MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Gweithiwr Proffesiynol Atgyfeirio i Wneud Ymarfer Corff - Achlysurol

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Addysg ac Ymyrraeth Gynnar

Wrecsam Egnïol

Gweithiwr Ymarfer Corff Proffesiynol

Hyfforddwr Achlysurol

G07 £15.17 yr awr

Dros dro am 12 mis

Rydym yn awyddus i recriwtio Gweithiwr Ymarfer Corff Proffesiynol cymwys i weithio fel rhan o dîm i ymuno â'n cronfa o hyfforddwyr achlysurol i gyflwyno rhaglen ymarfer corff ar gyfer Cynllun Cenedlaethol Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS). Mae'r cynllun hwn yn ymgorffori cyfleoedd ymarfer corff yn y gymuned ac yn canolfannau hamdden, ar gyfer cleientiaid a atgyfeirir â chyflyrau iechyd fel rhan o lwybr clefyd cronig lleol.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Joanna Hughes ar 01978 297338 neu Sian Brierley ar 01978 297361.

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swydd hon.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.