MANYLION
  • Lleoliad: Cardiff, Cardiff, CF24 5JW
  • Testun: arolygydd
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Dros dro
  • Dyddiad Dechrau: 01 November, 2021
  • Dyddiad Gorffen: 31 March, 2022
  • Math o gyflog: Digyflog
  • Salary Range: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 06 Awst, 2021 10:00 y.b

This job application date has now expired.

Arolygydd Ychwanegol – Cyfle am Secondiad (Sector Cynradd)

Arolygydd Ychwanegol – Cyfle am Secondiad (Sector Cynradd)

Estyn
Rydym yn chwilio am unigolion llawn symbyliad sydd â hanes o arwain yn llwyddiannus neu brofiad arbenigol mewn un neu fwy o’r meysydd arbenigedd canlynol y sector Cynradd addysg a hyfforddiant. Ar gyfer y swydd hon, mae medrau Cymraeg yn hanfodol.

Fel arolygydd, bydd y cyngor a’r argymhellion y byddwch yn eu rhoi yn dylanwadu ar ddyfodol addysg a hyfforddiant ledled Cymru. Bydd eich gwaith o ddydd i ddydd yn cynnwys:
• Arwain neu gyfrannu at arolygiadau, adroddiadau a gwaith cynghori, gan gynnwys arolygiadau o ddarparwyr addysg unigol ac adolygiadau ‘thematig’ ehangach yn rhychwantu sampl o ddarpariaeth yng Nghymru
• Cymryd rhan mewn datblygiadau cenedlaethol a llunio cyngor proffesiynol sydd wedi’i lunio i lywio datblygiad polisi yn eich meysydd arbenigedd
• Ymgymryd â gwaith sydd wedi’i lunio i gipio a lledaenu arfer orau a welwn drwy ein rhaglenni arolygu
• Gweithio o fewn systemau a phrosesau cytûn a chyfrannu at dwf, datblygiad a newid sefydliadol o fewn Estyn
• Sicrhau ansawdd adroddiadau arolygu ac arolygon thematig
• Paratoi a chyflwyno hyfforddiant cychwynnol a hyfforddiant diweddaru i arolygwyr allanol a digwyddiadau i randdeiliaid allweddol
• Bod yn ddelfryd ymddwyn ar gyfer gwerthoedd Estyn a gweithredu er lles dysgwyr bob amser
• Hybu a diogelu lles y phobl ifanc ac oedolion bregus y byddwch yn dod i gysylltiad â nhw

Cyflog: Byddwn yn ad-dalu eich cyflogwr am eich cyflog chostau ac argostau eraill (cyfraniadau pensiwn ac Yswiriant Gwladol y cyflogwr) am gyfnod y secondiad.

Oriau gwaith: pum diwrnod (dydd Llun i ddydd Gwener) o 37 awr, ac eithrio amser cinio

Lleoliad: Yn gweithio gartref, gan deithio i bob cwr o Gymru yn rheolaidd