Coleg Gwyr Abertawe

Gower College Swansea
Further Education College
EIN CYFEIRIADAU:
  • Coleg Gwyr Abertawe
  • Abertawe
  • Swansea
  • SA2 9EB
Amdanom Ni

Rydym yn cynnig bron 40 o bynciau Safon Uwch a 40 o bynciau galwedigaethol ar amrywiaeth o lefelau hyd at, ac yn cynnwys, Addysg Uwch, sy’n cyd-fynd â gwybodaeth a lefelau sgiliau presennol ein myfyrwyr. Yn ogystal â hyn, mae gennym un o’r enwau gorau am ddysgu ac addysgu o safon uchel, nid yn unig yn Abertawe ond ar draws Cymru gyfan.

Mae gennym dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser ar draws Abertawe a’r siroedd cyfagos. Rydym yn gweithredu o leoliadau ar draws Abertawe gan gynnwys campysau yn Nhycoch, Sgeti, Gorseinon, Uplands a Fforestfach.

Yn ddiweddar rydym wedi agor Canolfan Brifysgol bwrpasol ar Gampws Tycoch. Fe’i bwriedir yn arbennig ar gyfer myfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau addysg uwch ac mae’n cynnwys chwe ystafell ddosbarth newydd, llyfrgell ac ystafell gyffredin.

Rydym yn cynnig Graddau, Graddau SylfaenTystysgrifau Cenedlaethol Uwch (HNC)Diplomas Cenedlaethol Uwch (HND)Tystysgrif Addysg Uwch (TystAU) a chymwysterau proffesiynol – ac mae llawer o’n cyrsiau wedi’u dilysu gan y prif sefydliadau addysg uwch yng Nghymru.

Mae Ysgol Fusnes newydd Plas Sgeti yn gartref i ystod eang o ddarpariaethau proffesiynol ac addysg  weithredol. Mae hyn yn cynnwys cyrsiau busnes a rheolaeth pwrpasol ac achrededig h.y. cyfrifeg, arweinyddiaeth, digidol ac iechyd a diogelwch, cymwysterau AU, prentisiaethau a phrentisiaethau gradd – wedi’u haddysgu ar gyfer busnesau gan arbenigwyr diwydiant Coleg Gŵyr Abertawe.

Yn 2021, fe wnaethom gyrraedd y rhestr fer ar gyfer tair gwobr AB TES yn y categorïau canlynol: Rhaglen Brentisiaeth y Flwyddyn; Cymorth i Ddysgwyr; ac Arwr WorldSkills. Mae un o’n darlithwyr Safon Uwch ardderchog hefyd yn y gystadleuaeth i ennill teitl Darlithydd AB y Flwyddyn yn nigwyddiad mawreddog Gwobrau Addysgu Cenedlaethol Pearson.