- Lleoliad: Ar-lein
- Dechrau: 15 Mehefin , 2022 - 6:00 pm
- Diwedd: 15 Mehefin , 2022 - 8:00 pm
- Telerau: School
Sesiynau blasu ar lein ar gyfer addysg athrawon
Byddwch y gwahaniaeth… Addysgwch! Dewch i ddysgu mwy am yrfa fel athro/awes trwy alw heibio un o’n nosweithiau agored rhithiol. Un o’n hysgolion partner fydd yn eich croesawu. Cyfle i drafod gyrfa all wneud gwahaniaeth go iawn!
Mae’r Sesiynau Blasu Ar-lein wedi’u llunio benodol ar gyfer y rheini sydd â diddordeb mewn dysgu rhagor am yrfa’n addysgu — cewch glywed gan ein Haddysgwyr Athrawon, cwrdd â’n partneriaid ysgol a chael ateb i’ch holl gwestiynau am y rhaglenni a restrir isod:
• Addysg Gynradd gyda SAC (BA)
• TAR Cynradd gyda SAC
• TAR Uwchradd gyda SAC
Felly, cymerwch sedd, mewngofnodwch ar eich dyfais a dewch i gwrdd â’n Haddysgwyr Athrawon cyfeillgar a chydweithwyr o ysgolion partner. Er bod ein darpariaeth yn y brifysgol yn cael ei chyflwyno’n bennaf yn Abertawe a Chaerfyrddin, byddwch yn treulio’r rhan fwyaf o’ch amser allan mewn ysgolion partner sydd wedi’u lleoli ar draws de Cymru, o Sir Benfro yn y gorllewin i Sir Fynwy yn y dwyrain.
Gyda chynifer o ddatblygiadau newydd, does dim amser gwell wedi bod i ymuno â’r proffesiwn addysgu — a dyma’r amser i gymryd y cam hwnnw at yrfa newydd, gyffrous a boddhaol yn y byd addysg – ac i wneud gwahaniaeth... Addysgwch!