MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: Prif Raddfa Gyflog ynghyd â Lwfans AAA [£2838]
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 19 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Athro/Athrawes Dosbarth Cynnal Dysgu Cyfnod Allweddol 3 a 4 (ASA)
Rhondda Cynon Taf
Cyflog: Prif Raddfa Gyflog ynghyd â Lwfans AAA [£2838]
Proffil swyddMae gofynion y swydd wedi'u nodi isod. Mae cymwysterau, sgiliau a phrofiad hanfodol wedi'u rhestru yn y Disgrifiad Swydd/Manyleb y Person. Mae'r rhain i'w gweld yn yr adran atodiadau isod.
Manylion y swydd
Manylion y swydd
Cyfeirnod swydd REQ002451 Dyddiad postio 05/06/2026 Dyddiad cau ceisiadau 19/06/2026 Cyflog Prif Raddfa Gyflog ynghyd â Lwfans AAA [£2838] Oriau gwaith 32.5 Ar sail Amser Llawn Categori/math o swydd Education - Teaching Atodiadau Ffeil JD - Teacher Aberdare - April 2022.docx JD - Teacher Aberdare - April 2022_CY-GB.docx
Athro/Athrawes Dosbarth Cynnal Dysgu Cyfnod Allweddol 3 a 4 (ASA)
Disgrifiad Swydd
Athro/Athrawes Dosbarth Cynnal Dysgu Cyfnod Allweddol 3 a 4 (Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig) wedi'i leoli yn Ysgol Gymunedol Aberdâr
Prif Raddfa Gyflog ynghyd â Lwfans AAA [£2838]
Dyddiad dechrau: 1 Medi 2026
Mae Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant Rhondda Cynon Taf eisiau penodi athro dosbarth rhagorol a llawn cymhelliant i weithio yn y Dosbarth Cynnal Dysgu ar gyfer disgyblion ag Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig (ASA) yn Ysgol Gymunedol Aberdâr, gan ddatblygu darpariaeth ar gyfer y disgyblion hynny.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymarferydd profiadol ac egnïol sy'n meddu ar yr wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth o ystod o strategaethau addysgu, dysgu, asesu a rheoli ymddygiad a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar gynnydd disgyblion ag awtistiaeth.
Ydych chi'n berson arloesol, brwdfrydig, llawn cymhelliant ac ymrwymiad? Oes gyda chi dystiolaeth gadarn o'r gallu i weithio ar y cyd yn rhan o garfan? Pe gallech chi wneud cyfraniad cadarnhaol i ddatblygiad ein disgyblion, hoffen ni glywed gennych chi.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Rachel.williams3@rctcbc.gov.uk
Os ydych chi'n cael eich cyflogi gan Gyngor Rhondda Cynon Taf ar hyn o bryd, dylech chi ymgeisio am y swydd gan ddefnyddio eich cyfrif hunanwasanaeth gweithwyr, nid y ddolen isod. Os ydych chi'n wynebu unrhyw broblemau wrth gael mynediad at eich Cyfrif Hunanwasanaeth Gweithwyr, cysylltwch â Charfan Gweinyddu iTrent drwy ffonio 01443 680760 neu e-bostio: itrentadmin@rctcbc.gov.uk
MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R HOLL STAFF A BENODIR GAN Y CYNGOR.
YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.