MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Schools,
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 16 Rhagfyr, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon
Lleoliad gwaith: Ysgolion Cynradd ConwyMae'r Gwasanaeth Saesneg fel Iaith Ychwanegol (SIY) yn gweithredu ar draws yr awdurdod gan weithio mewn modd peripatetig yn ysgolion Conwy a Sir Ddinbych. Bydd deiliad y swydd yn cefnogi ysgolion cynradd yng Nghonwy sydd â disgyblion o leiafrifoedd ethnig yn dysgu Saesneg fel Iaith Ychwanegol (SIY). Gall y swydd hon gynnwys gweithio gyda dysgwyr SIY o'r Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2.
Mae'r gwaith yn cynnwys cynnig cyngor i staff ysgolion yn ogystal â chynnig cefnogaeth uniongyrchol i ddysgwyr SIY. Mae cyfrannu at y gwaith ar y cyd sy'n mynd rhagddo o fewn tîm y Gwasanaeth SIY hefyd yn elfen bwysig o'r gwaith.
Mae'n rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar Statws Athro Cymwysedig. Byddai cymhwyster trydyddol mewn Saesneg neu gymhwyster pellach mewn SIY/TEFL yn ddymunol.
Bydd gofyn i ddeiliad y swydd deithio i ysgolion a chyfarfodydd ac ati felly mae'n hanfodol fod deilydd y swydd yn fodlon ac yn gallu teithio ledled y Sir.
Oherwydd natur y swydd, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae yn ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda y Cyngor Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Katharine Roberts, Rheolwr SIY, 07920 154416 katharine.roberts@denbighshire.gov.uk
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg ar lefel 1 ar gyfer siarad/ysgrifennu/darllen yn ddymunol. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
This form is also available in English.