MANYLION
  • Lleoliad: Northop, Flintshire, CH7 6AA
  • Testun: Darlithydd
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Misol
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 14 Mehefin , 2024 11:00 y.p

This job application date has now expired.

Darlithydd Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD) i addysgu ein cyrsiau Lefel 3 a 5 a mod

Coleg Cambria
Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth…

Teitl y Swydd: Darlithydd Adnoddau Dynol

Lleoliad: Llaneurgain

Math o Gontract: Parhaol, llawn amser (Bydd rhannu swydd yn cael ei ystyried)

Cyflog: £30,620 - £47,331

Mae gennym swydd wag ar gyfer Darlithydd Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD) i addysgu ein cyrsiau Lefel 3 a 5 a modiwlau Adnoddau Dynol ar y rhaglen radd. Os ydych yn angerddol ynglŷn ag addysg AD ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth ym mywydau myfyrwyr, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ysbrydoli ac yn ennyn diddordeb dysgwyr trwy ddarlithoedd deinamig, gweithdai rhyngweithiol, ac astudiaethau achos bywyd go iawn sy'n dod â theori AD yn fyw. Byddwch yn rhoi cyngor addysgol, cymorth a chwnsela i’r holl fyfyrwyr ac yn gweithredu fel tiwtor personol pan fo angen. Yn ogystal â hyn bydd y darlithydd yn dysgu gwersi wedi’u hamserlennu, paratoi deunyddiau addysgu, marcio gwaith myfyrwyr, cysylltu â chyrff arholi a Phrifysgolion a goruchwylio arholiadau. Bydd yr ymgeisydd yn gyfrifol am gynhyrchu a chwblhau dogfennau erbyn y terfynau amser y cytunwyd arnynt fel: cofrestri, cynlluniau gwaith, cofnodion gwaith, adolygiadau cyrsiau, dogfennau dadansoddi cyrsiau, adroddiadau myfyrwyr, adroddiadau absenoldeb, ffeiliau cwrs ac ati. 

Byddant yn cysylltu â thiwtoriaid meysydd busnes eraill ynglŷn ag adnoddau, datblygu cwricwlwm, adroddiadau myfyrwyr a materion cysylltiedig eraill.

Gofynion Hanfodol 

Yn gymwys hyd at Lefel 6 o leiaf mewn maes pwnc arbenigol perthnasol 

Cymhwyster addysgu neu hyfforddi (er enghraifft TAR, Tystysgrif Addysg neu C&G 7407)

Sgiliau TGCh cadarn

Gallu datblygu a defnyddio ystod o dechnegau dysgu ac addysgu 

Yn cydnabod ac yn gwneud myfyrwyr yn ymwybodol o'u cryfderau a'u hanghenion datblygu

Yn gallu asesu canlyniadau dysgu a chyflawniadau dysgwyr 

Gallu ymdrin ag ymddygiad amhriodol yn y dosbarth mewn modd effeithiol ac amserol

Gallu paratoi deunyddiau addysgu ysgrifenedig a gweledol effeithiol

Dangos gwerthfawrogiad o werthoedd a moeseg Addysg Bellach

Gallu adfyfyrio a gwerthuso ar eu perfformiad eu hunain a chynllunio ar gyfer eu hymarfer yn y dyfodol.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.