MANYLION
  • Lleoliad: Tonypandy, Rhondda Cynon Taf, CF40 1NY
  • Testun: Athro
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £27,491 - £42,333
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 07 Hydref, 2022 12:00 y.p

This job application date has now expired.

Athro/Athrawes Dosbarth Cynnal Dysgu Cyfnod Allweddol 3/4 Cyfrwng Cymraeg yn Ysgol Garth Olwg

Athro/Athrawes Dosbarth Cynnal Dysgu Cyfnod Allweddol 3/4 Cyfrwng Cymraeg yn Ysgol Garth Olwg

Rhondda Cynon Taf
CYNGOR RHONDDA CYNON TAF

Athro/Athrawes Dosbarth Cynnal Dysgu Cyfnod Allweddol 3/4 Cyfrwng Cymraeg (Anghenion Dysgu Ychwanegol Sylweddol) yn Ysgol Garth Olwg

Graddfa gyflog athrawon ynghyd â Lwfans AAA

Mae Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant Rhondda Cynon Taf yn awyddus i benodi athro/athrawes cymwysedig, deinamig ac arloesol i sefydlu Dosbarth Cymorth Dysgu cyfrwng Cymraeg newydd ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol sylweddol yn Ysgol Garth Olwg o fis Ionawr 2023. Bydd disgwyl y canlynol o'r ymgeisydd llwyddiannus:
.
• Bod yn athro/athrawes gymwysedig
• Bod wedi ymgymryd â datblygiad proffesiynol arbenigol perthnasol neu'n fodlon gwneud hynny
• Profiad o addysgu mewn lleoliad Anghenion Dysgu Ychwanegol/Cynhwysiant, naill ai mewn lleoliad uwchradd neu CA2 uwch
• Sicrhau bod lles disgyblion yn ganolog i bopeth a wnânt
• Angerdd am addysgu a dysgu a meddu ar agwedd gadarnhaol a sgiliau rhyngbersonol rhagorol
• Bod yn addysgwr rhagorol yn yr ystafell ddosbarth
• Addysgu cwricwlwm neilltuol, cytbwys, blaengar, amrywiol ac ysgogol yn unol â gofynion statudol a gofynion yr ysgol tra’n ystyried anghenion dysgu ychwanegol pob disgybl.
• Ymroi i sicrhau bod ein plant i gyd yn cyflawni i'r gorau o'u gallu

Bydd y dosbarth yn cynnal hyd at 14 o ddisgyblion a bydd staff eraill, gan gynnwys athro/athrawes a dau Gynorthwy-ydd Cynnal Dysgu.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Kate Hill yn y Gwasanaeth Cynnal Dysgu, Tŷ Trevithick, Abercynon, Aberpennar, CF45 4UQ neu ffoniwch 01443 744333.

Y dyddiad olaf ar gyfer ceisiadau yw: Dydd Gwener 7 Hydref 2022 ac 12

Mae modd cael ffurflenni cais a manylion pellach, gan gynnwys disgrifiad swydd a'r fanyleb person ar gyfer y rôl oddi neu drwy'r wefan Recriwtio Ysgolion yn https://rhondda-cynon-taf.tal.net/vx/lang-cy/mobile-0/appcentre-3/brand-4/xf-c76d524b2100/candidate. Nodwch - i gyflwyno cais am y swydd yma, mae angen i chi lenwi'r ffurflen gais ar-lein sydd ar wefan Cyngor RhCT. O beidio â llenwi'r cais ar-lein byddwn ni'n cyfrif hynny fel nad ydych chi wedi gwneud cais am y swydd.

MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R HOLL STAFF A BENODIR GAN Y CYNGOR.

YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.