MANYLION
- Lleoliad: Ysgol Ardudwy, Harlech,
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £25,403 y flwyddyn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 05 Tachwedd, 2024 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Cyflog: £25,403 y flwyddyn
ManylionHysbyseb Swydd
YSGOL ARDUDWY
(Ysgol Gyfun 11 - 16: 336 o ddisgyblion)
Yn eisiau: 1af o Rhagfyr neu cyn gynted a phosib yn dilyn y dyddiad yma.
Swyddog Cynhwysiad Lefel 4
Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion profiadol a brwdfrydig i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol ac yn meddu ar y cymwysterau priodol a'r sgiliau addas.
Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
(40 wythnos waith mewn blwyddyn ysgol sef 38 wythnos tymor ysgol, 5 diwrnod mewn hyfforddiant yn ogystal â bod ar gael i weithio cyfwerth a'ch oriau wythnosol yn ychwanegol tu hwnt i'r oriau arferol).
Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa S1 pwyntiau 12-17 (£23,329 - £25,403 y flwyddyn) yn ôl profiad a chymhwyster.
Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb neu sydd angen mwy o wybodaeth i gysylltu i drafod yn anffurfiol a'r Pennaeth, Mr. Aled Williams B.Sc. (Rhif Ffôn 01766 780331 neu pennaeth@ardudwy.ysgoliongwynedd.cymru
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Mr Aled Williams, Pennaeth, Ysgol Ardudwy, Harlech, LL46 2UH Rhif ffôn 01766 780331 e-bost: pennaeth@ardudwy.ysgoliongwynedd.cymru . Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
DYDDIAD CAU HANNER DYDD, DDYDD MAWRTH, 5 o DACHWEDD, 2024.
Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o'r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn yr Ysgol.
(The above is an advertisement for the post of a Inclusion Officer Level 4 at Ysgol Ardudwy for which the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential).
Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.
This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.
The Council will require a Disclosure and Barring Service certificate and confirmation of registration with the Education Workforce Council for the successful applicant before they can start at the school.
Manylion Person
.
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd
Graddfa
ATEBOL I:
• Sicrhau bod plant a phobl dalgylch Ardudwy yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Ysgwyddo rôl arweiniol i weithredu gweledigaeth gynhwysol Ysgol Ardudwy.
• Cynnal a gwella ymddygiad grwpiau o ddisgyblion neu unigolion. - -
Cydlynydd ADYaCh
UDRh
• Gan weithio dan arweiniad: Ysgwyddo cyfrifoldeb am rhoi cefnogaeth i ddelio ag anghenion disgyblion sydd angen
help penodol i oresgyn rhwystrau i ddysgu.
PRIF DDYLETSWYDDAU
Prif Gyfrifoldebau
Cefnogi'r Disgyblion
• Rhoi cefnogaeth fugeiliol i ddisgyblion.
• Derbyn a goruchwylio disgyblion sydd wedi eu gwahardd o'r amserlen arferol, neu nad ydynt yn gweithio i'r amserlen
arferol.
• Cefnogi disgyblion wrth iddynt ddychwelyd i'r ysgol yn dilyn dychwelyd i'r ysgol ar ôl cyfnod allan o'r ysgol.
• Trin anghenion personol disgyblion a rhoi cyngor i gynorthwyo gyda datblygiad cymdeithasol, iechyd a glendid
• Cymryd rhan mewn asesiadau cynhwysfawr o ddisgyblion i ganfod y rhai sydd angen help penodol
• Cynorthwyo'r athro gyda datblygu a gweithredu Cynlluniau Addysg Unigol/Ymddygiad/Cefnogaeth/Mentora
• Cefnogi darpariaeth i ddisgyblion ag anghenion arbennig.
• Cefnogi disgyblion yn academaidd gan weithredu ymyraethau perthnasol.
• Sefydlu perthynas waith gynhyrchiol gyda disgyblion, gan weithredu fel delfryd ymddwyn
• Datblygu trefniadau mentora 1:1 gyda disgyblion.
• Hyrwyddo trosglwyddiad cyflym/effeithiol disgyblion ar draws cyfnodau/integreiddio'r rhai sydd wedi bod yn
absennol
• Rhoi gwybodaeth a chyngor i alluogi i ddisgyblion wneud dewisiadau ynglŷn â'u haddysg/ymddygiad/presenoldeb
• Herio a chymell disgyblion, hyrwyddo ac atgyfnerthu hunan-barch
• Rhoi adborth i ddisgyblion mewn perthynas â chynnydd, cyflawniad, ymddygiad, presenoldeb ac ati.
Cefnogi'r Athro
• Cysylltu gydag ysgolion dalgylchol ac asiantaethau perthnasol eraill i gasglu gwybodaeth am ddisgyblion
• Cefnogi mynediad disgyblion i addysg trwy ddefnyddio strategaethau, adnoddau priodol ac ati
• Gweithio gyda staff arall wrth gynllunio, arfarnu ac addasu gweithgareddau dysgu fel y bo'n briodol
• Monitro ac arfarnu ymatebion a chynnydd disgyblion mewn perthynas â chynlluniau gweithredu trwy arsylwi a
chofnodi a gynlluniwyd
• Rhoi adborth gwrthrychol a chywir ac adroddiadau gofynnol i staff arall ar gyflawniad, cynnydd a materion eraill yn
ymwneud â disgyblion, gan sicrhau bod y dystiolaeth briodol ar gael
• Bod yn gyfrifol am gadw a diweddaru cofnodion fel y cytunwyd gydag aelodau staff eraill, gan gyfrannu i adolygiadau
systemau/gofnodion yn ôl y gofyn
• Cynorthwyo gyda datblygu a gweithredu strategaethau rheoli ymddygiad priodol
• Sefydlu perthynas adeiladol gyda rhieni/ofalwyr, cyfnewid gwybodaeth, hwyluso eu cefnogaeth o ran presenoldeb eu
plentyn, mynediad a dysgu a chefnogi cysylltiadau rhwng y cartref a'r ysgol a'r gymuned
• Cynorthwyo gyda datblygu, gweithredu a monitro systemau presenoldeb ac integreiddio e.e. cofrestru, triwantiaeth,
systemau bugeiliol ac ati.
• Cefnogaeth glerigol/weinyddol e.e. delio â gohebiaeth llunio/dadansoddi/adrodd ar, gwaharddiadau ac ati, gwneud
galwadau ffôn ac ati.
Cefnogi'r Cwricwlwm
• Darparu gweithgareddau dysgu/rhaglenni addysgu a gytunwyd, addasu gweithgareddau yn ôl ymatebion/anghenion
disgyblion
• Bod yn ymwybodol o a gwerthfawrogi ystod o weithgareddau, cyrsiau, cyrff ac unigolion i roddi cefnogaeth i
ddisgyblion er mwyn ehangu a chyfoethogi eu haddysg
• Canfod yr angen am, paratoi a defnyddio offer arbenigol, cynlluniau ac adnoddau i gefnogi disgyblion
Cefnogi'r Ysgol
• Bod yn ymwybodol o a chydymffurfio gyda pholisïau a threfniadau sy'n ymwneud ag amddiffyn plant, iechyd,
diogelwch, cyfrinachedd a diogelu data, adrodd am unrhyw bryderon i'r person priodol
• Bod yn ymwybodol o a chefnogi gwahaniaeth a sicrhau bod yr holl ddisgyblion yn cael yr un cyfle i ddysgu a datblygu
• Cyfrannu tuag at ethos/waith/amcanion cyffredinol yr Ysgol
• Sefydlu perthynas adeiladol a chyfathrebu gydag asiantaethau/weithwyr proffesiynol eraill, mewn cysylltiad â'r athro,
i gefnogi cyrhaeddiad a chynnydd disgyblion
• Mynychu a chymryd rhan mewn cyfarfodydd rheolaidd
• Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill fel y bo gofyn
• Cydnabod eich cryfderau a'ch meysydd o arbenigedd a defnyddio'r rhain i gynghori a chefnogi eraill
• Cynorthwyo gyda goruchwylio, hyfforddi a datblygu staff
• Goruchwylio disgyblion y tu allan i oriau ysgol
• Goruchwylio disgyblion ar ymweliadau, teithiau ac mewn gweithgareddau y tu allan i'r ysgol fel y bo gofyn
Materion Amddiffyn Plant
• Cyfrifol am adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.
Materion eraill.
• Arolygu gwersi yn achlysurol mewn cyfod o absenoldebau dirybudd a chynlluniedig athrawon gan gynnwys :
▪ Gofrestru Dosbarthiadau pan fydd athrawon yn absennol.
▪ Arolygu gwaith sydd wedi'i osod ar gyfer dosbarthiadau.
▪ Ymateb i gwestiynau gan ddisgyblion ynglŷn â sut i gwblhau'r gwaith.
▪ Casglu gwaith a gwblhawyd yn ystod y wers a'i ddychwelyd i'r athro/athrawes priodol.
▪ Delio ag unrhyw broblemau neu ar gyfyngiadau sydd yn codi yn ystod yr arolygu gan ddefnyddio polisïau'r ysgol i
ymateb iddynt yn briodol.
▪ Rheoli ymddygiad plant wrth iddynt gwblhau'r gwaith er mwyn sicrhau awyrgylch priodol.
▪ Adrodd ar unrhyw gamymddwyn gan ddisgyblion yn ystod y cyfnod arolygu gan ddefnyddio cyfundrefn gyfeirio'r ysgol
fel sy'n briodol.
• Arolygu arholiadau mewnol ac allanol fel aelod o dîm gan sicrhau trefn briodol a darparu cymorth disgwyliedig o fewn
yr arholiadau, gan ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau gan y swyddog arholiadau.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad proffesiynol.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau iechyd a diogelwch yn y gweithle yn unol â`r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd
a Diogelwch yn y Gweithle.
• Gweithredu o fewn polisïau`r ysgol yng nghyswllt Cyfle Cyfartal a Chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau yr ysgol. Sicrhau fod gwybodaeth bersonol yn cael
ei thrin mewn cydymffurfiaeth â Deddfwriaeth Diogelu Data.
Amlinelliad yn unig o ddyletswyddau'r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o'r lefel cyfrifoldeb
sydd ynghlwm â hi. Nid yw'r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau'r swydd newid o
bryd i'w gilydd heb newid ei natur sylfaenol na'r lefel cyfrifoldeb.
- Ceisio ar lein - Sut?
- Rhestr Swyddi