MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £24,294 - £25,545 Pro Rata | Grade 4
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 17 Mehefin , 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Swyddog Cymorth Ysgol Lefel 2 (Cyfnod Mamolaeth) - Ysgol Panteg

Torfaen Local Authority

Cyflog: £24,294 - £25,545 Pro Rata | Grade 4

Cytundeb Cyfnod Mamolaeth

Mae'r ysgol yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig ac egnïol i swydd Swyddog Cymorth Ysgol Lefel 2 i gyfro cyfnod mamolaeth aelon o'n swyddfa. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus fod â'r profiad a'r dealltwriaeth i ymateb yn hyblyg i sefyllfaoedd ac ymholiadau gwahanol. Mae'r swydd yn gofyn am sgiliau rhyng-bersonol ardderchog i allu delio gyda amrywiaeth o gynulleidfaoedd gan gynnwys, disgyblion, staff, rhieni, asiantaethau a phartneriaid allanol, y cyhoedd a'r gymuned ehangach.

Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus fod â sgiliau cyfathrebu ardderchog, a'r gallu i ddelio yn sensitif a chyfrinachol mewn sefyllfaoedd personol a chymleth gan gynnwys unigolion sy'n wynebu trafferthion neu anhawsterau. Mae'r gallu i weithio yn effeithiol fel rhan o dîm estynedig yn allweddol i'r rôl gan weithio'n agos gyda staff gweinyddol eraill, y tîm arwain a thîm cynnydd yr ysgol ynghyd â gwasanaethau cefnogi a chynnal allanol. Bydd angen sgiliau trefnu a rheoli amser effeithiol i sicrhau yr eir i'r afael â materion mewn modd amserol a bod blaenoriaethau'n cael sylw priodol o fewn terfyn amser penodol. Gan fod cyfathrebu a chyswllt gyda rhieni yn rhan allweddol o'r swydd, disgwylir i'r swyddog gymryd rôl flaenllaw wrth gyfathrebu yn glir ac yn gyson a bod yn wyneb personol i ateb ymholiadau ac i dawelu pryderon. Disgwylir i'r unigolyn gymryd cyfrifoldeb dros ddelwedd a diwyg y dderbynfa a mannau croeso'r ysgol gan sicrhau fod derbyniad cyfeillgar cynnes i ymwelwyr a bod y dderbynfa yn lân, broffesiynol a deniadol.

Os hoffech fwy o fanylion am y swydd hon ac am sgwrs anffurfiol cysylltwch â'r Pennaeth, Dr. Matthew Williamson-Dicken.

Bydd hysbyseb y swydd hon yn fyw tan 17/06/2024, ac yna byddwn yn tynnu rhestr fer i ddilyn.

Bydd y rôl hon ar gyfer cychwyn cyn gynted ag sy'n bosib yn dilyn cyfweliad llwyddiannus a phrosesau recriwtio. Dewch o hyd i'r meini prawf a'r fanyleb person drosodd. Er mwyn gwneud cais, anogir i chi lenwi ffurflen gais er mwyn dangos eich priodoldeb ar gyfer y rôl. Fe allwch chi lenwi'r ffurflen gais yn y Gymraeg neu yn Saesneg.

Cynhelir cyfweliadau ar y 20/06/2024.

Mae'r swydd hon yn destun Gwiriad Uwch gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i bob gweithiwr, cyflogedig neu ddi-dâl, rannu'r ymrwymiad hwn.