MANYLION
  • Lleoliad: Caldicot, Monmouthshire, NP26 4NR
  • Testun: Glanhawr
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Gweithiwr Glanhau a Hylendid -Ysgol Gymraeg Y Ffin (5 awr)

Cyngor Sir Fynwy
Rydym yn ceisio llenwi'r lle glanhau dros dro a ganlyn yn Ysgol Gymraeg Y Ffin - Cil-y-coed.

Bydd y dyletswyddau yn cynnwys sicrhau y caiff yr adeilad i gadw i lefel uchel o hylendid a glanweithdra.

Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus wneud tasgau glanhau megis golchi lloriau a waliau, ysgubo, defnyddio peiriant sugno llwch, tynnu llwch a gwagu biniau sbwriel.

Ein Diben:-
Darparu gwasanaethau glanhau proffesiynol ar gyfer llyfrgelloedd, amgueddfeydd, adeiladau gweinyddol, cyfleusterau cyhoeddus ac ysgolion o fewn Sir Fynwy.






Pwrpas y rôl:-
Sicrhau y caiff yr adeilad ei gynnal i lefel uchel o hylendid a glanweithdra.

Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus wneud tasgau glanhau megis golchi lloriau a waliau, ysgubo, defnyddio peiriant sugno llwch, tynnu llwch a gwagu biniau sbwriel

Disgwyliadau a Chanlyniadau’r Rôl:-

Sicrhau cynnal amgylchedd glân ac ymarferol sy'n hwyluso cynnal busnes y Cyngor mewn modd effeithlon.

Bydd eich cyfrifoldebau yn cynnwys:-
• Cwblhau tasgau glanhau golchi lloriau a waliau, ysgubo, gwagu biniau sbwriel, polisio a thynnu llwch.

• Glanhau ystafelloedd ymolchi.

• Gweithredu peiriannau sugno llwch a pholisio/sgrwbio yn ddiogel.

• Sicrhau y cedwir stoc ddigonol o ddeunyddiau glanhau.

• Hysbysu'r goruchwyliwr am bob nam ar offer glanhau.

• Sicrhau y caiff cemegolion eu defnyddio'n gywir bob amser.

• Gweithio fel aelod o Uned Cyfleusterau Sir Fynwy ar unrhyw safle.

• Dilyn unrhyw hyfforddiant sydd ei angen ar gyfer y swydd.

• Cydymffurfio ag unrhyw ofynion a amlinellir gan Lawlyfr Gweithdrefn Ansawdd Uned Cyfleusterau Sir Fynwy yng nghyswllt safonau ansawdd.

• Cydymffurfio â rheoliadau Iechyd a Diogelwch, fel y'u nodir gan yr awdurdod i sicrhau eu diogelwch eu hunain ac eraill.

• Cydymffurfio gydag egwyddorion ac ymarfer cyfle cyfartal fel y'u nodir ym mholisi Cyfle Cyfartal y Cyngor.