MANYLION
  • Lleoliad: Bangor, Gwynedd, LL57 2JA
  • Testun: Tiwtor Oedolion
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Salary Range: £25.39 - £25.40
  • Iaith: Dwyieithog

This job application date has now expired.

Tiwtoriaid Sgiliau Hanfodol Cymhwyso Rhif

Tiwtoriaid Sgiliau Hanfodol Cymhwyso Rhif

Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales
Tiwtoriaid Sgiliau Hanfodol Cymhwyso Rhif (Hyblyg)
Cyflog: wedi'i dalu bob awr £25.40 (yn cynnwys tâl gwyliau)
Cytundeb cyfnod penodol hyd at fis Gorffennaf 22
Oriau Amrywiol
Dull cyflwyno darpariaeth: Ar-lein,
* Nodwch os gwelwch yn dda bydd y cyrsiau yn cael eu cyflwyno ar-lein drwy MS Teams ond bydd disgwyl I’r tiwtoriaid fynychu dosbarth i hwyluso / goruwchwylio arholiadau.

Ardaloedd: Rhanbarth Gogledd Cymru: (Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn, Wrecsam),
Rhanbarth De-orllewin a Canolbarth Cymru: (Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Neath Port Talbot, Sir Benfro, Powys, Abertawe)
Rhanbarth De-ddwyrain Cymru: (Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taff, Tor-faen, Bro Morgannwg)

Am y swydd
Byddwch yn cynllunio, datblygu, cyflwyno, gwerthuso ac asesu rhaglenni dysgu ym maes Sgiliau Hanfodol Cymhwyso Rhif / Rhifedd, yn unol ag anghenion dysgwyr a gweithdrefnau ansawdd Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales. Byddwch yn cyflwyno dysgu Sgiliau Hanfodol Cymhwyso Rhif / Rhifedd o ansawdd uchel gan ddefnyddio ystod o ddulliau addysgu ac yn defnyddio ystod o ddulliau asesu priodol yn unol ag anghenion y dysgwyr a gofynion y corff dyfarnu. Byddwch yn sicrhau bod y dysgwyr yn cael adborth clir ac adeiladol o fewn amserlenni priodol.

JOB REQUIREMENTS
Amdanoch chi
Mae isafswm cymhwyster addysgu Lefel 3 ynghŷd â a chymhwyster Ymarferwyr Cymhwyso Rhif Lefel 3 yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Bydd gennych brofiad o addysg gymunedol, addysg oedolion, darpariaeth Llythrennedd, a chymryd rhan mewn gweithdrefnau ansawdd mewnol. Byddai cymhwyster addysgu Lefel 5, a cymwysterau mewn Arweiniad Addysg Oedolion ac Ansawdd Mewnol yn ddymunol.