MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Penybryn, Tywyn,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £11,624 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 07 Tachwedd, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Glanhawr Goruchwyliol Gofal - Ysgol Penybryn Tywyn

Cyngor Gwynedd

Cyflog: £11,624 y flwyddyn

Manylion
Hysbyseb Swydd

Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth

Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.

(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)

Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Gwyneth Elizabeth Hughes ar 01286 679185

Cynnal cyfweliadau i'w gadarnhau.

Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH

Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru

DYDDIAD C AU: 10.00 O'R GLOCH, 07/11/2024

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus

Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.

Os hoffech gefnogaeth i ymgeisio, mae Gwaith Gwynedd ar gael i roi cymorth i drigolion Gwynedd mynd i waith - am fwy o wybodaeth cliciwch yma .

Manylion Person
Nodweddion personolHanfodol
-
Dymunol
Gallu gweithredu fel aelod o dîm
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasolHanfodol
-
Dymunol
Hyfforddiant mewn gweithdrefnau glanhau

Hyfforddiant mewn Iechyd a Diogelwch, e.e. symud a thrin neu cymorth cyntaf
Profiad perthnasolHanfodol
-
Dymunol
Profiad o goruchwylio staff

Profiad o weithio mewn swydd glanhau
Sgiliau a gwybodaeth arbenigolHanfodol
-
Dymunol
Meddu ar sgiliau rhyngbersonol da

Sgiliau cyfathrebu da
Anghenion ieithyddolGwrando a Siarad - Mynediad
Gallu ynganu enwau llefydd a phobl yn gywir.Gallu dilyn cyfarwyddiadau a deall rhediad sgwrs syml drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar faterion cyfarwydd ac ymateb i geisiadau syml am wybodaeth.
Darllen a Deall - Mynediad
Gallu darllen a deall llythyrau byr, syml, negeseuon ebost, taflenni, ac arwyddion syml drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar faterion cyfarwydd bob dydd er mwyn eu trosglwyddo i berson arall.
Ysgrifennu - Mynediad
Gallu ysgrifennu nodyn syml yn gofyn am neu'n rhoi gwybodaeth am faterion cyfarwydd bob dydd yn y gweithle.

Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.

• Goruchwylio staff glanhau ar y safle

• Ymgymryd yn arferol fel rhan o dîm gwaith glanhau rhannau penodedig ar safle'r ysgol i sicrhau eu bod yn cael eu cadw'n lân ac mewn cyflwr a fydd yn hybu iechyd.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
• Offer

• Staff

• Adeilad
Prif ddyletswyddau
Cyffredinol

• Mewn ymgynghoriad â'r Arweinydd Tîm Arlwyaeth a Glanhau Ysgolion bod yn gyfrifol am archebu defnyddiau glanhau.

• Glanhau man diffiniedig o'r safle a chloi y safle ar ôl y cyfnod glanhau. Goruchwylio'r staff glanhau ar y safle. Hyn i gynnwys ardystio taflenni gwaith.

Tasgau Dyddiol

• Cydymffurfio o ddydd i ddydd a gofynion Iechyd a Diogelwch sy'n effeithio ar staff, a phobl eraill a all fod yn defnyddio neu ymweld a'r safle

• Sicrhau fod holl staff Glanhau yn dilyn arferion gwaith da ac y cedwi'r at ofynion unrhyw Ddarpariaeth Statudol a pholisiau Cyngor Gwynedd.

• Goruchwylio staff glanhau ar y safle. Pennu dyletswyddau, trefniadau gwaith, hyfforddiant ac ardystio taflenni gwaith.

• Sicrhau fod pob aelod o staff glanhau y safle wedi derbyn hyfforddiant anwytho, Iechyd a Diogelwch cyn cychwyn gwaith.

• Cyfrifol am sicrhau fod pecynnau penodi megis ffurflen gais, prawf mudo, ffurflen DBS aelodau staff wedi ei cwblhau a'i dychwelyd i'r Awdurdod.

• Cyfrifol am reoli absenoldebau staff a cwblhau ffurflenni cofnodi absenoldebau salwch SA1 a ffurflen dychwelyd i'r gwaith SA2.

• Datgloi yr holl gatiau a diffodd y system larwm. Datgloi pob drws mynediad a phob drws ystafell ddosbarth hanner awr cyn agor y sefydliad yn y bore yn unol â cyfarwyddiadau'r Pennaeth.

• Yn ystod cyfnodau gwresogi fel a enwir gan y Pennaeth, sicrhau bod y system wresogi'n gweithio ar y lefel iawn er mwyn sicrhau y cyrhaeddir y tymheredd angenrheidiol erbyn amser agor y sefydliad.

• Lle bydd peirianwaith amseru otomatig yn rheoli'r system wresogi, sicrhau bod y system yn gweithredu fel sydd angen cyn agor y sefydliad.

• Adrodd wrth y Pennaeth am unrhyw ddiffygion neu afreoleidd-dra a welwyd mewn gwresogyddion unigol neu yn y system wresogi gyffredinol.

• Glanhau a chlirio'r holl sbwriel sy'n gwneud i'r lle edrych yn flêr neu a allai fod yn beryglus, e.e. tuniau gwag, gwydr wedi malu neu boteli, o bob portsh a phob man caled o amgylch yr adeilad, cyn i'r gweithwyr gyrraedd yr adeilad.

• Archebu a dosbarthu tyweli papur, rholiau papur toiled a sebon hylif i olchi dwylo trwy'r sefydliad fel bo'r angen.

• Adrodd wrth y Pennaeth am unrhyw ddifrod y canfyddir iddo ddigwyd i eiddo'r ysgol, ddiffygion mewn ffitiadau neu draeniau drewllyd a.y.y.b na ellir delio gyda hwy.

• Ar adeg cau'r sefydliad, sicrhau bod yr holl oleuadau wedi eu diffodd ar gwresogyddion/systemau gwres canolog wedi ei gosod yn barod i weithio os bydd eu hangen, fel sy'n briodol ar gyfer yr amodau tywydd.

• Sicrhau nad oes defnyddiau hylosg yn rhy agos at wresogyddion a.y.y.b.

• Cau a chloi'r prif giatiau fel sy'n briodol ar ddiwedd y dydd.

Tasgau o bryd i'w gilydd

• Cadw trapiau draeniau a chwteri mewn cyflwr glân a glanhau trapiau saim bob wythnos.

• Gwagio'r biniau sbwriel sydd tu allan gan roi'r sbwriel mewn bagiau plastig a chael gwared ohono fel gyda sbwriel geir tu allan i'r adeilad. Gosod bagiau plastig newydd ym mhob bin, os darperir hwy. Gwagio bocsus glas ail gylchu ir biniau ail gylchu sydd wedi eui ddarparu.

• Monitro'r defnydd i drydan, nwy a dw^r trwy gyfrwng pa drefn bynnag a fabwysiedir gan y Cyngor. Mae'r drefnu bresennol yn golygu cofnodi darlleniad pob mesurydd perthnasol bob mis a chyfrifo faint a ddefnyddir bob mis ar gardiau cofnodi arbennig.

• Cadw adeiladau bwyleri mewn cyflwr glân a thaclus a sicrhau nad oes defnyddiau hylosg ynddynt.

• Cadw pob man chwarae gyda wyneb caled, mannau parcio, llwybrau a lonydd, storfeydd nwy petrolewm a.y.y.b yn rhydd o chwyn cerrig rhydd a glanhau'r holl sbwriel e.e. gwydr, tuniau a photeli, papur neu sbwriel arall, dail, toriadau glaswellt a.y.y.b. a'u cadw mewn cyflwr taclus. Clirio eira fel sy'n briodol a thaenu halen craig er mwyn cadw mannau mynediad yn ddiogel yn ystod eira neu rew. Darperir halen craig gan yr Ysgol.

• Gosod bylbiau golau ffitiadau fflwroleuol newydd os yn abl i'r gwaith.

• Agor a chloi ar gyfer gweithgareddau gyda'r nos ar ddealltwriaeth o'r ddwy ochr.

• I ymgymryd a mân trwsio e.e. bordio ffenestri a dorrwyd os yn abl i' I ymgymryd â gwaith wythnosol o brofi offer tân, tapiau, cawodydd a "sprinklers" dwr os yn berthnasol.

• gwaith o fonitro system Biomass a gwagio wast ohono, os yn berthnasol.

• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.

• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol âr cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.

• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.

• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.

• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol âr Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.

• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.

• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
-

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi