MANYLION
  • Lleoliad: Abertawe | Swansea , Swansea, SA1 1NW
  • Testun: Tiwtor
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Salary Range: £25.40 - £25.40
  • Iaith: Dwyieithog
  • Dyddiad Cau: 13 Awst, 2021 5:00 y.p

This job application date has now expired.

Tiwtoriaid mewn amryw bynciau

Tiwtoriaid mewn amryw bynciau

Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales
Mae gennym gyfle gwych ar gyfer tiwtoriaid cymwysedig i ymuno â sefydliad ledled Cymru sydd wedi ymrwymo i wasanaethu poblogaeth oedolion Cymru gyda chyfleoedd ysbrydoledig sy'n newid bywyd. Mae Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales yn fudiad democrataidd, annibynnol a gwirfoddol, sydd wedi ymrwymo i ehangu cyfranogiad, hyrwyddo dinasyddiaeth weithredol a datblygu sgiliau a darparu dysgu o'r ansawdd gorau, gan weithio ar y cyd gyda'i bartneriaid.

Rydym yn chwilio am diwtoriaid cymwys, medrus iawn i gyflwyno amrywiaeth o bynciau i ddysgwyr ledled Cymru.
Byddai'r gallu i gyflwyno'n ddwyieithog yn fantais, ond nid yw'n hanfodol ar gyfer y mwyafrif o rolau.

Sut i ymgeisio
Nodwch nid yw CV’s yn dderbynniol, ymgeisiwch gan ddefnyddio'r pecyn cais sydd ar gael ar https://www.adultlearning.wales/cym/amdanom/swyddi
Rydm yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg

Am y swydd
Byddwch yn cynllunio, datblygu, cyflwyno, gwerthuso ac asesu rhaglenni dysgu yn unol ag anghenion y dysgwyr a gweithdrefnau ansawdd Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales. Byddwch yn cyflwyno dysgu o ansawdd uchel gan ddefnyddio ystod o ddulliau addysgu ac yn defnyddio ystod o ddulliau asesu priodol yn unol ag anghenion y dysgwyr a gofynion y corff dyfarnu. Byddwch yn sicrhau bod y dysgwyr yn cael adborth clir ac adeiladol o fewn amserlenni priodol.

Rydym yn chwilio am diwtoriaid i gyflwyno yn y pynciau a’r ardaloedd daearyddol canlynol. I gael gwybodaeth am y gofynion ar gyfer pob maes pwnc, gweler y pecynnau cais unigol.

Rhanbarth Gogledd Cymru (Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn, Wrecsam)
SSIE (prosiect AMIF)
Cymraeg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (CSIE)
Diogelu
ILM Hyfforddi a Mentora
Cymorth Cyntaf
Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl
Anghenion Dysgu Ychwanegol
Cymhwyster Sylfaen mewn Cwnsela
Cymhwyster Tystysgrif mewn Cwnsela
Gwaith Ieuenctid
Gwaith Chwarae

Rhanbarth De-orllewin a Chanolbarth Cymru (Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Neath Port Talbot, Sir Benfro, Powys, Abertawe)
SSIE (prosiect AMIF)
Cymraeg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (CSIE)
Diogelu
Cymhwyster Sylfaen mewn Cwnsela
Cymhwyster Tystysgrif mewn Cwnsela
Cymhwyster Diploma mewn Cwnsela
Cymhwyster Dyfarniad mewn Ddeall Camddefnyddio Sylweddau
Cymhwyster Tystysgrif mewn Hyfforddi Bywyd
ILM Hyfforddi a Mentora
Cymorth Cyntaf
Gwaith Ieuenctid
Gwaith Chwarae

Rhanbarth De-ddwyrain Cymru (Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taff, Tor-faen, Bro Morgannwg)
SSIE (prosiect AMIF)
Cymraeg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (CSIE)
Cymhwyster Sylfaen mewn Cwnsela
Cymhwyster Tystysgrif mewn Cwnsela
Cymhwyster Dyfarniad mewn Ddeall Camddefnyddio Sylweddau
Cymorth Cyntaf
Diogelu
ILM Hyfforddi a Mentora
Gwaith Ieuenctid
Gwaith Chwarae


Mae Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn fod cael gweithlu amrywiol ar bob lefel yn caniatáu i ni gynrychioli'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.
Mae safbwyntiau a phrofiadau amrywiol yn hanfodol i'n llwyddiant ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb o bob cefndir sydd gyda’r profiad a'r sgiliau anghenrheidiol i gyflawni'r rôl hon.


JOB REQUIREMENTS
I gael gwybodaeth am y gofynion ar gyfer pob maes pwnc, gweler y pecynnau cais unigol.