MANYLION
  • Lleoliad: Llangefni, Isle of Anglesey, LL77 7HY
  • Testun: Asesydd
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £25,569 - £27,747
  • Iaith: Dwyieithog
  • Dyddiad Cau: 10 Chwefror, 2023 12:00 y.p

This job application date has now expired.

ASESYDD DYSGU SEILIEDIG AR WAITH (PEIRIANNEG AWYRENNAETH/ CYNNAL A CHADW)

ASESYDD DYSGU SEILIEDIG AR WAITH (PEIRIANNEG AWYRENNAETH/ CYNNAL A CHADW)

Grwp Llandrillo Menai
Am ffurflen gais a gwybodaeth ychwanegol ewch i:-https://www.gllm.ac.uk/jobs

TROSOLWG

Bydd yr Asesydd Dysgu Seiliedig ar Waith (DSW) yn gyfrifol am ddarparu hyfforddiant, asesu, a lle y bo'n briodol, dilysu gwaith dysgwyr.

Dyrennir grŵp o ddysgwyr i'r asesydd a bydd disgwyl iddo ef/hi fonitro cynnydd pob dysgwr yn unol â chanllawiau a systemau'r Coleg. Byddant yn gweithio'n agos â staff perthnasol i sicrhau bod y prentisiaid a'r dysgwyr sy'n dilyn cymwysterau cymhwysedd a sgiliau yn derbyn cefnogaeth lawn i gwblhau'r cymwysterau yn llwyddiannus. Mae'n hanfodol i'r rôl bod yr asesydd yn sicrhau bod yr holl ddogfennau priodol yn cael eu cwblhau a'u cyflwyno'n gywir ac yn brydlon. Yn ogystal, rhaid i'r asesydd sicrhau eu bod yn adlewyrchu cenhadaeth, gwerthoedd ac amcanion y Grŵp.


JOB REQUIREMENTS
Gweler y swydd ddisgrifiad ynghlwm