MANYLION
- Lleoliad: Caernarfon,
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £48,710 y flwyddyn
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Cyflog: £48,710 y flwyddyn
ManylionHysbyseb Swydd
*DALIER SYLW* Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr cynhwysol ac i wella amrywiaeth ein gweithlu. Bydd eich ffurflen gais yn cael ei hasesu yn ddienw. Ni fydd eich teitl, enw na chyfeiriad e-bost yn cael ei rannu â'r panel sy'n penodi at bwrpas llunio rhestr fer. Dylech ystyried hyn yn ofalus wrth ysgrifennu amdanoch eich hun yn y rhan gwybodaeth pellach.
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Gwern Rhisiart ar 01286 679958
Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 24/03/2025
Dyddiad cyfweliad - 07/04/2025
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r
cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Gwerthfawrogi pwysigrwydd canolog y dysgwr mewn addysg
DYMUNOL
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Addysg hyd lefel gradd.
DYMUNOL
Statws athro wedi'i gymhwyso.
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad o reolaeth ganol / uwch mewn Ysgol Uwchradd neu Goleg.
Profiad o reoli cyllideb a staff.
Profiad o drefnu a chydlynu cyrsiau / cwricwlwm mewn sefydliad addysgol.
Profiad o arwain tîm llwyddiannus.
Profiad o weinyddu lefel uwch.
DYMUNOL
Profiad o reoli cynllun neu raglen uchelgeisiol.
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Dealltwriaeth drylwyr o faes ôl-16.
Dealltwriaeth gadarn o drefn cyllido ôl-16 ysgolion a cholegau.
Meddu ar wybodaeth o sut mae cydweithio â phartneriaid allweddol, asiantaethau a gwasanaethau cefnogi yn cyfrannu at wella darpariaeth addysgol a phrofiad dysgwyr.
Y gallu i ddehongli data.
DYMUNOL
Sgiliau trefnu a sgiliau cyfathrebu rhagorol.
ANGHENION IEITHYDDOL
Y gallu i gyfathrebu'n y Gymraeg a'r Saesneg i safon uchel fel ei gilydd.
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod pobl Gwynedd ac Ynys Môn yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
• Rheoli gwaith y Consortiwm Addysg ôl-16 Gwynedd ac Ynys Môn
• Cydlynu cyrsiau partneriaeth ôl-16 ac 14-19 ysgolion Gwynedd ac Ynys Mon, gan cynnwys cyrsiau cydweithredol Grwp Llandrillo Menai
• Cyfrifoldeb am gwblhau dogfennau statudol Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r maes
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
• Bod yn reolwr llinell i 2 aelod o staff
• Cyfrifoldeb am grant rhwydwaith 14-19 Gwynedd ac Ynys Môn a grant Rhwydwaith Seren
Prif Ddyletswyddau. .
Rheoli gwaith y Consortiwm Addysg ôl-16
• Cyd gynllunio cynllun busnes y Consortiwm gydag Uwch Reolwyr Addysg y ddwy sir a'r Colegau a sicrhau ei weithrediad gan fonitro ei ddeilliannau.
• Adrodd ar ansawdd y ddarpariaeth yn y meysydd 14-19 ac ôl-16 i BAS (Bwrdd Ansawdd Sirol) y ddwy sir yn ôl y gofyn.
• Bod yn gyfrifol am wneud ceisiadau am grantiau sy'n berthnasol i'r sectorau ôl-16 ac 14-19.
• Sicrhau defnydd effeithiol o system data a system teithio'r Consortiwm a'r wefan a chytuno ar delerau gyda'r darparwyr.
• Cydgysylltu gyda'r colegau ac asiantaethau eraill i feithrin a datblygu perthnasau ystyrlon gyda busnesau lleol/rhanbarthol a chyda phartneriaid eraill i gefnogi gwell dealltwriaeth o ofynion lleol, a chynyddu'r cyfleoedd ar gyfer prentisiaethau a mynediad at addysg uwch.
• Sefydlu a chynnal cysylltiadau cynhyrchiol gyda Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru a Medr.
• Paratoi adroddiadau a gwneud gwaith ymchwil yn unol a chyfarwyddyd aelodau'r bartneriaeth ddysgu a'r Bwrdd Arweiniol.
• Bod yn gyfrifol am y grant Rhwydwaith 14-19 yng Ngwynedd ac Ynys Môn.
• Cydlynnu ac arolygu Rhwydwaith Seren y Consortiwm, gan roi sylw arbennig i ddeilliannau'r gweithgareddau.
Cydlynu cyrsiau partneriaeth ôl-16 ac 14-19 rhwng Gwynedd, Môn a Grŵp Llandrillo Menai
• Hyrwyddo a hwyluso cydweithio rhwng ysgolion a cholegau y bartneriaeth.
• Bod yn gyfrifol am raglennu a gweinyddu cyfarfodydd grwpiau partneriaeth ardal a chyfarfod partneriaeth dysgu'r Consortiwm.
• Cydlynu gweithgareddau'r grwpiau partneriaeth.
• Cydlynu cwricwlwm 14-19 o fewn rheolau'r grant.
• Sicrhau bod nosweithiau agored a sesiynau blasu i ddysgwyr yn cael eu trefnu yn unol a'r gofyn, a darganfod ffyrdd i gynnig llais i'r dysgwr drwy'r meysydd cyfrifoldeb.
• Sicrhau trefn hunan arfarnu a phrotocolau rhannu data a gwybodaeth ar gyfer y cyrsiau partneriaeth.
Cyfrifoldeb am gwblhau dogfennau statudol Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r maes
• Cynorthwyo yn y gwaith o gasglu ac adrodd ar hynt disgyblion.
• Cwblhau dogfennau statudol sy'n ymwneud â'r maes ac adrodd i'r Llywodraeth a Medr ar y rhaglenni dysgu fel bo'n briodol.
• Adrodd ar fesurau perfformiad ôl-16 fel bo'n briodol
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
- Ceisio ar lein - Sut?
- Rhestr Swyddi