MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Ysgol Tryfan, Bangor,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 14 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd
ManylionHysbyseb Swydd
ADRAN ADDYSG
YSGOLION UWCHRADD
YSGOL TRYFAN, BANGOR
(Cyfun 11 - 18; 537 o ddisgyblion)
Yn eisiau: ar gyfer 1 o Fedi, 2026
Pennaeth yr Adran Saesneg
Swydd Llawn Amser Parhaol
Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn awyddus i benodi person ymroddgar, brwdfrydig ac egnïol
i arwain yr Adran Saesneg. Gwahoddir ceisiadau gan athrawon cymwys, sydd â'r
profiad a'r sgiliau angenrheidiol i arwain yr adran flaengar hon. Disgwylir i'r sawl a benodir addysgu Saesneg yn CA3, CA4 a CA5.
Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£33,731 - £51,942) + CAD 1B (£10,354 y flwyddyn) yn ôl profiad a chymhwyster.
Mae'r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â'r Pennaeth, Dr Geraint Owen Jones.
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Miss Bethan Thomas, Rheolwr Busnes a Chyllid, Ysgol Tryfan, Lôn Powys, Bangor, Gwynedd, LL57 2TU
(Rhif Ffôn: 01248 352633, e-bost: sg@tryfan.ysgoliongwynedd.cymru )
Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
DYDDIAD CAU 10.00 Y BORE, DYDD IAU, MAI 14eg, 2026
Rhagwelir cynnal y cyfweliadau W/C 18/05/26
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o'r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.
Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.
Manylion Person
Dylai'r ymgeisydd llwyddiannus fod:
- Â chymwysterau priodol i arwain y maes yn yr ysgol.
- Yn frwdfrydig a chreadigol, er mwyn ysgogi a chynnal diddordeb disgyblion yn y maes.
- Yn abl i addysgu'r pwnc i'r ystod oedran llawn.
- Yn meddu ar sgiliau TGCh cadarn.
- Yn rheolwr dosbarth effeithiol gyda'r sgiliau i sicrhau fod yna awyrgylch gynhaliol yn y dosbarth i hybu'r dysgu.
- Yn deall fod disgyblion yn dysgu mewn ffyrdd gwahanol ac felly'n barod i addasu'r addysgu i'w hanghenion.
- Yn weinyddwr trefnus gyda'r gallu i gynllunio gwaith a'i orffen; i asesu gwaith yn rheolaidd a chofnodi hynny'n drefnus; i ysgrifennu adroddiadau manwl a pherthnasol.
- Yn abl i weithio'n annibynnol a hefyd yn barod i gydweithio fel rhan o dîm.
- Yn barod i ymateb i ddatblygiadau pynciol lleol a chenedlaethol yn y maes.
- Yn gallu arwain yn strategol ac yn gydwybodol holl agweddau datblygol adran, gan gynnwys yn benodol y cylch datblygu a'r hunan arfarnu.
- Yn meddu ar ymwybyddiaeth gadarn o ofynion iechyd a diogelwch yn y gweithle.
Swydd Ddisgrifiad
Prif gyfrifoldebau:
- Sicrhau'r safonau uchaf o ran chyrhaeddiad ac ymroddiad disgyblion o fewn y pwnc.
- Bod yn atebol am gynnydd a chyflawniad disgyblion yn y pwnc.
- Darparu addysg o ansawdd ragorol i'r dosbarthiadau sydd o dan eich gofal.
- Arwain drwy esiampl yr addysgu a dysgu yn eich adran a darparu arweinyddiaeth a rheolaeth effeithiol o'r adran.
- Datblygu a chynnal tîm effeithiol o athrawon, ac ymestyn arfer addysgu athrawon eraill yn yr adran gan sicrhau cyfleon datblygu proffesiynol priodol.
- Datblygu'n barhaus ddarpariaeth yr adran i fod yn cynnig profiadau buddiol a difyr i'r disgyblion sy'n cynnig lefel briodol o her ar gyfer disgyblion ar draws yr ystod oed a gallu.
- Sicrhau fod cyfleon addas i ddatblygu medrau disgyblion yn y pwnc.
- Sicrhau adnabyddiaeth gadarn a chyfredol o gryfderau a meysydd angen yng ngwaith yr adran drwy drefn barhaus o sicrhau ansawdd.
- Darparu arweiniad clir a phendant ar gamau nesa yn dilyn arsylwi gwersi, craffu ar waith disgyblion, casglu barn rhanddeiliaid. Monitro cynnydd yn y gwelliannau hyn.
- Sicrhau gweithrediad llwyddiannus gynlluniau gwella buddiol sydd yn seiliedig ar ganfyddiadau'r broses hunan arfarnu.
- Tracio cynydd disgyblion a sicrhau ymyraethau priodol.
- Cynnal a chefnogi disgyblaeth a chanmoliaeth disgyblion sy'n dilyn y pwnc.
- Darparu dogfennaeth adrannol defnyddiol a rhesymol ar gair y Pennaeth.
- Cyfarfod yn rheolaidd â'r aelod cyswllt o'r UDR a'r Llywodraethwr Cyswllt i drafod materion strategol.
- Rheoli gweithrediad dydd i ddydd yr adran yn cynnwys rheoli cyllid ac adnoddau yn effeithiol.
- Rhoi ar waith bolisiau ysgol gyfan o fewn yr adran.
- Hybu gweithgareddau allgyrsiol a diwylliannol e.e. clwb gwaith cartref, ymweliadau, cystadlaethau.
- Drwy gydweithrediad â'r Cydlynydd, datblygu trefniadau ar gyfer disgyblion ag ADY yn yr adran, gan gynnwys ymateb i anghenion unigol disgyblion.
- Cydweithio'n effeithiol gyda'r swyddog arholiadau.
- Gofalu fod athrawon dan hyfforddiant ac Athrawon Newydd Gymhwyso o fewn yr adran yn cael eu cynnal, eu monitro a'u harfarnu, yn unol â threfn yr ysgol.
- Gweithredu fel Arfarnwr yn y drefn Rheoli Perfformiad lle bo'n cyd-fynd â threfn yr ysgol.
- Cydweithio gydag ysgolion cynradd i sicrhau dilyniant esmwyth wrth drosglwyddo.
- Chwarae rhan allweddol fel aelod o'r tîm o rheolwr canol yn natblygiad pob agwedd o fywyd yr ysgol.
- Cynghori'r UDR am ddatblygiadau yn y maes.
- Ceisio ar lein - Sut?
- Rhestr Swyddi