysgrifenedig
  • Sgiliau swyddogaethol personol mewn llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol sy'n berthnasol mewn cyd-destun addysgu a dysgu proffesiynol.

Oherwydd natur y swydd byddwn yn gofyn am ddatgeliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus. Mae'n ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon. Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd.

DISGRIFIAD O'R RHAGLEN

Gofynion mynediad ar gyfer llwybr TAR i addysgu a ariennir yn llawn gan y Brifysgol Agored

Mae'n ofynnol i ymgeiswyr ddal y canlynol, o leiaf:
  • Safon sy'n cyfateb i TGAU Gradd C neu uwch mewn Mathemateg neu Fathemateg-Rhifedd
  • Safon sy'n cyfateb i TGAU Gradd C neu uwch mewn naill ai Saesneg Iaith neu Gymraeg Iaith Gyntaf
  • Gradd anrhydedd lawn yn y DU (neu gyfwerth). Rhaid i chi feddu ar radd sydd ag o leiaf 50% o berthnasedd i'r pwnc os ydych am addysgu i ddod yn athro ysgol uwchradd (dysgwyr 12-16 oed). I'r ymgeiswyr hynny sy'n gwneud cais pwnc Cymraeg, nid oes rhaid i'ch gradd fod yn y maes hwn o reidrwydd os gallwch ddangos eich bod yn defnyddio'r iaith yn rhugl, oherwydd efallai y bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi yn dibynnu ar ddyfnder eich gwybodaeth.

Mae angen i ymgeiswyr fod ar gael i ymrwymo i gontract llawn amser (nid yn ystod y tymor yn unig) tan ddiwedd y rhaglen ym mis Gorffennaf 2027 a bydd yn ofynnol iddynt fod wedi'u lleoli yn yr ysgol o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Mrs Angharad Davies, Rheolwr Busnes a Chyllid ar sg@brynrefail.ysgoliongywnedd.cymru . Croesawir ceisiadau am sgyrsiau anffurfiol gyda'r Pennaeth Mewn Gofal.

DYDDIAD CAU: Hanner Dydd, Dydd Mercher 26ain o Fawrth, 2025

(Bwriedir cynnal y cyfweliadau yn ystod yr wythnos yn dechrau 31/03/25)

Datganiad Diogelu

Mae'r ymrwymiad hwn. Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi