MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Godre'r Berwyn, Bala,
  • Testun:
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £20,000.00 - £15,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 09 Mai, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Presenoldeb a Chyswllt Teulu - Ysgol Godre'r Berwyn, Bala

Swyddog Presenoldeb a Chyswllt Teulu - Ysgol Godre'r Berwyn, Bala

Cyngor Gwynedd
Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG - YSGOLION DILYNOL

YSGOL GODRE'R BERWYN

(Cyfun 3 - 18: 577 o ddisgyblion)

Ail Hysbyseb

Yn eisiau: Cyn gynted â phosib

SWYDDOG PRESENOLDEB A CHYSWLLT TEULU

Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion brwdfrydig i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol.

Oriau gwaith: 30 awr yr wythnos

(39 wythnos waith mewn blwyddyn ysgol sef 38 wythnos tymor ysgol, 5 diwrnod mewn hyfforddiant)

Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa S1 pwyntiau 12 - 17 (£18,608 - £20,262 y flwyddyn) yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Gwahoddir unrhyw rai sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i drafod yn anffurfiol gyda'r Pennaeth, Bethan Emyr Jones.

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Iwan Jones, Arweinydd Busnes a Chyllid, Ysgol Godre'r Berwyn, Heol Ffrydan, Y Bala, Gwynedd, LL23 7RU (Rhif Ffôn: 01678 520259) e-bost: iwan.jones @godrerberwyn.ysgoliongwynedd.cymru .Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o'r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

DYDDIAD CAU: HANNER DYDD, DYDD IAU, 9 MAI, 2024.

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

(This is a re-advertisement for the post of an Attendance and Family Liaison Officer at Ysgol Godre'r Berwyn, Bala for which the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential).

This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.

The Council will require a Disclosure and Barring Service Certificate and confirmation of registration with the Education Workforce Council for the successful applicant before they can start at the school.

Manylion Person

MANYLION PERSON

Teitl y Swydd

SWYDDOG PRESENOLDEB A CHYSWLLT TEULU YSGOL GODRE'R BERWYN

Adran

Addysg

Lleoliad

Ysgol Godre'r Berwyn

GOFYNION ANGENRHEIDIOL AR GYFER Y SWYDD

CYMWYSTERAU /HYFFORDDIANT GALWEDIGAETHOL/CYMWYSEDDAU

Dull Asesu
  • Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol a phersonol parhaus.

Ffurflen Gais
  • Sgiliau ieithyddol a chyflwyno gwybodaeth a chyfathrebu da.

Ffurflen Gais

GWYBODAETH A SGILIAU

  • Sgiliau gofal cwsmer ardderchog.

Ffurflen gais a chyfweliad
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar, wrth drin pobl, ac ar bapur, a pharchu'r angen i fod yn gyfrinachol.

Ffurflen gais a chyfweliad
  • Gallu i ddefnyddio cyfrifiadur ynghyd â gwybodaeth am becynnau Microsoft Office e.e. Word, Excel, Powerpoint

Ffurflen gais a chyfweliad
  • Profiad/dealltwriaeth o ddelio gyda pobl.

Ffurflen gais a chyfweliad
  • Sgiliau trefnu a blaenoriaethu.

Ffurflen gais a chyfweliad
  • Meddu ar sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifennedig cadarn yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Ffurflen gais a chyfweliad

PROFIAD

  • Profiad o weithio mewn rôl sy'n delio gyda pobl

Ffurflen gais a chyfweliad
  • Profiad o weinyddu systemau rheolaeth ysgol yn effeithiol

Ffurflen gais a chyfweliad
NODWEDDION A GWERTHOEDD PERSONOL

  • Un sy'n medru cyfathrebu ag ystod o swyddogion mewnol, Aelodau, swyddogion allanol, ysgolion a rhieni.

Ffurflen gais a chyfweliad
  • Gallu i ddelio a phobol yn hyderus, pwyllog a chwrtais.

Ffurflen gais a chyfweliad
  • Un sy'n gallu blaenoriaethu gwaith fel bo'r angen, dangos blaengaredd ac yn cwrdd â therfynau amser penodol.

Ffurflen gais a chyfweliad
  • Y gallu i weithio o dan bwysau ac fel rhan o dîm.

Ffurflen gais a chyfweliad
  • Y gallu i weithio a chymysgu yn hawdd â phobl.

Ffurflen gais a chyfweliad
  • Agwedd hyblyg gyda'r gallu i weithio ar ei phen/ben ei hun.

ANGHENION Y BUASAI'N DDYMUNOL EU CAEL YN Y SWYDD

Swydd Ddisgrifiad

Pwrpas y Swydd

Bydd deilydd y swydd yn gweithio gyda timau bugeiliol yr ysgol i hyrwyddo presenoldeb da drwy ddefnyddio data, gweithio gyda disgyblion unigol a'u teuluoedd a chysylltu â gwasanaethau cymorth allanol, gan gynnwys y Swyddog Lles Addysg.

Bydd deilydd y swydd yn gyfrifol yn uniongyrchol i'r Pennaeth, ac yn gweithio'n rhagweithiol mewn partneriaeth â'r Uwch Dim Rheoli i sicrhau gwasanaethau cymorth effeithiol ac effeithlon i gyflawni blaenoriaethau'r ysgol.

2 Prif Gyfrifoldebau

2.1 Cyfrannu tuag at yr agenda o wella presenoldeb disgyblion Ysgol Godre'r Berwyn.

2.2 Gweithio gyda timau bugeiliol yr ysgol i hyrwyddo presenoldeb drwy ddefnyddio data,

gweithio gyda disgyblion unigol a'u teuluoedd a chysylltu â gwasanaethau cymorth allanol,

gan gynnwys y Swyddog Lles Addysg.

2.3 Cynghori a chynorthwyo teuluoedd i sicrhau bod eu plant yn mynychu'r ysgol yn rheolaidd a

chyfathrebu gweithdrefnau presenoldeb a disgwyliadau'r ysgol yn glir.

2.4 Tracio presenoldeb disgyblion trwy gasglu a dadansoddi data/tueddiadau presenoldeb.

2.5 Cynorthwyo disgyblion i gyrraedd eu potensial academaidd drwy gyflwyno pecynnau cymorth

megis Agored Cymru drwy adeiladu ar y profiadau addysgol yn yr ystafell ddosbarth a thu

allan.

3. Dyletswyddau a Chyfrifoldebau

3.1 Cyfleu pryderon presenoldeb i rieni a gofalwyr.

3.2 Cadw cofnodion priodol gan ddefnyddio systemau rheoli gwybodaeth yr ysgol, gan gynnwys

tracio presenoldeb disgyblion drwy gasglu a dadansoddi data a thueddiadau presenoldeb a

phrydlondeb.

3.3 Monitro gweithredu yn dilyn anfon llythyrau presenoldeb a phrydlondeb i rieni.

3.4 Trefnu cyfarfodydd cyswllt i ddisgyblion sy'n dychwelyd i'r ysgol yn dilyn gwaharddiad.

3.5 Trefnu cyfarfodydd gyda rhieni pan mae pryder am bresenoldeb a/neu brydlondeb.

3.6 Ymweld â chartrefi disgyblion er mwyn canfod ffordd i wella canran presenoldeb.
3.7 Ymweld â chartrefi i drafod agweddau o les y disgybl all fod yn achosi pryder i'r ysgol.
3.8 Sicrhau cyswllt cryf rhwng ysgol a chartref.

3.9 Cydgysylltu ag athrawon pwnc pan fo'n briodol, gan goladu adnoddau a chael gwybodaeth

allweddol am raglenni astudio er mwyn paratoi ar gyfer cefnogi disgyblion yn ystod eu diwrnod.

3.8 Ymgyfarwyddo â gwaith ar-lein a chefnogi disgyblion i gael mynediad i wersi neu waith arall y

cytunwyd arno

3.9 Rhoi adborth ac anogaeth i ddisgyblion mewn perthynas â'u cynnydd.

3.10 Cefnogi goruchwylio disgyblion sy'n cael eu gwahardd yn fewnol amser egwyl ac amser cinio.

3.11 Hyrwyddo gwerthoedd, agweddau ac ymddygiad cadarnhaol bob amser.

3.12 Ymateb i unrhyw gais rhesymol arall ar gais y Pennaeth

3.13 Cefnogi ac enghreifftio safonau uchel o ymddygiad personol mewn cytgord â Chod Ymddygiad yr

ysgol a sicrhau bod gan ddisgyblion fynediad at yr holl offer sydd eu hangen arnynt i weithio'n

dawel.

4 Diogelu

4.1 Bod yn ymwybodol a chydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnau sy'n ymwneud â diogelu plant

(e.e. Cadw Plant yn Ddiogel mewn Addysg, Atal), ein polisïau diogelu ac amddiffyn plant yn ogystal ag iechyd, diogelwch, cyfrinachedd a diogelu data.

4.2 Gweithio gyda'r UDA i hyrwyddo buddiannau gorau disgyblion, gan gynnwys rhannu pryderon lle bo angen.

4.3 Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin

4.4 Hyrwyddo diogelu holl ddisgyblion yr ysgol.

5 Llywodraethwyr

5.1 Paratoi adroddiadau tymhorol ar bresenoldeb a thriwantiaeth mewn ymgynghoriad ag Ysgolion ar gyfer Cyrff Llywodraethwyr ac unrhyw gorff arall ar gais y pennaeth.

5.2 Cofnodi cyfarfodydd staff yr ysgol ar gais y pennaeth.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi