MANYLION
  • Lleoliad: Yale, Wrexham, LL12 7AB
  • Testun: Darlithydd
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £27,382 - £42,326
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 07 Rhagfyr, 2022 11:45 y.p

This job application date has now expired.

Darlithydd Cymdeithaseg Llawn Amser

Darlithydd Cymdeithaseg Llawn Amser

Coleg Cambria
Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth…

Teitl y Swydd: Darlithydd Cymdeithaseg Llawn Amser

Lleoliad: Chweched Iâl

Math o Gontract: Parhaol, Llawn Amser

Cyflog: £27,382 i £42,326 . Mae pwyntiau UP2 ac UP3 yr uwch raddfa gyflog yn amodol ar dystiolaeth o gynnydd blaenorol i'r raddfa dâl uwch.

Erbyn hyn rydym yn recriwtio ar gyfer Darlithydd Cymdeithaseg i gyflwyno ein cyrsiau Safon UG ac Uwch mewn Cymdeithaseg.

Er mwyn cael eich ystyried am y swydd hon, mae’n rhaid bod â phrofiad y gallwch ei brofi a chymhwysedd mewn darlithio Cymdeithaseg fel pwnc a bod ag addysg lefel gradd.

Fel darlithydd yng Ngholeg Cambria bydd angen i chi gyflwyno dysgu ymarferol ac yn yr ystafell ddosbarth i’n myfyrwyr. Byddwch yn gyfrifol am gofrestru myfyrwyr ar gyrsiau priodol a darparu cyfleoedd hyfforddi, mentora a dysgu yn ogystal â sicrhau diogelwch a lles ein myfyrwyr bob amser.

Gofynion Hanfodol

Cymwys i Lefel 6/Lefel Gradd o leiaf mewn maes pwnc arbenigol perthnasol

Cymhwyster Addysgu (e.e.Tystysgrif Addysg, TAR, C&G 7407)

Gallu cydnabod, dehongli a rhoi gwybodaeth benodol ar waith

Sgiliau Llythrennedd Digidol Da

Gallu datblygu a defnyddio ystod o dechnegau addysgu a dysgu

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg

wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’ yn

hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr

unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

(DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd

yn cael cynnig y swydd. Yn dibynnu ar y swydd y byddwch yn gwneud cais amdani ac os

ydych yn llwyddiannus, efallai bydd gofyn i chi gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg

hefyd.



Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau’r rhestr ymgeiswyr ar gyfer unrhyw swydd yn

gynnar pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn

cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.