MANYLION
  • Lleoliad: Bangor, Gwynedd, LL57 2JA
  • Testun: Tiwtor Oedolion
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Salary Range: £26.18 - £26.18
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 13 Hydref, 2022 9:00 y.b

This job application date has now expired.

Tiwtoriaid mewn amrywiaeth o bynciau

Tiwtoriaid mewn amrywiaeth o bynciau

Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales
Mae gennym gyfle gwych ar gyfer diwtoriaid cymwysedig i ymuno â sefydliad ledled Cymru sydd wedi ymrwymo i wasanaethu poblogaeth oedolion Cymru gyda chyfleoedd ysbrydoledig sy'n newid bywyd. Mae Addysg Oedolion Cymru yn fudiad democrataidd, annibynnol a gwirfoddol, sydd wedi ymrwymo i ehangu cyfranogiad, hyrwyddo dinasyddiaeth weithredol a datblygu sgiliau a darparu dysgu o'r ansawdd gorau, gan weithio ar y cyd gyda'i bartneriaid.

Rydym yn chwilio am diwtoriaid cymwys a medrus iawn i gyflwyno Dysgu o ansawdd uchel i ddysgwyr yng Ngwynedd. Rydym yn edrych yn arbennig am diwtoriaid i gyflwyno Celf a Chrefft, Llythrennedd Digidol, a Diwylliant a Hanes Cymru. Byddai’r gallu i gyflwyno’n ddwyieithog o fantais, ond nid yw’n hanfodol.

Byddwch yn cynllunio, datblygu, cyflwyno, gwerthuso ac asesu rhaglenni dysgu yn unol ag anghenion dysgwyr a gweithdrefnau ansawdd. Byddwch yn cyflwyno Dysgu o ansawdd uchel gan ddefnyddio ystod o ddulliau addysgu ac yn defnyddio ystod o ddulliau asesu priodol yn unol ag anghenion y dysgwyr a gofynion y corff dyfarnu. Byddwch yn sicrhau fod y dysgwyr yn derbyn adborth clir ac adeiliadol o fewn graddfeydd amser priodol.
JOB REQUIREMENTS
Mae cymhwyster addysgu Lefel 3 o leiaf neu brofiad diwydiant perthnasol yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Bydd gennych brofiad o addysg gymunedol a /neu oedolion, brofiad o ddarpariaeth perthnasol a chymryd rhan mewn gweithdrefnau ansawdd mewnol.
Byddai gwybodaeth am dechnolegau dysgu digidol, cymhwyster addysgu Lefel 5 a chymwysterau mewn Arweiniad Addysg Oedolion ac Ansawdd Mewnol yn ddymunol. Byddai’r gallu i gyflwyno’n ddwyieithog o fantais, ond nid yw’n hanfodol.