MANYLION
  • Lleoliad: Bangor, Gwynedd, LL57 2LN
  • Testun: technegydd
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £18,052 - £19,540
  • Iaith: Dwyieithog
  • Dyddiad Cau: 10 Hydref, 2022 9:30 y.b

This job application date has now expired.

 Technegydd Dylunio a Thechnoleg

Technegydd Dylunio a Thechnoleg

Ysgol Friars
Angen technegydd Dylunio a Thechnoleg.

Mae Ysgol Friars am benodi Technegydd Dylunio a Thechnoleg i gefnogi’r ysgol drwy ddarparu gwasanaeth cymorth technegol yn y gyfadran Dylunio a Thechnoleg, i staff a myfyrwyr, gan fodloni safonau iechyd a diogelwch a gofynion y dosbarthiadau dan sylw.

Fel Technegydd Dylunio a Thechnoleg, byddai eich tasgau yn cynnwys: • Paratoi, gosod a gwirio offer • Cefnogi staff addysgu a myfyrwyr yn ystod gwersi • Rhoi offer i ffwrdd ar ôl gwersi • Sicrhau amgylchedd diogel • Trefnu a storio offer; a gwirio stoc • Tasgau gweinyddol. Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd am ragor o fanylion.

Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus ddangos lefel dda o sgiliau ymarferol, yn ogystal â'r gallu i weithio gyda staff a myfyrwyr.

Defnyddiwch ffurflen gais yr ysgol gan na fydd CV yn cael ei dderbyn.

Mae Ysgol Friars wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant ac yn disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr rannu’r ymrwymiad hwn.

Mae pob penodiad yn amodol ar dderbyn dau eirda boddhaol a gwiriad DBS.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 9:30am ddydd Llun 10 Hydref 2022.
JOB REQUIREMENTS
Cyfeiriwch at ddogfennaeth manyleb yr ymgeisydd