MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Cymhorthydd Addysgu Lefel 4 (Cymorth a Darpariaeth)

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Bodhyfryd
Ffordd Brynycabanau
WRECSAM
LL13 7DA
Rhif ffôn 01978 351168
Cyfeiriad e bost - mailbox@bodhyfryd-pri.wrexham.sch.uk
Pennaeth - Miss Nerys Wyn Davies

Cymhorthydd Addysgu Lefel 4 - Cymorth a Darpariaeth
30 awr yr wythnos
Graddfa GO6 - £17,877 - £18,812 y flwyddyn
YN YSTOD Y TYMOR YN UNIG. DIM GWYLIAU YN YSTOD Y TYMOR
Swydd dros dro hyd at ddiwedd tymor yr haf 2025
I ddechrau cyn gynted a bosib

Mae'r Corff Llywodraethu yn dymuno penodi Cymhorthydd Addysgu Lefel 4. Pwrpas y rôl hon yw ategu at waith proffesiynol yr athrawon drwy gymryd cyfrifoldeb am y gweithgareddau dysgu a gytunwyd o dan system oruchwyliaeth a gytunwyd. Gall hyn gynnwys cynllunio, paratoi a darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer unigolion/grwpiau neu am dymor byr gyda dosbarthiadau cyfan a monitro disgyblion ac asesu, cofnodi ac adrodd am lwyddiant, cynnydd a datblygiad y disgyblion.

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Os am drafod anghenion y swyddi yn anffurfiol, neu am drefnu ymweliad â'r ysgol i drafod y swyddi, cysylltwch â Pennaeth yr ysgol ar 01978 351168, neu drwy e bost mailbox@bodhyfryd-pri.wrexham.sch.uk

Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion ar hyn o bryd, a fyddech cystal â llenwi'r ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod yn electronig. Pe bai arnoch chi angen cwblhau'r ffurflen yn ysgrifenedig, a fyddech cystal ag argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen i'r ysgol.
Dylid dychwelyd ceisiadau wedi'u cwblhau yn uniongyrchol i'r Pennaeth gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost isod.
mailbox@bodhyfryd-pri.wrexham.sch.uk

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.