MANYLION
- Lleoliad: Ysgol Friars, Bangor,
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £102,836 - £119,117 y flwyddyn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 16 Medi, 2024 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Cyflog: £102,836 - £119,117 y flwyddyn
ManylionHysbyseb Swydd
ADDYSG
YSGOL FRIARS, BANGOR
(Cyfun 11 - 18: 1421 o ddisgyblion)
Yn eisiau: ar gyfer 1af o Ionawr 2025
PENNAETH
Grŵp Ysgol: 7
Pwyntiau Cyflog: L32 - L38
Cyflog: £102,836 - £119,117
Yn dilyn blwyddyn heriol a di-gynsail mae Ysgol Friars yn chwilio am arweinydd profiadol a blaengar i'w harwain yn hyderus i gyfnod newydd yn ei hanes. Mae Ysgol Friars yn anelu at gyflwyno addysg o'r ansawdd gorau ac i ragori ymhob agwedd o'i gweithgareddau. Hyrwyddir rhaglen addysg ddwyieithog ac mae ethos a gweinyddiad yr ysgol yn adlewyrchu hynny.
Disgwylir i'r ymgeisydd ar gyfer y swydd hon fod:
• Yn arweinydd cryf, cadarn a brwdfrydig
• Yn meddu ar sgiliau rheolaeth rhagorol
• Yn meddu ar y sgiliau i ysgogi ac ysbrydoli disgyblion yr ysgol.
• Yn gwbl ymrwymedig i ethos Gymreig yr ysgol ac i addysg ddwyieithog gyflawn o'r safon uchaf.
• Yn meddu ar y cymhwyster CPCP (NPQH) erbyn dyddiad dechrau'r swydd neu sydd eisoes mewn swydd barhaol fel Pennaeth.
• Yn ymrwymedig i lwyddiant parhaol yr ysgol ac a'r gallu i gymell staff a disgyblion.
Gellir cael manylion pellach a/neu sgwrs anffurfiol am y swydd drwy gysylltu â'r Pennaeth Cynorthwyol Uwchradd, Mr Gwyn Tudur (01286 679958) neu GwynTudur@gwynedd.llyw.cymru
Mae'r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn angenrheidiol ar gyfer y swydd hon. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad).
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd. Ond os y dymunir dychwelyd y ffurflen gais trwy e-bost, dylid ei dychwelyd at Louise Jones (Clerc y Panel Penodi) louisejones@gwynedd.llyw.cymru erbyn y dyddiad cau.
DYDDIAD CAU 12:00, 16/09/2024
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y bod modd iddynt gychwyn yn y swydd yma.
(This is an advertisement for a Headteacher at Ysgol Friars for which the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential. The Council will require a Disclosure and Barring Service Certificate and confirmation of registration with the Education Workforce Council for the successful applicant before they can start at the school.)
Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn. This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.
Manylion Person
CYNGOR GWYNEDD PENNAETH MANYLION PERSON
TEITL Y SWYDD
PENNAETH YSGOL FRIARS
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
• Brwdfrydig ac ymroddgar.
• Sgiliau rhyngbersonol o'r radd flaenaf.
• Ymrwymedig i welliant parhaus.
• Y gallu i:
- ysbrydoli, cymell a gosod her i eraill.
- ymgorffori gweledigaeth yr ysgol.
- Gweithio dan bwysau a chwrdd â therfynau amser.
- ymgysylltu'n dda â phlant ac amddiffyn eu hawliau unigol.
- arddangos deallusrwydd emosiynol a sgiliau perthnasedd deinamig.
- mynnu sylw cynulleidfaoedd amrywiol.
• Ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc.
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
• Gradd Anrhydedd.
• Statws athro/athrawes wedi cymhwyso.
• CPCP neu brofiad diweddar/cyfredol perthnasol o fod yn Bennaeth.
• Tystiolaeth o ddatblygiadau proffesiynol parhaus perthnasol.
DYMUNOL
Gradd Uwch neu gymhwyster cyfwerth.
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
• • Profiad perthnasol fel Pennaeth, Dirprwy Bennaeth neu aelod o Dîm Arwain a Rheoli yn yr ysgol.
• • Tystiolaeth o
• • Profiad perthnasol fel Pennaeth, Dirprwy Bennaeth neu aelod o Dîm Arwain a Rheoli yn yr ysgol.
• Tystiolaeth o
arweinyddiaeth reolaidd a pherthnasol a rheolaeth effeithiol.
Gweithio'n effeithiol gyda llywodraethwyr.
• Profiad o
• datblygu strategaethau ysgol gyfan mewn meysydd allweddol fel addysgu a dysgu a/neu les a chynhwysiant
• sefydlu ac adeiladu partneriaethau gyda rhieni, y gymuned a chyda phartneriaid eraill
HANFODOL
• Tystiolaeth o weithio'n effeithiol gyda llywodraethwyr.
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
• •Meddiannu
- gwybodaeth am ddatblygiadau modern mewn addysg, yn lleol ac yn genedlaethol
- dealltwriaeth glir o egwyddorion dysgu ansawdd, addysgu ac asesu yn y sector uwchradd
- dealltwriaeth gadarn o brosesau gwella ysgolion
- gwybodaeth gadarn am strategaethau gweithredu sy'n sicrhau safonau uchel o ymddygiad a phresenoldeb
- Y gallu i baratoi strategaethau i sicrhau cynhwysiant cymdeithasol, amrywiaeth a mynediad.
- gwybodaeth dda am rôl y corff llywodraethu a'r gallu i weithredu strategaethau gwelliant ac atebolrwydd parhaus.
- gwybodaeth dda o'r cwricwlwm ehangach y tu hwnt i'r ysgol a'r cyfleoedd i ddisgyblion a chymuned yr ysgol.
- agwedd gynhwysol a'r sgiliau i sicrhau llwyddiant pob disgybl i gyrraedd ei lawn botensial.
• Dangos brwdfrydedd personol tuag at ddefnyddio'r Gymraeg/Cwricwlwm Cymraeg yn yr ysgol.
• Deall gofynion cynllunio ariannol strategol, rheolaeth gyllidebol ac egwyddorion gwerth gorau.
ANGHENION IEITHYDDOL
• Sgiliau mewn Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol; ffurfiol ac anffurfiol.
• Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig yn hyderus drwy lythyr, fformatau adroddiadau manylach a thechnegol, ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig sy'n cyfleu gwybodaeth, syniadau a barn yn Gymraeg a Saesneg (mae gwasanaeth gwirio iaith ar gael).
• Yn gallu
-dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol o ddydd i ddydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.
- rhoi cyflwyniad wedi'i baratoi ymlaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a cwestiynau amdano yn Gymraeg neu Saesneg.
-casglu gwybodaeth o ffynonellau amrywiol megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r post.
Dylid disgrifio'r nodweddion rheiny a ddisgwylir gan ddeilydd y swydd. Defnyddir
rhain fel meini prawf wrth asesu pob ymgeisydd.
Swydd Ddisgrifiad
Swydd Disgrifiad: Pennaeth
Graddfa: Ystod Cyflogau Arweinwyr (L32 - L38)
Pwrpas Cyffredinol y Swydd:
Arwain a hyrwyddo trefniant a rheolaeth fewnol yr ysgol a darparu addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl. Cyflawni cyfrifoldebau a dyletswyddau proffesiynol y Pennaeth yn amodol ar yr amodau cyfredol i athrawon yn y Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon, Deddf Safonau a Fframweithiau Ysgolion 1998, y safonau gofynnol ar gyfer Statws Athro Cymwysedig a deddfwriaeth gyfredol arall.
Cyffredinol: Cydymffurfio â Pholisi Diogelu Corfforaethol yr awdurdod lleol a'r dyletswyddau a
chyfrifoldebau diogelu y mae'r polisi hwnnw'n ei roi ar bob gweithiwr, gan gydweddu â gwerthoedd
craidd yr Awdurdod sy'n cynnwys cefnogi plant, oedolion a all fod mewn perygl a'u teuluoedd er mwyn eu cadw'n ddiogel ac iach.
Prif Ddyletswyddau / Cyfrifoldebau
CYFARWYDDYD STRATEGOL A DATBLYGU'R YSGOL:
1. Darparu arweinyddiaeth strategol a datblygu a chefnogi cyfarwyddyd strategol, gweledigaeth,
gwerthoedd a blaenoriaethau'r ysgol.
2. Arwain drwy osod esiampl ac ysbrydoli ac ysgogi cymuned yr ysgol.
3. Llunio gweledigaeth, ethos a pholisïau ar gyfer yr ysgol sy'n hyrwyddo safonau cyrhaeddiad uchel.
4. Creu a gweithredu cynllun datblygu strategol, sydd wedi'i ategu gan gynllunio ariannol cadarn, oddi
mewn i gyd-destun lleol a chenedlaethol, ac sydd yn nodi blaenoriaethau a thargedau er mwyn sicrhau bod pob disgybl yn cyrraedd safonau uchel a bod yr addysgu yn effeithiol.
5. Cefnogi ac ysgogi staff i gyflawni'r blaenoriaethau a thargedau sydd wedi cael eu gosod ar gyfer yr
ysgol.
6. Sicrhau bod yr ysgol yn cael ei rheoli, yn cynnwys cyllid a gweinyddiaeth, mewn modd sy'n cefnogi
polisïau, gweledigaeth ac amcanion yr ysgol.
7. Monitro ac adolygu pob agwedd ar gyrhaeddiad, blaenoriaethau, targedau a pholisïau a chymryd
camau lle bo angen.
DYSGU AC ADDYSGU:
1. Creu amgylchedd sy'n sicrhau dysgu effeithiol ar draws y Cwricwlwm Cenedlaethol i hyrwyddo
safonau uchel o ran cyrhaeddiad, ymddygiad a disgyblaeth;
2. Pennu a threfnu'r cwricwlwm a monitro a gwerthuso ei effeithiolrwydd;
3. Monitro ansawdd y dysgu a chyrhaeddiad disgyblion yn cynnwys dadansoddi data perfformiad;
Arwain a hyrwyddo trefniant a rheolaeth fewnol yr ysgol a darparu addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl.
4. Meithrin cysylltiadau a phartneriaethau effeithiol gyda rhieni, ysgolion eraill, sefydliadau addysgol a'r gymuned ehangach, yn cynnwys busnesau a diwydiannau, er mwyn gwella addysgu a dysgu a
datblygiad personol disgyblion.
5. Cyfrannu, fel y bo hynny'n briodol, at y gwaith addysgu yn yr ysgol.
ARWAIN A RHEOLI STAFF:
1. Meithrin perthnasau gwaith cadarnhaol gyda, a rhwng yr holl staff a llywodraethwyr;
2. Gweithredu a chynnal strategaethau effeithiol ar gyfer rheoli'r holl staff;
3. Cynllunio, gwerthuso a chefnogi gwaith y grwpiau staff, dirprwyo gwaith yn briodol a gwerthuso
canlyniadau'n glir
4. Galluogi staff i ddatblygu yn y rôl drwy adnabod anghenion datblygu, gan sicrhau bod ganddynt
fynediad at raglen ddatblygu effeithiol fel y gallent barhau i ddatblygu'n broffesiynol;
5. Sicrhau bod systemau rheoli perfformiad yn gweithredu'n effeithiol a mynd i'r afael ag anghenion
gwerthuso.
DEFNYDDIO STAFF AC ADNODDAU'N EFFEITHIOL:
1. Gweithio gyda llywodraethwyr a chydweithwyr i recriwtio staff cymwys;
2. Sicrhau bod staff a llywodraethwyr yn deall eu rôl a'u cyfrifoldebau;
3. Defnyddio a datblygu staff i wneud y defnydd mwyaf effeithiol o'u sgiliau, arbenigedd a phrofiad ac i sicrhau bod yr ysgol yn cael ei rheoli'n effeithiol yn absenoldeb y Pennaeth;
4. Rheoli a threfnu i ddefnyddio llefydd dysgu'r ysgol yn effeithiol ac effeithlon;
5. Rheoli a threfnu grwpiau i sicrhau dysgu ac addysgu effeithiol ac i ddiwallu anghenion datblygu
personol y plant;
6. Sefydlu blaenoriaethau gwario a monitro effeithiolrwydd y gwariant hwnnw oddi mewn i reoliadau
ariannol yr Awdurdod Addysg Leol;
7. Monitro'r adnoddau a ddefnyddir i sicrhau gwerth am arian, o fewn cyd-destun ariannol yr ysgol.
ATEBOLRWYDD:
1. Darparu gwybodaeth a chyngor i'r Bwrdd Llywodraethwyr fel y gall gwrdd â'i gyfrifoldeb i sicrhau
atebolrwydd priodol ledled yr ysgol;
2. Sicrhau bod y cyfrifon ariannol yn cael eu cynnal yn unol â rheoliadau ariannol yr Awdurdod Addysg Leol a bod y Corff Llywodraethol yn cael ei hysbysu'n effeithiol er mwyn ei alluogi i wneud penderfyniad priodol a bod yn atebol;
3. Creu ethos lle mae'r holl staff yn cydnabod eu hatebolrwydd;
4. Sôn am berfformiad yr ysgol gydag asiantaethau mewnol ac allanol trwy ddadansoddi data
perfformiad ac adroddiadau perthnasol; a defnyddio'r fath ddadansoddiadau fel sail i waith cynllunio ar bob lefel;
5. Darparu gwybodaeth berthnasol i rieni, y gymuned a phartïon eraill â diddordeb ynglŷn â phob agwedd ar fywyd yr ysgol;
6. Sicrhau bod yr ysgol yn cwrdd â dyletswyddau cyfreithiol y ddeddfwriaeth cyfle cyfartal a bod yr ysgol yn gweithredu yn unol ag ysbryd a llythyren y ddeddf.
7. Sicrhau bod yr ysgol yn cydymffurfio â'r gofynion statudol mewn perthynas ag addysg ac unrhyw
ddeddfwriaeth berthnasol arall.
CRYFHAU'R GYMUNED:
1. Annog a sicrhau cydweithrediad rhwng yr holl bartïon sydd â diddordeb yn cynnwys yr Awdurdod
Addysg Lleol;
2. Annog a sicrhau cydweithrediad ag ysgolion eraill;
3. Annog a rhannu arfer da;
4. Datblygu strategaethau i annog rhieni a gofalwyr i gefnogi addysg eu plant;
5. Sicrhau bod yr ysgol yn chwarae rhan ganolog yn y gymuned.
- Ceisio ar lein - Sut?
- Rhestr Swyddi