MANYLION
  • Lleoliad: SWANSEA, Swansea, SA2 9EB
  • Testun: Asesydd
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £13,469 - £14,823
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Tiwtor/Asesydd TAQA

Tiwtor/Asesydd TAQA

Coleg Gwyr Abertawe
Diben y Swydd
Darparu hyfforddiant ac asesu o’r radd flaenaf i ddysgwyr o fewn y sector perthnasol. Gallai’r rhaglenni gynnwys Dysgu Seiliedig ar Waith, NVQ, prosiectau a ariennir gan gyllid Ewropeaidd yn ogystal â rhaglenni a gweithdai pwrpasol.

Cadw i fyny â’r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â’r sector/diwydiant ac ymgymryd â dyletswyddau hyd eithaf eich gallu bob amser.

Defnyddio dull proffesiynol wrth weithio â dysgwyr a chyflogwyr, gan greu amgylchedd dysgu positif o ansawdd uchel er mwyn galluogi pob dysgwr i gyflawni ei botensial llawn.

JOB REQUIREMENTS
Dyma gyfle cyffrous i diwtor/asesydd cymwysedig i ymuno â’n tîm hynod lwyddiannus a phroffesiynol. Mae’r tîm yn gweithredu o fewn Hyfforddiant CGA, sef cangen fasnachol y Coleg.

Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â hyfforddwyr ac aseswyr proffesiynol i asesu a hyfforddi dysgwyr TAQA o fewn amgylchedd gwaith.

Byddwch yn gweithio â chyflogwyr i nodi a hwyluso datrysiadau cymorth, er mwyn diwallu anghenion y sefydliad a chynorthwyo Aseswyr a Gwirwyr Mewnol i sicrhau bod holl ofynion Gwiriwr Allanol a’r Corff Dyfarnu yn cael eu bodloni.

Bydd gennych ymagwedd broffesiynol, gwybodaeth gyfredol am y fframweithiau asesu a’r gallu i asesu hyd at Lefel 3.

Bydd gennych gymhwyster Lefel 3 mewn unrhyw ddisgyblaeth ynghyd â Dyfarniad Asesu A1/dyfarniad V1 Gwirio Mewnol (TAQA). Mae Lefel 2 (graddau A-C) neu’r cyfwerth mewn Mathemateg a Saesneg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.

Yn meddu ar sgiliau cyfathrebu gwych ar lafar ac yn ysgrifenedig, ynghyd â sgiliau TGCh cadarn, byddwch yn cyflwyno’r cymhwyster TAQA i safon uchel er mwyn ysgogi, ysbrydoli a throsglwyddo gwybodaeth i ddysgwyr. Bydd gennych lygad dda am fanylder ac ymrwymiad i ansawdd.

Bydd gofyn ichi weithio â dysgwyr yn y gwaith dros ardal ddaearyddol eang.

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn ymrwymedig i hyrwyddo a diogelu lles pobl ifanc a disgwylir i bob aelod o staff rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae penodiadau’n destun gwiriad DBS manylach a bydd gofyn ichi gofrestru â Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.