MANYLION
- Lleoliad: Home based, Cardiff, CF24 5JW
- Testun: arolygydd
- Oriau: Amser llawn
- Cytundeb: Dros dro
- Dyddiad Dechrau: 09 January, 2023
- Dyddiad Gorffen: 24 July, 2023
- Math o gyflog: Digyflog
- Salary Range: Not Supplied
- Iaith: Saesneg
- Dyddiad Cau: 17 Hydref, 2022 10:00 y.b
This job application date has now expired.
Rydym yn chwilio am yr arweinwyr disgleiriaf a’r gorau sy’n gallu cyfrannu eu medrau, eu gwybodaeth a’u hamrywiaeth i’n gweithlu. Mae’n adeg gyffrous i ymuno â ni. Yn y cyfnod hwn o newid i system addysg a hyfforddiant Cymru, ein blaenoriaeth ni yw sicrhau bod safonau’n rhagorol wrth i’n gweithgareddau ddychwelyd i normalrwydd newydd a chyflwyno newidiadau allweddol i gynyddu’r effaith trwy ein gwaith. Byddwch yn chwarae rôl hanfodol wrth sicrhau bod arolygu yn brofiad cadarnhaol i bawb sy’n gysylltiedig.
Fel arolygydd, byddwch yn rhoi dysgwyr wrth galon popeth a wnewch a bydd y cyngor a’r argymhellion y byddwch yn eu rhoi yn dylanwadu ar ddyfodol addysg a hyfforddiant ledled Cymru. Bydd eich gwaith yn cynnwys:
• Arwain neu gyfrannu at arolygiadau, adroddiadau a gwaith cynghori, gan gynnwys arolygiadau o ddarparwyr addysg a hyfforddiant unigol ac adolygiadau ‘thematig’ ehangach yn rhychwantu sampl o ddarpariaeth yng Nghymru
• Cymryd rhan mewn datblygiadau cenedlaethol a llunio cyngor proffesiynol sydd wedi’i lunio i lywio datblygiad polisi yn eich meysydd arbenigedd
• Ymgymryd â gwaith sydd wedi’i lunio i gipio a lledaenu arfer orau a welwn drwy ein rhaglenni arolygu
• Cyfrannu at ein twf, datblygiad a newid sefydliadol
• Sicrhau ansawdd adroddiadau arolygu ac arolygon thematig
• Paratoi a chyflwyno hyfforddiant cychwynnol a hyfforddiant diweddaru i arolygwyr allanol a digwyddiadau i randdeiliaid allweddol
• Bod yn ddelfryd ymddwyn ar gyfer gwerthoedd Estyn a gweithredu er lles dysgwyr bob amser
• Hybu a diogelu lles y plant, pobl ifanc ac oedolion bregus y byddwch yn dod i gysylltiad â nhw
Cyflog: Byddwn yn ad-dalu eich cyflogwr am eich cyflog chostau ac argostau eraill (cyfraniadau pensiwn ac Yswiriant Gwladol y cyflogwr) am gyfnod y secondiad.
Oriau gwaith: pum diwrnod (dydd Llun i ddydd Gwener) o 37 awr, ac eithrio amser cinio
Lleoliad: Yn gweithio gartref, gan deithio i bob cwr o Gymru yn rheolaidd
Os oes gennych ddiddordeb mewn rôl unigryw ym maes addysg a hyfforddiant yng Nghymru, ewch i’n gwefan i gael gwybod mwy: www.estyn.llyw.cymru neu anfonwch neges e-bost atom yn recriwtio@estyn.llyw.cymru