- Lleoliad: Ar-lein
- Dechrau: 14 Mawrth, 2022 - 7:00 pm
- Diwedd: 14 Mawrth, 2022 - 9:00 pm
- Telerau:
Datblygu arbenigedd: cwrs ar-lein yn rhad ac am ddim sydd wedi'i deilwra'n benodol i gefnogi profiadau athrawon sydd newydd gymhwyso (ANG) yng Nghymru

Mae'r cwrs rhad ac am ddim hwn yn rhoi cyfle unigryw i athrawon sydd newydd gymhwyso ac athrawon cyflenwi yng Nghymru (a gymhwysodd yn Haf 2020 neu 2021).
Oes gennych chi ddiddordeb mewn:
• cymryd rhan mewn cwrs dysgu proffesiynol cydweithredol wedi'i lywio gan ymchwil o ansawdd uchel
• datblygu eich gwybodaeth broffesiynol ochr yn ochr ag athrawon eraill sydd newydd gymhwyso o bob rhan o Gymru
• meithrin rhwydweithiau fydd yn eich helpu i ddeall ymarfer o wahanol safbwyntiau
• ymgysylltu â syniadau allweddol a all gefnogi ymarfer sy’n deillio o ymchwil ac ymholi
• bod yn athro/athrawes mwy hyderus a gwydn?
Ei nod yw cynnig cyfleoedd i ddatblygu ac ymestyn gwybodaeth broffesiynol a chael gwell dealltwriaeth o addysgu a chyd-destunau ystafell ddosbarth ehangach, yn rhan o gymuned genedlaethol.
Ar gyfer pwy mae hwn:
Ariannwyd y cwrs hwn trwy gymorth caredig Strategaeth Cronfa Arloesedd Ymchwil Cymru (RWIF) y Brifysgol, felly mae'n rhad ac am ddim ac yn agored i athrawon sydd newydd gymhwyso ac athrawon cyflenwi a enillodd statws athro cymwysedig (QTS) yn haf 2020 neu 2021.
Sylwch fod y cwrs hwn ar gael i'r rhai sy'n gweithio yng Nghymru yn unig.
Ynglŷn â’r cwrs:
Mae'r cwrs hwn yn rhoi cyfle euraidd i chi fagu hyder, ehangu eich gwybodaeth broffesiynol a myfyrio ar ymarfer proffesiynol.
Mae'r cwrs yn gydweithredol a bydd yn cael ei lunio mewn ymateb i anghenion penodol y rhai sy’n cymryd rhan wrth iddynt ddechrau ar eu blwyddyn gyntaf o addysgu. Bydd cynnwys a dull cyflwyno’r cwrs yn canolbwyntio ar ymarfer proffesiynol, a bydd yn defnyddio syniadau damcaniaethol allweddol, trwy drafodaeth.
Nod y cwrs yw cefnogi gwytnwch a lles athrawon sydd newydd gymhwyso. Bydd yn cynnig lle diogel i ddatblygu arbenigedd trwy feddwl yn heriol a rhagdybiaethau am brofiad ac ymarfer.
Bydd y cwrs yn dod â syniadau ynghyd ynghylch:
• datblygu a myfyrio ar ymarfer (addysgu, dysgu, asesu, gweithio gyda disgyblion, myfyrio beirniadol)
• gweithio ar y cyd (rhannu syniadau, ceisio cyngor a chefnogaeth, gweithio gyda chydweithwyr)
• dysgu proffesiynol parhaus ac ymgysylltu ag ymchwil i gefnogi ymarfer.
Bydd y cwrs yn cynnwys un sesiwn bob hanner tymor (yn ystod y tymor yn unig).
Bydd pob sesiwn yn cynnig tua 3 awr o ddysgu craidd ac yn cynnwys:
• Awr o ddeunyddiau cymorth, gweithgareddau a darllen anghydamserol wedi'u recordio/eu paratoi ymlaen llaw (i'w cwblhau cyn y sesiwn fyw)
• Sesiwn addysgu ryngweithiol fyw 2 awr o hyd am 19:00.
I ddysgu mwy, ac i gadw'ch lle, ewch i'n tudalen cwrs.
Ystyried cadw lle? Gwyliwch y gweminar diweddar sy’n ystyried sut beth yw bod yn athro gwych. O dîm arwain y cwrs. Gwylio