MANYLION
  • Lleoliad: Llangynwyd Primary,
  • Oriau: Not Specified
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Athro/Athrawes - Llangynwyd - Dros Dro

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon

Athro/Athrawes - Llangynwyd - Dros Dro
Disgrifiad swydd
32.5 awr yr wythnos

Dros Dro – Hyd at Un Flwyddyn.

Dyddiad Dechrau: Medi 2024

Mae Ysgol Gynradd Llangynwyd yn ysgol gynradd bentref fach hapus a chyfeillgar ym mhentref Llangynwyd ym Maesteg. Rydym yn darparu ar gyfer disgyblion 3 i 11 oed.

Mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Llangynwyd yn ceisio penodi athro/athrawes uchelgeisiol, brwdfrydig ac arloesol a chanddo/chanddi sgiliau addysgu a rhyngbersonol gwych dros gyfnod mamolaeth mewn dosbarth blwyddyn 1 a blwyddyn 2 cymysg.

Yn Ysgol Gynradd Llangynwyd rydym yn ymrwymedig i ddatblygiad proffesiynol o ansawdd uchel, a gallwn gynnig dysgwyr cyfeillgar, brwdfrydig a staff sydd â chyfoeth o wybodaeth a phrofiad i feithrin ethos cefnogol a meithringar. Rydym yn gymuned hapus, groesawgar a gweithgar o staff, rhieni, llywodraethwyr a disgyblion sy'n frwdfrydig am brofiad addysgol o ansawdd.

Dylai ymgeiswyr a ddewisir am gyfweliad gysylltu â'r ysgol i drefnu ymweliad i weld yr ysgol.

Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor

Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 26 Mehefin 2024

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 02 Gorffennaf 2024

Dyddiad y Cyfweliad: 10 Gorffennaf 2024

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person