BETH YW ARWEINYDD NEU RHEOLWR GWAITH IEUENCTID?
Rydym yn gweithio i ysbrydoli tîm o weithwyr ieuenctid a gwirfoddolwyr.
Rydym yn rheoli sefydliadau a thimau o staff, yn datblygu polisi, yn goruchwylio gweithgareddau o ddydd i ddydd ac yn rheoli datblygiad a darpariaeth gwaith ieuenctid ar draws ein gwasanaethau yng Nghymru. Mae pob diwrnod yn wahanol, ond ni fyddem am iddo fod unrhyw ffordd arall.
Mae ein gwaith yn gydweithredol, ac rydym yn credu yn y pŵer o weithio mewn tîm. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth agos â rhanddeiliaid i ddylunio a datblygu darpariaeth gan gadw pobl ifanc wrth wraidd popeth a wnawn bob amser.
Yn fwt na dim, mae ein gwaith yn werth chweil. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod y gweithgareddau rydym ni'n eu darparu ar gyfer pobl ifanc yn eu helpu i gyrraedd eu potensial llawn.
Trwy amrywiaeth o leoliadau a dulliau gwaith ieuenctid, rydym yn sicrhau bod y ddarpariaeth gwaith ieuenctid yn darparu'n llawn ar gyfer anghenion y bobl ifanc rydym ni'n ymgysylltu â nhw.
Y CYMWYSTERAU BYDD EU HANGEN ARNOCH
Bydd angen i weithiwr cymorth ieuenctid gwblhau cwrs a gydnabyddir gan y Cydbwyllgor Negodi trwy'r Pwyllgor Safonau Addysg Hyfforddiant (Cymru).
Chwilio darparwyr cymwysterau yma
Mae'r cyflog a amlinellir isod wedi'i fwriadu fel canllaw.