MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Brynrefail, Llanrug,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £31,022 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Systemau TGCh Ysgol Brynrefail

Cyngor Gwynedd

Cyflog: £31,022 y flwyddyn

Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG

YSGOLION UWCHRADD

YSGOL BRYNREFAIL, LLANRUG

(Gyfun 11 - 18 oed, 759 o ddisgyblion)

Yn eisiau: Ionawr 5ed, 2026
Swyddog Systemau TGCh a Thechnoleg

Cytundeb Parhaol

Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos.

Cytundeb Llawn Amser - nid tymor Ysgol yn unig.

Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn awyddus i benodi person brwdfrydig ac egnïol ar gyfer y swydd uchod sydd yn meddu ar y cymwysterau priodol a'r sgiliau addas. Bydd deilydd y swydd yn gyfrifol am sicrhau gweithrediad effeithiol ac effeithlon systemau TGCh a Thechnoleg yr ysgol - gweler y swydd ddisgrifiad yn y pecyn hysbysebu am ragor o fanylion.

Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa S1 pwyntiau 12-17 (sef £28,598 - £31,022) y flwyddyn, yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd yma. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb neu sydd angen mwy o wybodaeth i gysylltu i drafod yn anffurfiol hefo'r Pennaeth Mr Dylan Jones, Rhif ffôn: 01286 672381

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu i'w cyflwyno i'r Rheolwr Busnes a Chyllid, Mrs Angharad Parry Davies, Ysgol Brynrefail, Ffordd Crawia, Llanrug, Caernarfon, Gwynedd, LL55 4AD. Rhif ffôn: 01286 672381; e-bost : sg@brynrefail.ysgoliongwynedd.cymru Os dymunir ddychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

DYDDIAD CAU: 9 Y BORE, DYDD LLUN, 24ain O DACHWEDD 2025.

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.

Manylion Person

Nodweddion Personol

Hanfodol

  • Bod yn gyfathrebwr/wraig effeithiol.

  • Gallu i weithio fel rhan o dîm neu'n unigol.

  • Hyblygrwydd, ymroddiad a hunan ddisgyblaeth.

  • Meddu â'r gallu i weithio dan bwysau.

  • Gallu blaenoriaethu gwaith.

Dymunol

Cymwysterau a Hyfforddiant Perthnasol

Hanfodol

  • Cymhwyster TG / Sustemau neu'r parodrwydd i gyflawni cymhwysterau.

  • Sgiliau TG ardderchog

  • Sgiliau gweinyddol effeithiol

  • Hyfforddiant mewn diogelu plant, GDPR, a pholisïau diogelu data sy'n berthnasol i ysgolion neu'r parodrwydd i gwblhau'r hyfforddiant.

Dymunol

  • Profiad o weithio ym myd TGCh addysg.

  • Cymhwyster yn y maes TGCh.

  • Gwybodaeth am Safonau Cenedlaethol ar gyfer Cymhwysedd Digidol i gefnogi staff a d isgyblion.

  • Cymorth Cyntaf.


Profiad Perthnasol

Hanfodol

•Sgiliau gweinyddu rhwydweithiau a systemau, gan gynnwys caledwedd, meddalwedd, a datrys problemau ar draws seilwaith TG Ysgol neu'r parodrwydd i ddatblygu'r sgiliau yma.

Dymunol

•Ymwybyddiaeth o gydymffurfiaeth gan gynnwys GDPR, diogelwch rhyngrwyd, a pholis ïau diogelu sy'n berthnasol i TG mewn addysg.

•Profiad o reoli adnoddau a gweithrediadau megis trwyddedu meddalwedd, rhestrau TG, a chydweithio â chyflenwyr.

•Sgiliau cymorth a chyfathrebu i gynorthwyo staff a disgyblion yn effeithiol, gan ddarparu arweiniad TG mewn modd hyderus ac effeithlon.

•Medrusrwydd technegol gyda systemau ysgol, dyfeisiau ac apiau gan gynnwys systemau MIS, offer dosbarth a sgriniau rhyngweithiol.

•Profiad o weithio ym myd TGCh addysg.

•Dealltwriaeth o ofynion Deddf Iechyd a Diogelwch.

•Parodrwydd ac ymrwymiad i hyfforddi ar gyfer y r ôl hon yn ôl yr angen

•Profiad o amrywiaeth o feddalweddau mae ysgol yn eu defnyddio er mwyn cefnogi eu cwricwlwm.

Sgiliau a Gwybodaeth Arbenigol

Hanfodol

•Profiad technegol ymarferol gyda chaledwedd, meddalwedd, gweinyddion, cyfrifon defnyddwyr, a thechnolegau dosbarth fel sgriniau rhyngweithiol.

Dymunol

•Dealltwriaeth o GDPR, diogelwch rhyngrwyd, a pholis ïau diogelu plant sy'n hanfodol mewn amgylchedd ysgol.

•Profiad o weithio mewn ysgol gan gynnwys cefnogi staff a disgyblion, a gwybodaeth am ofynion addysgol.

•Sgiliau cyfathrebu a hyfforddi i gynnig cymorth TG sylfaenol i ddefnyddwyr nad ydynt yn dechnegol.

•Profiad o reoli gwefannau ysgol, llwyfannau mewnol, a chydweithio â chyflenwyr allanol.

•Profiad o weithio mewn gweithdai dylunio a thechnoleg.

•Gwybodaeth gadarn am reoli risg ac iechyd a diogelwch.

Gallu dehongli ac ymateb i broblemau.

Parodrwydd ac ymrwymiad i hyfforddi ar gyfer y r ôl hon yn ôl yr angen .

Anghenion Ieithyddol

Gwrando a Siarad

Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.

Darllen a Deall - Lefel Uwch

Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.

Ysgrifennu - Lefel Uwch

Gallu cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosibl cael cymorth i wirio'r iaith).

Swydd Ddisgrifiad

TEITL Y SWYDD: SWYDDOG SUSTEMAU TGCh A THECHNOLEG

YSTOD CYFLOG: Graddfa Gweithwyr Llywodraeth Leol - S1 (pwyntiau 12-17)

AMODAU GWAITH: Yn unol ag amodau gwaith Cenedlaethol ac atodol lleol Cyngor Gwynedd ar gyfer staff G.P.T. ac Ch. A gweithwyr llaw.

Dyddiau Gwaith: Llun i Gwener.

Oriau Gwaith: Cytundeb Llawn Amser - nid tymor Ysgol yn unig 37 awr yr wythnos

8:00 - 4:00 Dydd Llun i Dydd Iau.

8:00 - 3:30 Dydd Gwener. G yda 30 munud di-d âl i ginio pob dydd.

Gwyliau: 24 diwrnod statudol y flwyddyn a 3.5 diwrnod ychwanegol hyd at pum mlynedd o wasanaeth.

29 diwrnod statudol y flwyddyn a 3.5 diwrnod ychwanegol ar ôl pum mlynedd o wasanaeth.

Rhybudd Gadael: Yn ysgrifenedig mis ymlaen llaw.

YN ATEBOL I: Cyd-Gysylltydd TGCh

PWRPAS Y SWYDD: Bydd y Swyddog Systemau TGCh a Thechnoleg yn gyfrifol am sicrhau gweithrediad effeithiol ac effeithlon systemau TGCh a Thechnoleg yr ysgol.

CYFRIFOLDEBAU PENODOL:
  • Rheoli a gweinyddu systemau cyfrifiadurol yr Ysgol mewn ymgynghoriad â Gwasanaeth Digidol Ysgolion y Sir.

  • Gweinyddu database a system catalogio a labelu offer - stoc gliniaduron staff a disgyblion, caledwedd/meddalwedd, offer/adnoddau technegol, sgriniau rhyngweithiol ac adnoddau addysgiadol yr ysgol.

  • Recordio gwaith cynnal a chadw, gan gynnwys toriadau a cholledion.

  • Gyda'r Cyd-gysylltydd TGCh cynghori'r UDRh ar ddatblygiadau yn y maes TGCh ac adolygu darpariaeth yr ysgol yn rheolaidd.

  • Rheoli gwariant Adnoddau Technoleg Gwybodaeth mewn ymgynghoriad â'r Cyd-gysylltydd TGCh/UDRh.

  • Rheoli a monitro holl stoc/offer a meddalwedd TGCh ar draws yr ysgol.
  • Rhoi cefnogaeth arbenigol TGCh i staff a disgyblion yn ôl y galw, yn dilyn ymgynghoriad gyda'r cyd-gysylltydd TGCh.
  • Cynorthwyo'r Rheolwr Systemau Rheolaethol gyda'r system rheoli gwybodaeth ysgol (MIS) ac unrhyw feddalwedd trydydd parti i gynnwys sefydlu/diweddaru/rheoli mynediad defnyddwyr.
  • Cydlynnu arsefydlu a chynnal meddalwedd cwricwlaidd a meddalwedd gwrth firws mewn cydweithrediad â gwasanaeth digidol Gwynedd.
  • Cefnogaeth ddigidol i Swyddog Arholiadau yr Ysgol yn ystod cyfnodau arholi/asesu yn cynnwys paratoadau blaenllaw.
  • Rheoli mynediad cyfrifon sustemau cyffredinol yr Ysgol.
  • Gosod offer newydd a chynnal a chadw a monitro'r defnydd o holl offer TGCh yr Ysgol, gan gynnwys gliniaduron, ffonau a sgriniau rhyngweithiol.
  • Rheoli, monitro a gweinyddu llogiadau ystafelloedd ysgol gyfan a'r bws mini gan gynnwys llogiadau mewnol ac i gyrff allanol.
  • Cynnal a chadw a gweinyddu'r system llogi offer TGCh.
  • Rheoli scriniau gwybodaeth/arddangos, system mewngofnodi ymwelwyr.
  • Rheoli meddalwedd PaperCut (system monitro argraffu).
  • Gweinyddu a rheoli dyfeisiadau argraffu dan gontract sydd gan yr ysgol mewn cydweithrediad â'r cwmni darparu. Gofalaeth dydd i ddydd o'r dyfeisiadau gan gynnwys monitro ink a lefelau papur.
  • Cydgordio mynediad i system 'CCTV' yr ysgol mewn cydweithrediad â gwasanaeth digidol ysgolion.
  • Cyd-weithio gyda cwmni system 'cashless' y Ffreutur i sicrhau mynediad i'r system.
  • Cyd-weithio gyda UDRh i gynnal proffil cyhoeddus yr ysgol ar wefan yr ysgol a gwefannau cymdeithasol.
  • Gosod a pharatoi y Ystafelloedd gydag offer TGCh yn unol â'r gofyn gan gynnwys i asiantaethau allanol.
  • Gweithredu fel deilydd allwedd ar gyfer yr Ysgol - agor a chau'r Ysgol yn ystod gwyliau a/neu salwch y Rheolwr Safle.
  • Cefnogi o fewn y gyfadran Dechnoleg gan ddarparu cefnogaeth i baratoi adnoddau ar gyfer gwersi ymarferol.

  • Cynnal meddalweddau pwrpasol sydd yn cefnogi cwricwlwm yr Ysgol.

CYFRIFOLDEBAU DIOGELWCH:
  • Sicrhau bod yr holl weithdrefnau iechyd a diogelwch yn cael eu deall a'u dilyn yn gywir yn yr Ystafelleoedd TGCh a adran dechnoleg. Monitro a gweinyddu hawliau/mynediad a diogeledd y We mewn cydweithrediad â Gwasanaeth Digidol y Sir.

  • Sicrhau bod trefn o arbed ynni yn cael ei ddilyn gyda holl offer TGCh yr ysgol.

  • Cadw golwg ar gyflwr yr offer TGCh a'r gweithdai Technoleg.

  • Cydymffurfio a pholisïau a gweithdrefnau sy'n berthynol i amddiffyn plant, iechyd, diogelwch a diogeled, cydgyfrinachedd a gwarchod data, adrodd ar bob pryder i berson priodol.

  • Arolygu, gwasanaethu ac atgyweirio offer: peiriannau trwm, offer p ŵer cludadwy ac offer yr adrannau yn rheolaidd.

  • Gofalu am systemau diogelwch: system sugno llwch (archwiliadau dyddiol/wythnosol, cofrestri, profion LEV), asesiadau risg, a diweddariadau Iechyd a Diogelwch (CLEAPSS).

  • Trefnu gwaredu diogel o offer, peiriannau a defnyddiau, gan sicrhau cydymffurfiad â safonau.

  • Datblygu sgiliau a chydymffurfio: mynychu cyrsiau perthnasol (e.e. COSHH) a chyflawni dyletswyddau ychwanegol yn ôl gofyn y Pennaeth.

CYFRIFOLDEBAU PERSONOL:
  • Rheoli amser gan flaenoriaethu tasgau yn briodol.

  • Cyd-weithio'n effeithiol â holl staff yr ysgol.

YCHWANEGOL:
  • Tra bod pob ymdrech wedi'i gwneud i esbonio prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau'r swydd, efallai nad yw pob tasg unigol wedi'i nodi.

  • Gweithredir Cynllun Gwerthuso yn yr ysgol. Disgwylir i ddeilydd y swydd fod yn rhan o'r broses.
  • Nid yw'r swydd ddisgrifiad hon yn ffurfio rhan o gytundeb cyflogaeth.

  • Disgwylir i ddeilydd y swydd gydymffurfio ag unrhyw gais rhesymol gan reolwr i ymgymryd â gwaith o lefel debyg nad yw wedi'i nodi yn y swydd ddisgrifiad hon.
  • Bydd yr ysgol yn gwneud pob ymdrech i gyflawni unrhyw addasiadau rhesymol i'r swydd a'r amgylchfyd gwaith i alluogi mynediad at gyfleoedd cyflogaeth ar gyfer ymgeiswyr anabl neu gyflogaeth barhaol ar gyfer cyflogai sy'n datblygu cyflwr sy'n anablu.
  • Mae'r swydd ddisgrifiad yn gyfredol ar y dyddiad a ddangosir, ond yn dilyn ymgynghori â chi, gellir ei newid gan reolwr er mwyn adlewyrchu neu ragweld newidiadau yn y swydd sy'n gymesur â'r cyflog/lwfans a theitl y swydd.


  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi