MANYLION
  • Lleoliad: Pontypridd, Rhondda Cynon Taf, CF37 1HF
  • Testun: Athro
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £27,491 - £42,333
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 07 Hydref, 2022 12:00 y.p

This job application date has now expired.

Athro/Athrawes Dros Dro - Ysgol Gynradd Gymraeg Evan James

Athro/Athrawes Dros Dro - Ysgol Gynradd Gymraeg Evan James

Ysgol Gynradd Gymraeg Evan James
Ysgol Gynradd Gymraeg Evan James

Ffordd y Rhondda, Pontypridd, CF371HF
Rhif Ffôn: (01443) 486813
admin@yggevanjames.rctcbc.cymru

Athro/Athrawes Dros Dro

Tachwedd 2022 - Awst 2024

Graddfa Cyflog Athrawon

Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Evan James wedi'i leoli ar gyrion tref Pontypridd, yn Rhondda Cynon Taf. Mae 292 o ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed ar y gofrestr.

Mae’r llywodraethwyr, y staff a’r disgyblion yn awyddus i benodi athro profiadol a fydd yn ymarferwr gwych yn yr ystafell ddosbarth, yn gweithio’n frwdfrydig o fewn tîm ac yn gosod y plentyn wrth galon popeth sy’n bwysig ym mywyd yr ysgol. Rydym yn chwilio am berson sy'n gallu cefnogi'r weledigaeth hon ac adeiladu ar y sylfeini cryfion a rhagorol sydd eisoes yn eu lle.

Mae profiad o’r meysydd canlynol yn ddymunol:

• Cwricwlwm i Gymru
• Asesu Ysgol Gyfan
• Ymyraethau
• Mentor i athrawon newydd gymhwyso

Am ragor o wybodaeth neu am sgwrs anfurfiol cysylltwch gyda’r ysgol.

Mae modd cael ffurflenni cais a manylion pellach, gan gynnwys disgrifiad swydd a'r fanyleb person ar gyfer y rôl oddi neu drwy'r wefan Recriwtio Ysgolion yn https://rhondda-cynon-taf.tal.net/vx/lang-cy/mobile-0/appcentre-3/brand-4/xf-c76d524b2100/candidate. Nodwch - i gyflwyno cais am y swydd yma, mae angen i chi lenwi'r ffurflen gais ar-lein sydd ar wefan Cyngor RhCT. O beidio â llenwi'r cais ar-lein byddwn ni'n cyfrif hynny fel nad ydych chi wedi gwneud cais am y swydd.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw canol dydd Gwener (12pm) ar 7 Hydref 2022.

Cyfweliad: Dydd Llun, 10.10.2022

MAE DIOGELU PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD YR YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD HEFYD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS.

Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.