MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £23,656
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 10 Mawrth, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwy-ydd Arlwyo - Canolfan Dydd Cwmamman

Cyngor Sir Caerfyrddin

Cyflog: £23,656

Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.

Ynglŷn â'r swydd wag

Cyfeirnod y Swydd Wag: 1206

Sefydliad: Cyngor Sir Caerfyrddin

Adran: Canolfan Ddydd Cwmaman

Nifer y swyddi gwag: 1

Math o gontract: Parhaol Rhan-amser

Lleoliad: Rhydaman

Gradd: Gradd A

Cyflog: £23,656

Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny

Cyfradd yr awr: £12.26

Oriau Contract: 16

Dewch i ymuno â'n tîm
Cyfle cyffrous i unigolion brwdfrydig, ymroddedig a hyblyg ymuno â thîm sefydledig, gan ddarparu bwyd maethlon o ansawdd uchel a hyrwyddo hydradiad mewn lleoliad Gofal Dydd. Rydym yn chwilio am unigolion sy'n llawn cymhelliant, brwdfrydedd, sydd ag agwedd gadarnhaol ac sydd am wneud gwahaniaeth i fywydau'r bobl rydym yn eu cefnogi. Mae croeso i Gynorthwywyr Arlwyo profiadol a'r rhai newydd wneud cais.

Bydd y cyfrifoldebau'n cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

• Gweini prydau bwyd

• Ymgymryd â dyletswyddau cegin cyffredinol gan gynnwys golchi llestri ac offer.

• Cydymffurfio â deddfwriaeth a safonau Hylendid Bwyd, Iechyd a Diogelwch a Rheoli Heintiau

Manteision gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin: Gwyliau blynyddol â thâl, Cynllun Pensiwn Awdurdodau Lleol, Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol, Cynllun Beicio i'r Gwaith, oriau contract gwarantedig, patrwm gwaith rheolaidd, gwisg lawn a PPE a gyflenwir, pecyn sefydlu a hyfforddiant llawn â thâl gyda llwybr gyrfa ardderchog.

Bydd disgwyl i staff arlwyo weithio tuag at hyfforddiant Hylendid Bwyd ac Alergenau lefel 2.

Am drafodaeth anffurfiol, cysylltwch â: Bernadette Thomas 07812502827.

Disgrifiad Swydd: 012513.pdf - 141KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~

Dyddiad disgwyliedig y cyfweliad: 27 Chwefror 2025

Lefel DBS: Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon

Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad: Lefel 2 - Bydd angen ichi fod â lefel sylfaenol o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.

Dyddiad Cau: 10/02/2025, 23:55

Y Buddion

Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
  • Cyflog cystadleuol
  • Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
  • Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
  • Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
  • Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
  • Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
  • Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd


Gwybodaeth Ychwanegol

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.

Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work . Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.

Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.

Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.