MANYLION
  • Lleoliad: Merthyr Tydfil,
  • Oriau: Part time
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Cyflog: £12.85 - I: £12.85
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 07 Tachwedd, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Ystafell Fwyta / Goruchwylydd Amser Cinio

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Cyflog: £12.85 - I: £12.85

Ysgol Gynradd Gymunedol Coed-y-Dderwen
Pennaeth: Mrs S Townsin

Cynorthwyydd Ystafell Fwyta / Goruchwylydd Amser Cinio

1- Cynorthwyydd Ystafell Fwyta / Goruchwylydd Amser Cinio. Dyddiad cychwyn: Cyn gynted â phosib. 1 awr y diwrnod, 12:00pm-1:00pm

£12.85 yr awr (pro rata)

Prif gyfrifoldebau:

Mae'r cyfrifoldebau'n cynnwys goruchwylio disgyblion amser cinio gyda'u cinio yn y neuadd ysgol / ystafell ddosbarth a hefyd ar yr iard.

Cynorthwyo i lanhau a chlirio'r ardaloedd bwyta wedi cinio.

Mae'r penodiad yn amodol ar Gytundebau Lleol a thelerau ac amodau.

Gellir cwblhau ffurflenni cais ar-lein: www.merthyr.gov.uk

E-bost Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn annog ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. Gallwch gyflwyno'ch ffurflen gais yn Gymraeg ac ni fydd unrhyw geisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin mewn ffordd lai ffafriol na'r ffurflenni cais a gyflwynir yn Saesneg.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Sarah Townsin drwy ffonio 01685 351805 neu anfonwch e-bost at Sarah.townsin@merthyr.gov.uk

Bydd disgwyl i chi ddarparu tystiolaeth o bob un cymhwyster sydd wedi ei nodi yn hanfodol.

Gellir cwblhau ffurflenni cais ar-lein drwy ymweld â www.merthyr.gov.uk
Os nad oes modd i chi ddefnyddio'r rhyngrwyd, gallwch gael gafael ar ffurflen gais drwy ffonio 01685 725199 a'i dychwelyd nid hwyrach na dydd Gwener y 7fed o Dachwedd i Adnoddau Dynol/ HR Administration, Y Ganolfan Ddinesig, Stryd y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.

Rydym yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag yn gynharach na'r dyddiad cau.

E-bost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn annog ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. Gallwch gyflwyno'ch ffurflen gais yn Gymraeg ac ni fydd unrhyw geisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin mewn ffordd lai ffafriol na'r ffurflenni cais a gyflwynir yn Saesneg.

Os ydych chi'n llwyddo i gyrraedd y rhestr fer ar gyfer cyfweliad cysylltwch ag Adnoddau Dynol drwy anfon e-bost at human.resourcesadmin@merthyr.gov.uk er mwyn rhoi gwybod i ni os hoffech gynnal eich cyfweld drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo i warchod a diogelu'r bobl sydd fwyaf agored i niwed o fewn ein cymuned. Cyflawnir gwiriadau cyflogaeth trwyadl ar gyfer pob un penodiad fel rhan o'n proses recriwtio a dethol.

Rhaid i bob aelod o staff gydymffurfio gyda'u cyfrifoldebau unigol a chyfrifoldebau'r sefydliad yn unol â'r Ddeddf Diogelu Data, y Polisi Diogelwch Gwybodaeth ac unrhyw bolisïau gweithredol perthnasol eraill sy'n cefnogi'r rhain. Ni ddylai unrhyw fater o natur gyfrinachol gael eu datgelu na'u rhannu gydag unrhyw un anawdurdodedig na chwaith eu rhannu gyda thrydydd person ar unrhyw amod, nid yn ystod cyfnod y swydd na chwaith wedi i'r swydd ddod i ben heblaw yn ôl y drefn briodol o fewn eich swydd neu fel sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu'r ddau. Gallai tor-cyfrinachedd arwain at orchymyn disgyblu.

Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth o fewn ein gweithlu ac ystyriwn ein hunan yn Gyflogwr Delfrydol, sydd wedi ymrwymo i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i mewn i bob elfen o'n gwaith. Croesawn ffurflenni cais gan bawb ac anogwn ymgeiswyr o bob grwp a chefndir i ymgeisio ac i ymuno â ni ym Mwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn gwbl ymrwymedig i waredu ar wahaniaethu yn y gweithle ac i sicrhau nad oes unrhyw wahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn ystod y broses recriwtio a dethol ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas a phartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd a beichiogrwydd a mamolaeth.