MANYLION
  • Lleoliad: Pontyclun, Rhondda Cynon Taf, CF72 8TL
  • Testun: Cynorthwy-ydd Addysgu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £14,122 - £14,122
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 14 Hydref, 2022 12:00 y.p

This job application date has now expired.

Dros dro - Cynorthwyydd Addysgu (Lefel 3) - YGGG Llantrisant

Dros dro - Cynorthwyydd Addysgu (Lefel 3) - YGGG Llantrisant

Ysgol Gynradd Gymunedol Gymraeg Llantrisant
YSGOL GYNRADD GYMUNEDOL GYMRAEG LLANTRISANT
Cefn yr Hendy Road, Miskin, Pontyclun. CF72 8TL
Phone Number: 01443 237837

Dros dro - Cynorthwyydd Addysgu – Lefel 3

27 awr yr wythnos – yn ystod tymhorau’r ysgol yn unig

Cyflog – Gradd 6 - £22,129 x 63.82%

yn angen cyn gynted ag y bo modd

Ysgol Gymraeg ei chyfrwng sydd wedi ei lleoli yng nghanol pentref Meisgyn ydy Ysgol Gynradd Gymunedol Gymraeg Llantrisant. Ysgol lwyddiannus sy’n meddu ar safonau cyrhaeddiad a disgwyliadau uchel iawn yw hi. Ar hyn o bryd mae 226 o ddisgyblion yn yr ysgol.

Mae’r Bwrdd Llywodraethu am benodi’r aelod o staff cynorthwyol i ddechrau yn syth. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio gyda grwpiau o ddisgyblion ac unigolion ochr yn ochr â staff addysgu’r ysgol. Byddai’r gallu i ddarparu sesiynau ELSA ac ymyraethau llythrennedd a rhifedd yn fanteisiol. Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar sgiliau llythrennedd, Cymraeg a Saesneg, a rhifedd o safon uchel.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Gwener 14 Hydref 2022 am 12

Mae modd cael ffurflenni cais a manylion pellach, gan gynnwys disgrifiad swydd a'r fanyleb person ar gyfer y rôl oddi neu drwy'r wefan Recriwtio Ysgolion yn https://rhondda-cynon-taf.tal.net/vx/lang-cy/mobile-0/appcentre-3/brand-4/xf-c76d524b2100/candidate. Nodwch - i gyflwyno cais am y swydd yma, mae angen i chi lenwi'r ffurflen gais ar-lein sydd ar wefan Cyngor RhCT. O beidio â llenwi'r cais ar-lein byddwn ni'n cyfrif hynny fel nad ydych chi wedi gwneud cais am y swydd.

MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R HOLL STAFF A BENODIR GAN Y CYNGOR.

YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.