MANYLION
  • Lleoliad: Cardiff, Cardiff, CF240AB
  • Testun:
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £25,030 - £28,850
  • Iaith: Dwyieithog

This job application date has now expired.

Swyddog Cymorth Gwaith Achos

Swyddog Cymorth Gwaith Achos

Cyngor y Gweithlu Addysg
(cyfnod mamolaeth – cyfnod penodol am 12 mis)

£25,030-£28,850 y flwyddyn gyda buddion ychwanegol

Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yw’r corff proffesiynol statudol, hunanreoleiddiol ar gyfer aelodau’r gweithlu addysg yng Nghymru.

Gan weithio fel rhan o’r Adran Priodoldeb i Ymarfer, bydd y Swyddog Cymorth Gwaith Achos yn darparu cefnogaeth weinyddol a gweithredol wrth arfer swyddogaethau rheoliadol CGA. Bydd hyn yn cynnwys ymgynnull a hwyluso cyfarfodydd a gwrandawiadau a gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer cyfathrebiadau iaith Gymraeg i'r tîm. Bydd gofyn i'r Swyddog Cymorth Gwaith Achos hefyd gynorthwyo cydweithwyr i wneud gwaith achos a chasglu gwybodaeth berthnasol.

Gyda phrofiad yn cyflawni rôl weinyddol mewn amgylchedd prysur, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd brofiad o drefnu cyfarfodydd a gwneud trefniadau cysylltiedig. Bydd ganddynt sgiliau trefnu ardderchog gyda llygad fanwl a'r gallu i weithio ar eu liwt eu hunain, yn ogystal â sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol o'r radd flaenaf. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn siaradwr Cymraeg rhugl a bydd ganddo'r gallu i weithio trwy gyfrwng Cymraeg a Saesneg.

Mae buddion cyflogeion yn cynnwys mynediad i Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, oriau hyblyg a 31 diwrnod o wyliau blynyddol (yn ogystal â 10 gŵyl banc a diwrnod braint) pro rata.

E-bostiwch swyddi@cga.cymru i gael rhagor o wybodaeth, neu i gael pecyn cais, ewch i: https://www.ewc.wales/recriwtio

JOB REQUIREMENTS
Gweler y dogfennau atodedig