MANYLION
  • Lleoliad: Vale of Glamorgan, Vale of Glamorgan, CF63 4RU
  • Testun: Cynorthwyydd Addysgu 1:1
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £17,642 - £19,338
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 13 Rhagfyr, 2022 11:59 y.p

This job application date has now expired.

Cynorthwy-ydd Cymorth Dysgu Arbenigol (Nam ar y Golwg)

Cynorthwy-ydd Cymorth Dysgu Arbenigol (Nam ar y Golwg)

Cyngor Bro Morgannwg
Amdanom ni
Rydym yn dîm bach o Gynorthwywyr Cymorth Dysgu arbenigol sy'n gweithio gyda phlant â nam ar eu golwg ar draws ysgolion yng Nghyngor Bro Morgannwg.

Byddwch yn gweithio 1:1 gyda'r disgyblion i sicrhau bod ganddynt fynediad i'r cwricwlwm drwy adnoddau cyffyrddol a phrint mwy, yn ogystal â bywyd ehangach yr ysgol. Gallai hyn gynnwys y rhai sydd angen cymorth manwl ac arbenigol mewn meysydd penodol.

Bydd disgwyl i chi weithio o dan arweiniad Athrawon Cymwysedig Disgyblion â Nam ar eu Golwg (QTVI), Swyddog Sefydlu ac Arweinydd y Tîm Nam ar y Golwg.

Bydd disgwyl i chi hefyd weithio o dan arweiniad a gyda’r Cydlynydd ADY, Athro Dosbarth / Pwnc ac aelodau o dîm arwain yr ysgol i gefnogi ystod o ddisgyblion gyda Nam ar y Golwg i fanteisio ar ddysgu a bywyd ehangach yr ysgol.

Byddwch yn cyfrannu at gylch cynllunio'r athrawon gyda'r QTVI, y Swyddog Sefydlu ac athrawon dosbarth / pwnc i sicrhau bod disgyblion â nam ar y golwg yn cael mynediad cyfartal i ddysgu.

Ynglŷn â'r rôl
Manylion cyflog: Lefel 4, Gradd 6, PCG 14-19, £25,409- £27,852 pro rata + Lwfans Ysgol Arbennig (£1401)

Diwrnodau / Oriau'r wythnos: 30 awr – 5 diwrnod

Swydd dros dro tan fis Medi 2024, gyda'r posibilrwydd o flwyddyn arall yn dibynnu ar gyllid.

Disgrifiad:

Darparu cymorth i ddisgyblion â nam ar eu golwg ar draws pob ysgol ym Mro Morgannwg. Sicrhau bod ganddynt fynediad i'r cwricwlwm a gweithredu fel cynorthwyydd ymarferol yn ystod gwersi yn ôl y gofyn. Bydd angen i chi hefyd roi cymorth i'r holl athrawon ac arbenigwyr dan sylw.



Amdanat ti
Bydd angen y canlynol arnoch:

Profiad blaenorol a diweddar o weithio gyda phlant mewn lleoliad blynyddoedd cynnar, â phlant â Nam ar y Golwg os yn bosib.
Sgiliau TG rhagorol, ynghyd â phrofiad o weithio gyda gwahanol raglenni meddalwedd.
Profiad o weithio gyda phlant â nam ar eu golwg yn unigol ac mewn grwpiau.
Profiad o weithio gydag athrawon arbenigol, gan roi adborth a gwerthusiadau.
Profiad o gynllunio / addasu gweithgareddau byr i ddisgyblion.
Cynnal perthnasau disgybl / athro rhagorol.
Profiad o fonitro ac asesu cynnydd disgyblion.
Sgiliau cyfathrebu ardderchog.
Sgiliau datrys problemau ardderchog.
Ymagwedd hyblyg at weithio.
Parodrwydd i ddysgu Braille.
Gwybodaeth Ychwanegol
Oes angen gwiriad gan y GDG: Manwl

Manylion Cofrestru CGA: Mae’n ofyniad statudol bod ymgeiswyr ar gyfer y swyddi hyn wedi’u cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg cyn iddynt allu ddechrau gweithio mewn ysgol. Os nad ydych eisoes wedi cofrestru, mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys sut i gofrestru, ar gael yn www.cga.cymru

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: Annabelle Hallihan – Arweinydd Tîm y Gwasanaeth Nam ar y Golwg

Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person a atodir i gael rhagor o wybodaeth.