MANYLION
  • Lleoliad: Pontyclun, Rhondda Cynon Taf, CF72 9XE
  • Testun: Dirprwy Bennaeth
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £66,886 - £73,766
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 12 Hydref, 2022 12:00 y.p

This job application date has now expired.

Dirprwy Bennaeth - Ysgol Llanhari

Dirprwy Bennaeth - Ysgol Llanhari

Ysgol Llanhari
Ysgol Llanhari

Dirprwy Bennaeth

Graddfa Cyflog: L19 - L23 £66,886 i £73,766 y flwyddyn

Cytundeb Parhaol

Swydd ar gyfer mis Ionawr 2023

Nifer ar y gofrestr: 684

Mae Ysgol Llanhari yn ysgol lwyddiannus, flaengar a chynhwysol sydd yn darparu addysg i ddisgyblion o 3 hyd at 19 mlwydd oed drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n ysgol sydd yn anelu at ddarparu’r profiadau a’r cyfleoedd gorau posibl i bob un disgybl, yn academaidd ac yn gymdeithasol, mewn amgylchedd hapus, diogel ac ysbrydoledig. Mae awyrgylch deuluol arbennig yn yr ysgol lle y gwelir disgyblion, staff, rhieni a’r gymuned ehangach yn chwarae rôl bwysig yn Nheulu Llanhari. Mae’r ysgol wedi ei lleoli yn ne Cymru, yn agos at yr M4.

Mae yma gyfle cyffrous i arweinydd ysbrydoledig a blaengar adeiladu ar lwyddiannau’r ysgol ac i lywio dyfodol a thwf yr ysgol ar y cyd â’r Pennaeth. Yn ddiweddar, clustnodwyd yr ysgol fel un a fydd yn elwa o fuddsoddiad cynllun ariannu’r 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru. Hyderwn y bydd y cynlluniau ar gyfer adeiladau ac adnoddau’r ysgol yn diwallu anghenion yr ysgol, yn adlewyrchu'r safonau a'r gwerthoedd uchel sydd eisoes yn eu lle ac sydd yn galluogi twf yr ysgol yn y dyfodol.

Yn Ysgol Llanhari, mae ymdeimlad cryf o deulu, ynghyd â staff sydd wedi ymrwymo i sicrhau addysgu a dysgu o'r safon uchaf. Mae gennym ffocws clir ar ddysgu proffesiynol. Rydym yn arwain ar feysydd dysgu proffesiynol ar ran y Consortiwm, yn Ysgol Arweiniol Addysg Gychwynnol Athrawon ac roeddem yn Ysgol Arloesol a arweiniodd ar ddylunio a datblygu Cwricwlwm i Gymru.Rydym yn cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru yn yr adran gynradd ac ym mlwyddyn 7 ers mis Medi.

Mae'r Llywodraethwyr a'r disgyblion yn awyddus i benodi arweinydd uchelgeisiol, deinamig, blaengar:

• sydd â phrofiad blaenorol o fod yn uwch arweinydd llwyddiannus
• a fydd yn parhau i gydweithio’n agos â chymuned yr ysgol i ddatblygu a hyrwyddo gweledigaeth, diwylliant a disgwyliadau uchel o bawb;
• sydd ag ymrwymiad cryf i weithio'n agos gyda phawb yn Nheulu Llanhari; disgyblion, staff, llywodraethwyr, rhieni a'r gymuned ehangach;
• sydd â’r gallu i gynllunio'n strategol a rhoi ffocws clir ar les disgyblion a staff, cyflawniad disgyblion a dysgu proffesiynol staff;
• a fydd yn modelu’r disgwyliadau uchaf posibl ar gyfer disgyblion a staff;
• a fydd yn gosod disgwyliadau uchel i ddisgyblion, gan anelu at sicrhau bod pob disgybl yn cyrraedd eu potensial ac yn rhagori – yn gymdeithasol, yn emosiynol ac yn academaidd.

Mae croeso i ddarpar ymgeiswyr ymweld â'r ysgol ddydd Iau 6ed o Hydref. Os hoffech drefnu ymweliad ar y diwrnod hwn, anfonwch e-bost at post@llanhari.com erbyn Dydd Mawrth 4ydd o Hydref 2022 os gwelwch yn dda.

Am fwy o wybodaeth am yr ysgol ewch i’n gwefan www.llanhari.com neu gwiriwch ein cyfrif trydar @YsgolLlanhari

Gellir cael ffurflenni cais, a manylion pellach ar https://rhondda-cynon-taf.tal.net/vx/lang-cy/mobile-0/appcentre-3/brand-4/xf-c76d524b2100/candidate/so/pm/4/pl/5/opp/5274-Dirprwy-Bennaeth-Ysgol-Llanhari/cy

Os oes gyda chi unrhyw ymholiadau ynghylch y broses ymgeisio, cyswllt Ellen Williams, Adnoddau Dynol, ar e-bost Ellen.M.Williams@rctcbc.gov.uk.

Dyddiad cau: 12 o’r gloch, hanner dydd, ddydd Mercher, 12fed o Hydref 2022.

Rhestr Fer: 17eg o Hydref 2022

Cyfweliadau 24ain a 25ain o Hydref 2022

MAE DIOGELU PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD YR YSGOL A CHYNGOR RHONDDA CYNON TAF. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD HEFYD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS.

Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.