MANYLION
  • Lleoliad: Ammanford, Carmarthenshire, SA18 3TA
  • Testun:
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £18,769 - £20,992
  • Iaith: Dwyieithog

This job application date has now expired.

Swyddog Gweinyddol (Rhydaman a’r Gelli Aur)

Swyddog Gweinyddol (Rhydaman a’r Gelli Aur)

Coleg Sir Gar
37 awr yr wythnos
Campws Rhydaman a’r Gelli Aur
Dyddiad Cau: 27/09/2021 am 12 canol dydd



Mae rôl y Cynorthwyydd Gweinyddol yn un amrywiol a phrysur, ac mae’n chwarae rhan bwysig yng ngweithrediad Swyddfa Gampws effeithlon. Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus ddangos ymrwymiad, cywirdeb, effeithlonrwydd a hyblygrwydd wrth gyflawni'r rôl a sicrhau bod gwasanaethau o'r safonau uchaf posibl yn cael eu darparu ar gampysau. Mae'n hanfodol bod Swyddfeydd Campws yn cynnig gwasanaeth gwybodus i'r holl ddysgwyr, staff ac ymwelwyr mewn amgylchedd croesawgar, dwyieithog, effeithiol a bywiog. Yn y cyd-destun hwn, ni ddylid tanbrisio’r gwerth a roddir ar ofal a chymorth rhagorol i gwsmeriaid.

Mae deilydd y swydd yn cyflawni rôl hanfodol o ran rhediad didrafferth y campysau a bydd ganddo/ganddi berthynas waith agos gyda staff eraill y coleg.

Bydd y Cynorthwyydd Gweinyddol yn ymgymryd ag ystod eang o ddyletswyddau gan gynnwys gweithgareddau gweinyddu cyffredinol, derbynfa a gwaith ffôn, gweithgareddau’r gofrestrfa, ystadau a chyllid. Bydd angen lefel uchel o broffesiynoldeb, diplomyddiaeth a chydweithrediad ar gyfer y swydd hon. Dylai’r ymgeisydd llwyddiannus fod â chymwysterau addas a bod â phrofiad swyddfa perthnasol.
JOB REQUIREMENTS
Microsoft Office
Prosesu Geiriau Lefel 2
Cymwysterau TG Priodol
TGAU Saesneg - o leiaf Gradd C
neu Lefel O cyfwerth
TGAU Mathemateg - o leiaf Gradd C
neu Lefel O cyfwerth

Profiad perthnasol o ddyletswyddau cynorthwy-ydd
Dealltwriaeth dda o faterion perthnasol mewn Addysg Bellach ac
Addysg Uwch Dymunol

Sgiliau dadansoddi da
Lefel uchel o hunangymhelliant
Diplomyddiaeth a thact
Gallu cynhyrchu gwaith o ansawdd uchel
Gallu gweithio dan bwysau
Gallu cynnal cyfrinachedd llym
Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu da
Gallu i arddangos hyder a sefydlu
perthnasoedd cadarnhaol
Gallu cynllunio, cydlynu, gweithredu a monitro
ansawdd ac effeithiolrwydd systemau a gweithdrefnau.


Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) Lefel 3
Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) Lefel 2
(Gweler y Disgrifiadau manwl o Lefelau Iaith sy’n atodedig)