MANYLION
  • Lleoliad: Cardiff, Cardiff, CF240AB
  • Testun:
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £39,310 - £47,000
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 06 Awst, 2021 11:59 y.p

This job application date has now expired.

Rheolwr Achredu ac Ansawdd

Rheolwr Achredu ac Ansawdd

Cyngor y Gweithlu Addysg
Diben y Swydd:

Bydd deiliad y swydd yn arwain tîm bach sy’n gyfrifol am:

• achredu rhaglenni Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) yng Nghymru a monitro’u bod yn cydymffurfio â meini prawf Llywodraeth Cymru; ac
• achredu/sicrhau ansawdd rhaglenni neu ddarpariaeth arall yng Nghymru, fel y bo’r angen.

Cyfrifoldebau:

Bydd y Rheolwr Achredu ac Ansawdd yn:

Achredu addysg gychwynnol athrawon

• Datblygu a chynnal methodolegau, gweithdrefnau a phrosesau effeithiol, yn unol â gofynion deddfwriaethol, i:
 achredu rhaglenni AGA yng Nghymru yn erbyn y meini prawf cenedlaethol, y “Meini prawf ar gyfer achredu AGA”;
 monitro cydymffurfiad rhaglenni â’r Meini Prawf dros eu cyfnod achredu cyfan;
 tynnu achrediad rhaglenni AGA yn ôl;
 clywed gwrandawiadau;
• Sicrhau bod y methodolegau, y gweithdrefnau a’r prosesu’n cael eu gweithredu’n gywir ac yn effeithlon:
 bod yn brif bwynt cyswllt ar gyfer ymholiadau Partneriaethau AGA;
 sicrhau bod dogfennaeth gyflawn a pherthnasol yn cael ei chyflwyno ar gyfer achredu/monitro rhaglenni;
 goruchwylio’r trefniadau a’r paratoadau ar gyfer asesu/monitro rhaglenni;
 mynychu asesiadau/monitro rhaglenni a sicrhau dealltwriaeth lawn o drafodion a chofnod o benderfyniadau;
 llunio adroddiadau penderfyniadau achredu/monitro;
• Gweithio’n agos gyda’r Bwrdd Achredu AGA a’u cefnogi (grŵp o arbenigwyr a benodwyd, y mae CGA yn dirprwyo cyfrifoldeb am achredu rhaglenni AGA iddo):
 rheoli recriwtio aelodau’r Bwrdd, niferoedd/arbenigedd aelodau, dogfennaeth; adolygiadau blynyddol o berfformiad a hyfforddiant blynyddol;
 trefnu cyfarfodydd Bwrdd (tri yn flynyddol, yn nodweddiadol);
 cefnogi ac arwain y Bwrdd Achredu AGA ynghylch materion deddfwriaeth, gweithdrefnau a phroses;
• Arwain gwaith modelu, ar y cyd â Llywodraeth Cymru, y Bwrdd Achredu AGA a thîm data CGA i neilltuo niferoedd myfyrwyr i raglenni achrededig yn flynyddol, monitro’r derbyniad yn fisol ac adrodd i Lywodraeth Cymru; a
• Gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, Estyn, USCET, Partneriaethau AGA a rhanddeiliaid perthnasol eraill wrth ddatblygu a chynnal ymhellach safon y ddarpariaeth AGA yng Nghymru.

Sicrhau ansawdd rhaglenni neu ddarpariaeth arall

• Wrth i waith achredu a sicrhau ansawdd CGA esblygu, cymryd y prif gyfrifoldeb am ffrydiau gwaith penodol eraill yn y maes hwn; a
• Gweithio gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid perthnasol eraill ar gyfleoedd i achredu/sicrhau ansawdd rhaglenni/darpariaeth genedlaethol arall, a datblygu systemau i ategu’r rhain, fel y bo’r angen.

Cyffredinol / Arall

• Rheoli’r cyllidebau ar gyfer achredu AGA a gweithgareddau sicrhau ansawdd eraill;
• Datblygu papurau, adroddiadau a diweddariadau rheoli’r Cyngor/Pwyllgor ynghylch achredu/sicrhau ansawdd fel y bo’r angen;
• Sicrhau cydymffurfiad â deddfwriaeth berthnasol, gan gynnwys y Gymraeg, Cydraddoldeb a’r Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data;
• Cyfrannu at waith polisi datblygiadol CGA ym maes cyffredinol datblygiad proffesiynol, safonau proffesiynol a chydnabyddiaeth broffesiynol; ac
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill yn unol â chyfarwyddyd y Cyfarwyddwr neu’r Prif Weithredwr, yn gymesur â’r swydd a’r radd.
JOB REQUIREMENTS
Gweler y ddogfennaeth atodedig ar gyfer manyleb person.