MANYLION
  • Lleoliad: Dinbych, Denbighshire, LL16 3TL
  • Testun: Swyddog Datblygu Chwaraeon
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £24,477 - £27,401
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 04 Hydref, 2021 12:00 y.p

This job application date has now expired.

Swyddog Datblygu Chwaraeon Dinbych a Conwy

Swyddog Datblygu Chwaraeon Dinbych a Conwy

Urdd Gobaith Cymru
Teitl y Swydd: Swyddog Datblygu Chwaraeon Conwy a Dinbych

Math o gontract: Swydd barhaol, llawn amser (35 awr yr wythnos)

Graddfa: Graddfa 4: £24,477 (Pwynt 1) - £27,401 (Pwynt 4)

Lleoliad: Conwy a Dinbych


Amdanom ni

Mae’r Urdd wedi meithrin cenedlaethau o ferched a dynion ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i’r byd ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru.

Ar drothwy ein canmlwyddiant, dyma ddatgan ein huchelgais heriol i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc Cymru, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau.

Y Swydd

Nod y swydd fydd cynyddu cyfranogaeth plant a phobl ifanc mewn gweithgaredd chwaraeon cyson, drwy gyfrwng y Gymraeg.


Am fwy o fanylion cysylltwch â Gary Lewis (Cyfarwyddwr Chwaraeon a Phrentisiaethau) ar gary@urdd.org

Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at swyddi@urdd.org

Dyddiad Cau – 04.10.21 am 12:00pm
Dyddiad Cyfweld – 06.10.21


Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr anabl a phobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.