MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Schools,
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: G05 pwynt 12-19 £20,945 - £23,482 y flwyddyn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 17 Chwefror, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: G05 pwynt 12-19 £20,945 - £23,482 y flwyddyn
YSGOL TUDNOTrinity Avenue, Llandudno, Conwy LL30 2SJ
Ffôn: (01492) 875252
Pennaeth: Mrs Iona M Hughes
Yn eisiau erbyn mis Mawrth 2025
Cymhorthydd Addysgu Lefel Uwch Dros Dro
(Contract Dros Gyfnod Mamolaeth)
Cyflog: G05 pwynt 12-19 £20,945 - £23,482 y flwyddyn
Oriau: 32 ½ awr yr wythnos, tymor ysgol a 5 diwrnod hyfforddiant
Mae Llywodraethwyr Ysgol Tudno yn dymuno penodi Cymhorthydd Addysgu Lefel Uwch brwdfrydig i'r swydd uchod i weithio gyda disgyblion y Cyfnod Sylfaen a Cyfnod Allweddol 2. Mae'r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol
Oherwydd natur y swydd byddwn yn gofyn am ddatgeliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus. Mae yn ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda Cyngor y Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon.
Am ragor o fanylion ynglŷn â'r swydd, cysylltwch â'r ysgol ar 01492 875252
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio Os na fyddwch yn cael gwybod o fewn 3 wythnos wedi'r dyddiad cau eich bod ar restr fer ar gyfer cyfweliad, rhaid i chi gymryd yn ganiataol na fyddwch yn cael cyfweliad. Ni fyddwch yn cael gwybod hynny ar bapur. Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n diwallu gofynion hanfodol swydd yn cael cyfweliad.
This form is also available in English .