MANYLION
  • Lleoliad: SWANSEA, Swansea, SA2 9EB
  • Testun: Hyfforddwr (Aseswr)
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £31,498 - £36,642
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 13 Chwefror, 2023 11:59 y.p

This job application date has now expired.

Hyfforddwr Lloriau

Hyfforddwr Lloriau

Coleg Gwyr Abertawe
Gellir ystyried y swydd hon fel un amser llawn (37 awr yr wythnos) neu ran-amser (18.5 awr yr wythnos). Byddwch yn cyflwyno darpariaeth i ddysgwyr yn Ne Cymru, ond efallai bydd gofyn i chi weithio mewn ardaloedd eraill ledled Cymru (wyneb yn wyneb ac ar-lein).

Cyflog: £31,498 - £36,642 y flwyddyn (37 awr yr wythnos)
Cyflog: £15,748 - £18,320 y flwyddyn (18.5 awr yr wythnos)

Dyma gyfle cyffrous i hyfforddwr Lloriau cymwysedig ymuno â’n tîm proffesiynol a llewyrchus. Bydd y swydd yn gofyn i’r ymgeisydd/ymgeiswyr llwyddiannus weithio yn gyda thîm Hyfforddiant CGA - cangen fasnachol y Coleg.

Byddwch yn gweithio yn yr adran Fusnes, Sgiliau ac Arloesi, gan farchnata, recriwtio, addysgu, asesu a chefnogi dysgwyr o fewn y sector. Bydd gofyn i chi hyfforddi ac asesu dysgwyr ym mhob agwedd ar Loriau (carpedi pren, laminadu a finyl/linoliwm), gan gyflwyno cymwysterau academaidd a sgiliau hanfodol hyd at lefel 3.

Bydd rhaglenni’r ddarpariaeth yn cynnwys QCF, NVQ, cyrsiau academaidd a dysgu seiliedig ar waith. Mae safonau uchel, proffesiynoldeb a gwybodaeth gyfredol am y diwydiant yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Bydd gennych ymagwedd broffesiynol a gwybodaeth gyfredol am fframweithiau perthnasol a byddwch yn cyflwyno pob cymhwyster sy’n berthnasol i’r fframwaith prentisiaethau. Yn ddelfrydol, byddwch yn gyfarwydd â gofynion gweinyddol rhaglenni prentisiaeth.

Byddwch yn gweithio â chyflogwyr allanol a rheolwyr o fewn y Coleg i nodi a gweithredu datrysiadau sy’n ymwneud â hyfforddiant er mwyn diwallu anghenion sefydliadau. Hefyd, bydd gofyn i chi gynorthwyo Dilyswyr Mewnol i sicrhau bod holl anghenion y Dilysydd Allanol a chyrff cyhoeddus yn cael eu diwallu.

Bydd gennych gymhwyster Lefel 3 (o leiaf) neu gywerth mewn maes perthnasol ac yn meddu ar Ddyfarniad Asesydd A1/Tystysgrif Dilyswyr Mewnol TAQA (neu barodrwydd i ennill un o’r cymwysterau hyn). Mae Lefel 2 (Gradd A-C) neu gymhwyster cyfwerth mewn Mathemateg a Saesneg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon, ynghyd ag ymrwymiad i ymgymryd â chymhwyster Paratoi i Addysgu (PTTLS). Bydd gennych hefyd brofiad perthnasol o weithio yn y diwydiant.

Bydd gennych sgiliau cyfathrebu gwych ar lafar ac yn ysgrifenedig, sgiliau TGCh cadarn a chymhwysedd galwedigaethol i asesu hyd at Lefel 3. Byddwch yn medru ysgogi ac ysbrydoli eraill, gan drosglwyddo gwybodaeth i’r dysgwyr. Byddwch yn meddu ar lygad wych am fanylder, ysfa i gwblhau targedau a ffocws ar ansawdd.

Ni cheir ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. Mae Coleg Gwyr Abertawe’n cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg ac yn cydnabod hefyd yr angen i ddatblygu gweithlu dwyieithog. Rydym felly yn annog unigolion sy’n meddu ar Sgiliau Cymraeg da i wneud cais.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac yn disgwyl i’r holl staff rhannu’r ymrwymiad hwn. Bydd penodiadau eu gwneud ar sail gwiriad DBS manylach a bydd gofyn i chi ymaelodi â Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar.

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).

Buddion:
28 diwrnod o wyliau, ynghyd â phythefnos ar gau dros y Nadolig ac 8 gwyl banc, Aelodaeth o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, amrywiaeth o fanteision i weithwyr gan gynnwys cynlluniau aberthu cyflog, disgowntiau staff a pharcio am ddim.