MANYLION
  • Lleoliad: See Job Advertisement,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £16,570 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Gweithiwr Cymorth Ieuenctid

Cyngor Gwynedd

Cyflog: £16,570 y flwyddyn

Manylion
Hysbyseb Swydd

Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth

Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.

(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)

Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Steffan Llyr Williams ar 07702479672

Cynnal cyfweliadau i'w gadarnhau.

Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH

Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru

DYDDIAD C AU: 10.00 O'R GLOCH, 28/10/2024

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus

Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.

Manylion Person

NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
• Gallu i weithio yn dda a chreu perthynas gadarn gyda pobl ifanc ac oedolion
• Yn dda am rwydweithio a sefydlu partneriaethau
• Yn gallu paratoi, trefnu, cynllunio, gwerthuso, trefnu a rheoli Adnoddau ar gyfer unrhyw brosiect

DYMUNOL
• Yn hunan- gymell a gweithio ar ei liwt ei hun

CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
• Rhaid cwblhau cwrs Lefel 3 mewn Gwaith Ieuenctid yn ystod y 2 flwyddyn gyntaf o'r swydd
• Profiad o weithio un i un hefo pobl Ifanc
• Profiad o weithio gyda grwpiau o bobl ifanc
• Profiad eang o gyflwyno rhaglenni hyfforddiant achrededig
• Gwybodaeth am gynlluniau achredu gan gyrff allanol (ASDAN, Agored Cymru, Gwobr Dug Caeredin, John Muir, BTEC, Prifysgol Plant)

DYMUNOL
• Cymhwyster neu yn gweithio tuag at gymhwyster Asesu Achrediadau
• Cymhwyster Lefel 3 mewn Gwaith Ieuenctid

PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
• Profiad helaeth mewn cyflwyno a danfon rhaglenni achrediadau mewn cyd destyn anffurfiol
• Tystiolaeth o lwyddiant wrth weithio gyda pobl ifanc ac oedolion mewn sefyllfa addysg anffurfiol
• Profiad o gyflwyno rhaglenni addysgol i bobl ifanc ac oedolion
• Profiad o ddatblygu a rheoli prosiectau
• Y gallu i adeiladu perthynas dda gyda pobl ifanc

DYMUNOL
• Profiad mewn gweithredu ar bolisïau Iechyd a Diogelwch
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
• Rhugl yn y Gymraeg ar Saesneg
• Sgiliau trefnu a gweinyddu da
• Gallu i weithio gyda pobl Ifanc ac oedolion
• Gallu i weithio yn annibynol ac yn fentrus
• Gallu i ysgogi, cadw, datblygu a chefnogi aelodau o staff, pobl ifanc ac oedolion
• Ymrwymiad cadarn i egwyddorion Cyfle Cyfartal ac Amddiffyn Plant ac Oedolion
• Ymwybyddiaeth gryf o faterion sydd yn effeithio pobl ifanc
• Sgiliau trefnu ardderchog a'r gallu i ddelio gyda llwyth gwaith
• Y gallu i weithio yn greadigol i Gwricwlwm Gwaith Ieuenctid
• Y gallu i ddatrus problemau
• Y gallu i gyrraedd 'deadlines'
• Y gallu i ddysgu sgiliau newydd yn gyflym

DYMUNOL
• Profiad o weithredu polisiau Iechyd a Diogelwch
• Flexible approach

ANGHENION IEITHYDDOL

HANFODOL
Gwrando a Siarad - Lefel Canolradd
Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy'n ymwneud â'r maes gwaith. Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud âr swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.

Darllen a Deall - Lefel Canolradd
Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith. Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi'r prif bwyntiau. ( Mae'n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.)

Ysgrifennu - Lefel Canolradd
Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).

Swydd Ddisgrifiad

Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth rydym yn ei wneud
• Cynllunio, cydlynu a darparu rhaglen o weithgareddau a phrosiectau pobl ifanc ar sail dalgylch
• Adeiladu rhwydweithiau eang fel bo modd datblygu'r gwaith yma i'r eithaf.
• Cydweithio gyda gweddill Tim y Gwasanaeth Ieuenctid i sicrhau fod y gwaith cymorth ieuenctid yn pontio'n esmwyth i'r gwaith ieuenctid cymunedol
• Gweithredu rhaglen o weithgareddau a phrosiectau gan sicrhau y profiad gorau i bobl ifanc

Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
• Bydd y Gweithiwr Ieuenctid yn gyfrifol am arolygaeth a threfniadaeth y prosiectau. Bydd hefyd yn gyfrifol am offer gan sicrhau ei fod yn ateb gofynion iechyd a diogelwch.

Prif Ddyletswyddau. .
• Gweithio yn uniongyrchol gyda pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau cymdeithasol drwy gynnig rhaglen eang o weithgareddau sy'n arwain tuag at achrediad / cymhwyster yn ystod amser ysgol a sydd yn pontio i'r gymuned
• Paratoi, trefnu, cynllunio, gwerthuso, trefnu a rheoli adnoddau ar gyfer pob prosiect
• Sicrhau gofod ble caiff person ifanc y cyfle i fwynhau eu hunain, teimlo'n ddiogel, cael cefnogaeth, cael eu gwerthfawrogi, dysgu sut i gymryd rheolaeth dros eu bywydau gan adnabod a gwrthwynebu dylanwadau niweidiol a all eu effeithio
• Adeiladu perthynas bositif gyda Tim Bugeiliol yr Ysgolion a Tim y Gwasanaeth Ieuenctid
• Darparu rhaglen weithgareddau / prosiectau yn yr ysgolion yn ystod tymor ysgol a darpariaeth cymunedol yn ystod gwyliau ysgol
• Mynychu cyfarfodydd safoni a hyfforddi a drefnir gan gyrff dyfarnu
• Cyflwyno Gwobr Dug Caeredin yn yr Ysgolion
• Datblygu ystod o gyfleoedd dysgu i bobl ifanc gan ddefnyddio dulliau anffurfiol gwaith ieuenctid, o fewn yr ysgol a'r gymuned, sy'n addas ar gyfer anghenion y bobl ifanc.
• Cyflwyno rhaglenni achrediadau yn yr ysgolion ac yn y cymunedau
• Galluogi pobl ifanc i gael mynediad i gyflawniadau cydnabyddedig (e.e. Cynlluniau Her Ieuenctid a Chyflawniad Ieuenctid ASDAN, Agored Cymru, Gwobr Dug Caeredin, Gwobr John Muir, Prifysgol Plant).
• Cymell pobl ifanc trwy roddi ymdeimlad o gyflawni a chydnabyddiaeth iddynt
• Cyd-weithio gyda Staff yr Ysgol, Adran Addysg, YOTs, Gwasanaethau Cymdeithasol a Diogelwch Cymunedol ac asiantaethau eraill a all fod o fudd i gefnogi person ifanc.
• Sicrhau bod cofnod clir a chywir o waith yn cael ei fwydo I'r system reoli gwybodaeth yn unol â gofynnion yr holl asiantaethau perthnasol, ac yn unol â gofynnion polisiau a systemau'r asiantaethau priodol.
• Mynychu cyfarfodydd cynllunio'r ysgolion a'r gwasanaeth ieuenctid, cyfarfodydd adolygu etc. fel bo angen
• Mynychu cyfarfodydd safonni a hyfforddi a drefnir gan gyrff dyfarnu, ac i raeadru gwybodaeth am ddatblygiadau newydd i aelodau eraill y tîm gwaith ieuenctid
• Cydymffurfio gyda unrhyw weithdrefnau a systemau y Gwasanaeth
• Datblygu ac ehangu cwricwlwm y prosiectau drwy feithrin cysylltiadau gyda asiantaethau a darparwyr gan gynnwys ymgynghori a phobl ifanc, cyd weithio hefo ysgolion a darparwr addysg eraill
• Cyfrifoldeb dros fewnbynnu unrhyw wybodaeth sydd ei angen i'r system gasglu gwybodaeth
• Cydlynnu at y Safonau Galwedigaethol i Waith Ieuenctid, Hawliau'r Plentyn
• Paratoi adroddiadau cynnydd ar ei waith/gwaith
• Mynychu cyfarfodydd y Gwasanaeth Ieuenctid gan gymryd rhan lawn yn y trafodaethau a rhannu gwybodaeth gyda'r timoedd
• Trefnu a cynnal digwyddiadau, darparu prosiectau a gweithgareddau yn ystod gwyliau ysgol ar y cyd hefo'r Gweithwyr Cymunedol
• Chwilio am grantiau er mwyn datblygu y gwaith ymhellach
• Cynnig cyfleoedd gwirfoddoli yn lleol a tramor
• Sicrhau bod unrhyw adroddiad wedi ei gwblhau i'r amser dynodedig
• Sicrhau bod Llais person Ifanc yn cael ei glywed trwy bopeth sydd yn cael ei gynnig a'i ddatblygu
• Mewn cysylltiad ar rheolwr sicrhau datblygiad addas o fesur perfformiad a casglu gwybodaeth o waith er gallu mesur effeithiolrwydd y cynllun a cyflawni amcanion a osodwyd gyda threfniadau adrodd a chynllunio.
• Mynychu hyfforddiant i weithwyr ieuenctid a drefnir gan, neu ar ran, y Cyngor
• Cyfrifoldeb am gofrestr offer yn cynnwys offer Gwobr Dug Caeredin i'r Gweinyddwr Achrediadau
• Gweithredu fel Rheolwr Safle ar gais y Rheolwr
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol âr cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol âr Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin

Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
Cyflogaeth: JNC i Weithwyr Ieuenctid a Chymuned Pwyntiau 14-17
Gwyliau Blynyddol: Telerau JNC - 30 diwrnod o wyliau am y 5 mlynedd cyntaf ac yna 35 diwrnod ar ôl hynny
Oriau Gwaith: Yr wythnos waith: 37 awr yr wythnos,dim mwy na 8 sesiwn fin nos mewn pythefnos, ac ar brydiau gall fod yn ofynnol i fod yn hyblyg er mwyn cwrdd ag anghenion gwaith penodol. Bydd yn golygu gweithio min nos (3 noson) ynghyd a ambell benwythnos a all fod yn breswyl, o fewn y 37 awr.
Oriau: Yr oriau i gynnwys gwaith min nos ac ar benwythnosau a gall rhai fod yn breswyl
Defnydd car: Bydd deilydd y swydd yn cael ei ddynodi fel "defnyddiwr car hanfodol"
Ieithyddol: Bydd angen i ddeilydd y swydd fod yn hyderus ar lafar ac yn ysgrifenedig yn y Gymraeg a'r Saesneg o'r cychwyn
Defnyddiwr Ffon Symudol: Darperir ffôn symudol ar gyfer dibenion y swydd.
Byddwch yn cael eich penodi i dalgylch ond bydd angen i chi weithio tu allan i'r dalgylch yn ol yr angen ee i gyfro
gwyliau, salwch.
Byddwn yn ail edrych ar y swydd ddisgrifiad ymhen blwyddyn i'r apwyntiad
Mae gan yr Adran raglen barhaus o hyfforddiant a datblygu sgiliau personol. Gweithredir Cynllun Gwerthuso a fydd yn cyfrannu at y ddarpariaeth hon. Disgwylir i ddeilydd y swydd gymryd rhan yn y rhaglen. Byddwch yn dilyn y matrics hyfforddiant ar gyfer Gweithwyr Maes.
Tynnir eich sylw at y ffaith fod dyletswyddau a chyfrifoldebau penodol mewn rhai achosion yn anodd eu dadansoddi'n fanwl a gallent newid o dro i dro heb newid cymeriad cyffredinol y dyletswyddau na lefel y cyfrifoldeb. Yn ychwanegol, mae'n ofynnol i bob aelod o'r staff dderbyn elfennau o hyblygrwydd yn eu dyletswyddau a'u cyfrifoldebau, a phan fo angen, cyfnewid o fewn yr Awdurdod er mwyn cyfarfod anghenion a gofynion y gwasanaeth sy'n newid yn barhaus. Bydd angen o'r fath yn galluogi i arbenigedd penodol y deilydd dyfu a datblygu er lles y cyflogwr a'r gweithiwr.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi