MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Heb ei ddarparu
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Rhan amser
- Cytundeb: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Fesul awr
- Cyflog: Grade 2 | £13.47 per hour
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 01 Gorffennaf, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Goruchwyliwr Canol Dydd - Ysgol Gynradd Cwmffrwdoer
Torfaen Local Authority
Cyflog: Grade 2 | £13.47 per hour
Mae gennym gyfle cyffrous i unigolyn brwdfrydig, cyfeillgar sy'n llawn cymhelliant ymuno â'r Tîm Ysgolion fel goruchwylydd ganol dydd! Eich rôl chi fydd cynorthwyo ym mhob rhan o'r Neuadd a'r iard i gyflawni'r safonau ymddygiad gofynnol, gan gynnwys bwyd a derbyn a throsglwyddo plant ar yr adegau priodol. Goruchwylio plant wrth iddynt ddod i mewn i'r neuadd fwyta a gadael. Goruchwylio a rhyngweithio â'r plant ar yr iard chwarae neu yn yr ystafell ddosbarth. Annog plant i roi tro ar fwydydd gwahanol, defnyddio cyllyll a ffyrc yn iawn a goruchwylio gweithdrefnau glanhau. Rhoi cymorth cyntaf fel sy'n briodol. Goruchwylio plant yn y dosbarth yn ystod amseroedd chwarae gwlyb a rhyngweithio â phlant yn ystod gweithgareddau chwarae gwlyb. Bod yn ymwybodol o unrhyw ymwelwyr/ddieithriaid ar dir yr ysgol. Rhoi gwybod i'r pennaeth, yr athro dosbarth neu dîm y swyddfa os nad ydych yn siŵr pam fo oedolion ar safle'r ysgol.Mae'r swydd am 5 awr yr wythnos, 12:00 -1pm, yn goruchwylio plant ysgol gynradd yn ystod eu hamser cinio. Mae Ysgol Gynradd Cwmffrwdoer yn ysgol ffyniannus i ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed sydd wedi'i lleoli ym Mhont-y-pŵl. Ar hyn o bryd mae yna 200 o ddisgyblion ar y gofrestr a naw dosbarth i gyd.
Yn Ysgol Gynradd Cwmffrwdoer, mae gennym y disgwyliadau uchaf o'n disgyblion a'n staff, i sicrhau bod pawb yn llwyddo'n academaidd, yn gymdeithasol ac yn emosiynol. Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i gyflawni arwyddair yr ysgol 'Meithrin, Cyflawni. Dathlu'
Am drafodaeth anffurfiol am y swydd wag hon, mae croeso i chi gysylltu â Sarah Roque-Truelove ar 01495 742761
Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf 'Hanfodol' a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais - canllaw i ymgeiswyr | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.
Mae'r swydd hon wedi'i heithrio rhag Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a bydd yn cynnwys gwiriad Manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau y mae gweithlu amrywiol yn dod â nhw ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli.
Mae Sgiliau Iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon ond nid yn hanfodol. Mae croeso i chi gyflwyno eich cais yn Gymraeg neu'n Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.
Rydym yn Arweinydd sy'n Hyderus o ran Anabledd cofrestredig ac rydym wedi ymrwymo i gyflogi pobl anabl ac i ddatblygu eu gyrfa. Mae ein cynllun Gwarant o Gyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, cyn belled â'u bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes cyflwr iechyd arnoch, os ydych chi'n niwrowahanol, neu'n defnyddio iaith arwyddion Prydain, ac angen trafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn ni weithio gyda chi i drefnu addasiadau ond mae'n rhaid i ni gael gwybod beth yw eich gofynion cyn i chi gyflwyno'ch cais, neu cyn eich prawf neu gyfweliad.