MANYLION
  • Lleoliad: SWANSEA, Swansea, SA2 9EB
  • Testun: Addysg Uwch
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Dyddiad Gorffen: 08 February, 2023
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £50,641 - £55,032
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 08 Chwefror, 2023 11:59 y.p

This job application date has now expired.

Rheolwr Addysg Uwch

Rheolwr Addysg Uwch

Coleg Gwyr Abertawe
Cyfnod Penodol, tan Chwefror 2024.

Mae cyfle cyffrous wedi codi i Reolwr AU ymuno â Choleg Gwyr Abertawe i arwain datblygiadau strategol yn unol â’i Strategaeth Addysg Uwch newydd. Bydd y rôl yn cynnwys hybu twf yn ein darpariaeth Addysg Uwch sy’n ymwneud â Chyflogadwyedd. Swydd i bara 18 mis yw hon i bontio cyfnod secondiad ein Rheolwr HE presennol.

Mae’r swydd hon yn cael ei hysbysu yn ystod cyfnod diddorol iawn i’r Coleg ac i’r sector AU mewn AB, wrth i ni weld datblygiadau newydd yn dod i rym megis Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CADY). Bydd hyn yn cynnig sawl cyfle i’r ymgeisydd llwyddiannus. Mae’r rôl hon yn hanfodol i roi’r Coleg yn y sefyllfa orau posib i wneud gwahaniaeth positif drwy ein darpariaeth ‘Level 4-plus’, wrth i ni weld newidiadau parhaus mewn perthynas ag Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PCET) yng Nghymru.

Mae’r gallu i ffurfio partneriaethau a chydweithio â rhanddeiliaid megis Prifysgolion partner yn rhan hanfodol a gwerth chweil o’r rôl hon. Bydd y swydd hefyd yn cynnig cyfle i arwain a meithrin partneriaethau positif yng Nghymru a thu hwnt i’r ffin. Mae’r Coleg yn falch iawn o’r profiad dysgwr rhagorol y mae’n ei ddarparu i fyfyrwyr Addysg Uwch y Coleg, ac mae’r rôl Rheolwr AU yn hanfodol i sicrhau bod hyn yn cael ei gynnal a’i wella.

Mae’r rôl traws-golegol hon, sy’n cynnwys rheoli’r Tîm AD Canolog, yn cynnig cyfle i weithio gyda phob cyfadran a maes masnachol y Coleg, gan gynnwys alinio dysgu ac addysgu, profiad y dysgwr ac ansawdd ei holl ddarpariaeth lefel uwch. Bydd angen i ymgeiswyr feddu ar brofiad o arwain, gweithio mewn partneriaeth, datblygu cwricwlwm cyflogadwyedd ymatebol, ynghyd â meddu ar sgiliau ac angerdd am yrru’r amcan strategol hwn yn ei flaen. Rydym yn ymrwymedig i ddatblygiad parhaus ein holl staff a byddwn yn cefnogi eich datblygiad fel rhan o’r rôl hon.

Ni cheir ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. Mae Coleg Gwyr Abertawe’n cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg ac yn cydnabod hefyd yr angen i ddatblygu gweithlu dwyieithog. Rydym felly yn annog unigolion sy’n meddu ar Sgiliau Cymraeg da i wneud cais.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac yn disgwyl i’r holl staff rhannu’r ymrwymiad hwn. Bydd penodiadau eu gwneud ar sail gwiriad DBS manylach a bydd gofyn i chi ymaelodi â Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).



Buddion:
37 diwrnod o wyliau, yn ogystal â 5 diwrnod cau ac 8 gwyl banc, Aelodaeth o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, amrywiaeth o fanteision i weithwyr gan gynnwys cynlluniau aberthu cyflog, disgowntiau staff a pharcio am ddim.