MANYLION
- Lleoliad: Schools,
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 02 Mai, 2024 12:00 y.b
This job application date has now expired.
YSGOL CERRIGYDRUDION
Ffordd yr Alwen, Cerrig y Drudion, Conwy, LL21 9SW
Ffôn: (01490) 420328
Pennaeth dros dro: Miss Einir Jones
Nifer Disgyblion: 75 llawn amser 10 meithrin
Yn eisiau ar gyfer mis Medi 2024 neu cyn gynted â phosib ar ôl hynny
PENNAETH
Graddfa cyflog: L7 £55,776 - L13 £64,540 y flwyddyn
Mae'r Llywodraethwyr am benodi arweinydd ymroddedig sy'n rhoi'r plentyn yn ganolog, i fynd â'r ysgol hon ymlaen i gam newydd o ddatblygiad. Gwahoddir ceisiadau gan athrawon sy'n addysgwyr llwyddiannus gyda'r ymroddiad i ddatblygu potensial pob plentyn gyda'r brwdfrydedd i arwain yr ysgol yn llwyddiannus. Rydym yn fodlon derbyn ceisiadau gan athrawon neu dirprwyon/pennaeth cynorthwyol sydd yn dilyn cymhwyster CPCP.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus:
Mae'r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol i'r swydd yma.
Oherwydd natur y swydd byddwn yn gofyn am ddatgeliad gan
y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus. Mae yn ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda Cyngor y Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon.
Mae croeso i ymgeiswyr gysylltu â'r ysgol, a gwahoddir ymgeiswyr i
ymweld â'r ysgol trwy drefniant â'r Pennaeth
Anogir ymgeiswyr i gysylltu â Chadeirydd y Llywodraethwyr yn Ysgol Cerrig y Drudion trwy ebost HitchmoughH2@hwbcymru.net am drafodaeth anffurfiol a/neu i drefnu ymweliad â'r ysgol.
I wneud cais am y swydd hon, ewch i www.conwy.gov.uk/swyddi i lenwi cais ar lein.
Noder nid yw'r awdurdod yn cyhoeddi ffurflenni cais ac nid yw'n derbyn CV.
Dyddiad cau: Hanner nos, Dydd Iau, Mai 2il
Bydd y broses cyfweliad yn digwydd wythnos yn cychwyn Mai 13eg 2024
Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n diwallu gofynion hanfodol swydd yn cael cyfweliad.
This form is also available in English

- nodweddion rheoli ac arweinyddiaeth rhagorol gyda'r brwdfrydedd i ddatblygu
- ymrwymiad i'r safonau uchaf mewn dysgu, addysgu, cyrhaeddiad ac ymddygiad a lles disgyblion
- ymroddiad i ddatblygu sgiliau gweinyddol, ariannol a threfniadaeth
- y gallu i gyd weithio gydag staff, llywodraethwyr, rhieni a rhanddeiliaid eraill i sicrhau'r gorau i bob disgybl yn yr ysgol
- frwdfrydedd dros gynnal a datblygu ymhellach y cysylltiadau agos sy'n bodoli rhwng yr ysgol a'i chymuned
- barodrwydd i hyrwyddo'r iaith Gymraeg a'i diwylliant