MANYLION
  • Lleoliad: SWANSEA, Swansea, SA2 9EB
  • Testun: Asesydd
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £21,579 - £22,668
  • Iaith: Dwyieithog
  • Dyddiad Cau: 12 Rhagfyr, 2022 11:59 y.p

This job application date has now expired.

Aseswr Gofal Plant

Aseswr Gofal Plant

Coleg Gwyr Abertawe
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â thîm llwyddiannus fel Aseswr mewn Gofal plant. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus asesu dysgwyr y sector Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (CCPLD) lefelau 2 a 3.

Byddwch yn allweddol wrth gefnogi’r dysgwr i ennill cymhwyster cyfatebol a gweithio gyda chyflogwyr i sicrhau y cyrhaeddir amcanion sefydliadol ac unigol.

Bydd gennych brofiad o weithio yn y sector gofal plant a dealltwriaeth o’r cymwysterau ac, yn ddelfrydol, bydd gennych gymhwyster lefel 5. Byddai'r dyfarniadau TAQA neu Aseswr A1 hefyd yn ddymunol ynghyd â'r cymhwysedd i gyflwyno ac asesu hyd at lefel 5. Mae cymhwyster llythrennedd a rhifedd Lefel 2 (TGAU neu gyfwerth) yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Bydd gennych sgiliau cyfathrebu ardderchog yn ysgrifenedig ac ar lafar a sgiliau hyfforddiant a arweinir (ILT) a bydd gennych y gallu i gyflwyno sesiynau o safon er mwyn ysgogi ac ysbrydoli’r dysgwyr gan drosglwyddo gwybodaeth iddynt. Byddwch yn drylwyr, yn uchelgeisiol o ran targedau a byddwch yn canolbwyntio’n gryf ar ansawdd.

Mae'r rôl hon yn un barhaol, 37 awr yr wythnos a 38 wythnos y flwyddyn. Y cyflog pro-rata yw £18,200.80 - £19,119.32.

Ni cheir ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. Mae Coleg Gwyr Abertawe’n cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg ac yn cydnabod hefyd yr angen i ddatblygu gweithlu dwyieithog. Rydym felly yn annog unigolion sy’n meddu ar Sgiliau Cymraeg da i wneud cais.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac yn disgwyl i’r holl staff rhannu’r ymrwymiad hwn. Bydd penodiadau eu gwneud ar sail gwiriad DBS manylach a bydd gofyn i chi ymaelodi â Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).<u></u>