Grŵp Hyfforddi Educ8

Educ8 Training Group
Private Training Provider
EIN CYFEIRIADAU:
  • Grŵp Hyfforddi Educ8
  • Porth Tredomen
  • Ystrad Mynach
  • Caerffili
  • CF82 7EH
Amdanom Ni

Gyda dros 18 mlynedd o brofiad, rydym wedi dod i’r amlwg fel darparwr hyfforddiant mwyaf blaenllaw Cymru o ran prentisiaethau a dysgu seiliedig ar waith.

Mae ein cyrsiau yn rhoi'r cyfle i chi ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol yn uniongyrchol o'r gweithle. Enillwch gyflog a datblygu'r sgiliau angenrheidiol i ddatblygu'ch gyrfa.

Ar gael i unrhyw un dros 16 oed, mae ein prentisiaethau’n cael eu hariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru – sy’n golygu nad oes unrhyw gost i chi na’ch cyflogwr.

Enillwch brofiad ymarferol a dysgwch gan arbenigwyr y diwydiant yn eich maes. Mae pob dysgwr yn cael ei neilltuo gyda hyfforddwr arbenigol a fydd yn cefnogi gydag asesiadau a hyfforddiant yn y swydd. Ar ôl ei gwblhau byddwch yn cael eich gwahodd i ddathlu eich cyflawniad yn ein seremoni flynyddol.

Gallwn eich helpu i roi hwb i’ch gyrfa neu symud ymlaen yn eich rôl bresennol. Ennill y sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt a dringo'r ysgol yrfa i swyddi â chyflogau uwch.

Rydym yn credu mewn dysgu gydol oes.

 

Ein Prentisiaethau

Darganfyddwch ein hystod eang o brentisiaethau yn amrywio o lefelau 2 – 5:

Gweinyddiaeth Busnes

Arweinyddiaeth a Rheolaeth

Rheoli Prosiect

Gofal plant

Plant a Phobl Ifanc

Cyngor ac Arweiniad

Ymarferydd Dysgu Digidol

Arweinyddiaeth a Rheolaeth i Addysgwyr

Cefnogi Addysgu a Dysgu

 

Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio gyda ni, ewch i’n gwefan a chysylltwch i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn rydym yn ei gynnig. Rydym yn hapus i helpu!